Â鶹ԼÅÄ

Dyn, 75, wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd

CwmbranFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y groesffordd rhwng Rhodfa Cocker a Ffordd Henllys

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 75 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yng Nghwmbrân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Rodfa Cocker tua 18:00 nos Iau.

Dywedodd Heddlu Gwent fod tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - Caterham glas, Hyundai glas a fan Ford Transit.

Fe ddywedon nhw fod gyrwyr un o'r cerbydau - dyn 75 oed o Gwmbrân - wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig