Teyrnged rhieni i redwr, 37, fu farw ar 么l Hanner Marathon Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Stephen Jenkins, 37, yn yr ysbyty ar 么l cael ataliad ar y galon

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r rhedwr fu farw ar 么l cymryd rhan yn ras Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul.

Bu farw Stephen Jenkins, 37 oed, yn yr ysbyty ar 么l cwympo ar y llinell derfyn.

Yn 么l trefnwyr y ras, Run 4 Wales, fe gafodd Stephen ataliad ar y galon ac fe dderbyniodd ofal "yn syth" gan d卯m argyfwng meddygol y digwyddiad.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond bu farw yn ddiweddarach.

Cafodd ei fagu yn Rhydaman, ond symudodd i Walthamstow, Llundain, lle fuodd yn byw gyda'i bartner Rhiannon Cole a'u merch 18 mis oed, Mabli.

Dywedodd rhieni Stephen, Karen a Dyfrig Jenkins, ei fod yn 鈥渇ab gwych, partner cariadus a thad anhygoel鈥.

Angerddol am rygbi a'r Gymraeg

Roedd Stephen - a astudiodd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen - yn gweithio fel Uwch Gyfarwyddwr mewn Datblygu Busnes i gwmni SquareTrade.

Wrth dalu teyrnged i'w fab, dywedodd Dyfrig Jenkins: "Roedd Stephen yn ffrind i bawb. Roedd e'n ofalgar iawn, yn ffyddlon iawn ac yn hyfryd gyda'r plant.

鈥淩oedd e'n berson gwirioneddol garedig.

"Roedd Stephen yn rhedwr a beiciwr brwd ac yn angerddol iawn am rygbi Cymru.

鈥淩oedd ganddo ef a'i dad-cu docynnau ger y llinell hanner ffordd yn Stadiwm Principality - anaml y collon nhw g锚m ers i'r stadiwm agor.

鈥淩oedd hefyd yn hynod angerddol am ei wreiddiau Cymreig a'r iaith Gymraeg. Er bod ei ferch yn cael ei magu yn Llundain, mae hi'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg yn barod.

"Roedd Stephen yn fab gwych i ni drwy gydol ei oes. Roedd yn garedig ac yn ofalgar. Ef oedd y tad gorau yn y byd i'n hwyres Mabli ac yn bartner gwych i Rhiannon."

Roedd dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i redeg yn y ras ddydd Sul - y nifer fwyaf yn hanes y digwyddiad.