麻豆约拍

Neil Foden 'wedi dweud ei fod yn fy ngharu'

Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Foden yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.

Dywedodd merch yn ei harddegau, sy'n honni iddi gael ei cham-drin gan brifathro, wrth yr heddlu ei fod wedi dweud ei fod yn ei charu.

Honnir bod Neil Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau 芒 phlant.

Mae Mr Foden, 66 o Hen Golwyn, yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud 芒 phum plentyn.

Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Ar ail ddiwrnod yr achos yn ei erbyn fe ddangoswyd fideo o gyfweliad y prif achwynydd - Plentyn A - gyda'r heddlu.

Cafodd Mr Foden ei arestio ar 么l i'r plentyn dan sylw ddangos llun ohoni hi gyda Mr Foden yn ei gar i oedolyn arall, a lluniau o drafodaethau o natur rywiol rhwng y ddau.

Yn ei chyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y plentyn fod Mr Foden wedi ei rhybuddio i beidio 芒 dweud wrth unrhyw un am yr hyn roedden nhw'n ei wneud, ac i "gymryd y peth i'r bedd".

Dywedodd bod y ddau wedi dechrau cyfnewid negeseuon ar WhatsApp.

鈥淏yddai鈥檔 dweud ei fod yn fy ngharu i. Ar 么l ychydig fe aeth ychydig yn fwy rhywiol," meddai.

鈥淎r 么l i ni gusanu ychydig ddyddiau鈥檔 ddiweddarach fe roddodd ei ddwylo i lawr fy nhrowsus, a byddai鈥檙 negeseuon testun yn dweud beth roedd am ei wneud i mi.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neil Foden yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug ar ddiwrnod cyntaf yr achos

Yna gofynnodd y swyddog iddi am y tro cyntaf i Mr Foden roi ei fysedd ynddi.

Meddai: 鈥淓s i'n nerfus iawn oherwydd doeddwn i erioed wedi cael bachgen yn gwneud hynny o'r blaen.

鈥淒ywedodd fod hynny'n iawn. Cariodd ymlaen beth bynnag... felly fe wnes i adael iddo wneud hynny."

Gofynnodd y swyddog: 鈥淪awl gwaith wnaeth o hynny?鈥

Atebodd hi: 鈥淎r 么l hynny, trwy鈥檙 amser.鈥

'Ro'n i eisiau mynd adref'

Dywedodd y ferch y byddai Mr Foden yn ei n么l hi yn ei gar ac yn gyrru i fannau distaw ar ffyrdd gwledig, ble byddai Mr Foden yn ei cham-drin.

Dywedodd y byddai'r teithiau yma gyda Mr Foden fel arfer yn para am ddwy neu dair awr.

Roedd y trefniadau wastad yn cael eu gwneud dros negeseuon tecst, meddai, ac weithiau roedd cannoedd o negeseuon y dydd, yr oedd hi'n eu dileu.

Yn 么l Plentyn A, roedd y cyfarfodydd yn digwydd unwaith neu ddwywaith yr wythnos i ddechrau, ac yna鈥檔 ddyddiol.

Dywedodd y ferch, ar un achlysur, fod Mr Foden wedi "gafael ynddi a pheidio stopio".

"Roedd o'n gwenu ac yn dweud dim," meddai. "Ro'n i eisiau mynd adref."

Penderfynu dweud wrth oedolyn

Dywedodd y ferch, ar 么l rhyw chwe mis, ei bod hi wedi dechrau meddwl nad oedd hi eisiau gweld Mr Foden eto, a bod ganddi "deimladau cymysg".

"Ro'n i mewn penbleth. Dyna pryd nes i feddwl am ddweud [yr hyn oedd yn digwydd]," meddai.

Dywedodd ei bod wedi dweud wrth ddau ffrind am yr hyn oedd yn digwydd, a bod un "mewn sioc" a'r llall wedi ei hannog i ddweud wrth rywun.

Dyna pryd y dywedodd hi wrth oedolyn am yr hyn oedd wedi bod yn digwydd, meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes

Wrth roi tystiolaeth o'r tu 么l i sgrin brynhawn Mawrth, dywedodd Plentyn A wrth y llys nad oedd hi鈥檔 si诺r a oedd hi鈥檔 caru Neil Foden ar y pryd.

鈥淒wi ddim yn si诺r sut oeddwn i鈥檔 teimlo,鈥 meddai.

鈥淥edd ganddoch chi crush arno?鈥 gofynnodd yr amddiffyniad

鈥淣a,鈥 atebodd. 鈥淒oeddwn i ddim yn ei gas谩u o. Doeddwn i ddim yn gwybod sut o鈥檔 i鈥檔 teimlo. Ro'n i鈥檔 ddryslyd.鈥

Fe wnaeth yr amddiffyniad ei chyhuddo o ddweud celwydd yngl欧n 芒鈥檙 berthynas oedd rhyngddyn nhw.

鈥淒wi鈥檔 derbyn fod Neil Foden wedi eich cofleidio, a gafael yn eich llaw,鈥 meddai Duncan Bould.

鈥淥nd ddigwyddodd dim byd rhywiol.鈥

Atebodd y ferch: 鈥淒o, mi 'naeth o ddigwydd.鈥

'Ofn' datgelu'r berthynas

O bryd i鈥檞 gilydd yn ystod dros awr a 40 munud o gael ei chroesholi, roedd yna ychydig funudau o oedi gan fod Plentyn A yn crio.

Clywodd y llys fod y ferch wedi anfon lluniau o'i hun at Neil Foden.

Dywedodd Plentyn A mai ei syniad hi oedd eu hanfon y tro cyntaf, ond ar 么l hynny 鈥渞oedd o鈥檔 gofyn amdanyn nhw鈥.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo "ofn" datgelu'r hyn oedd wedi digwydd i鈥檙 awdurdodau.

Mae'r achos yn parhau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆约拍.

Pynciau cysylltiedig