Trywanu Rhydaman: Merch 14 oed yn y llys

Disgrifiad o'r llun, Presenoldeb heddlu ger Ysgol Dyffryn Aman ar ddiwrnod y digwyddiad

Mae merch 14 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe i wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio tri pherson mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd dwy athrawes - Fiona Elias a Liz Hopkin - a disgybl eu hanafu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, fis diwethaf.

Ymddangosodd y ferch ar gyswllt fideo i gadarnhau ei henw, ond ni all hynny gael ei ddatgelu oherwydd ei hoedran.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walters y bydd y ferch yn ymddangos eto am wrandawiad i bledio, a hynny yn Abertawe ar 12 Awst.

30 Medi yw'r dyddiad a bennwyd ar gyfer cychwyn yr achos yn ei herbyn.