鶹Լ

Y gymuned yn cofio 120 mlynedd ers boddi Cwm Elan

Cwm ElanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 120 o flynyddoedd ers i Gwm Elan gael ei foddi i ddarparu dŵr i ddinas Birmingham

  • Cyhoeddwyd

“Roedd fy hen nain a thaid yn byw yn Henfron ac fe welson y cyfan yn digwydd am fod y fferm yn edrych i lawr dros argae Garreg Ddu.

“Roedden nhw’n teimlo’n drist iawn am yr holl beth.”

120 o flynyddoedd ers i Gwm Elan ym Mhowys gael ei foddi i ddarparu dŵr i ddinas Birmingham, mae’r gymuned yn cofio.

Colli tir ond cadw’r tŷ oedd hanes teulu Betty Davies nôl yn 1893.

Yn cyfri' eu hunain yn un o’r rhai lwcus, fe gollodd hyd at 100 o’u cymdogion y cyfan.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae rhai o’r teuluoedd yn dal i deimlo’n chwerw," meddai Betty Davies

Cafodd dau blasty a dros 40 o adeiladau eu dymchwel, gan gynnwys 18 o ffermydd, melin fechan, ysgol a chapel.

Fe ailadeiladwyd yr ysgol a’r capel ar gyfer y 10,000 o weithwyr oedd yn adeiladu’r pedwar argae.

Meddai Betty Davies: “Pan gafodd yr argae ei adeiladu, gafodd y ffordd oedd yn arwain i fyny at y tŷ ei ddinistrio.

"Buodd y teulu yn byw yno heb fynediad am 55 o flynyddoedd nes bod Birmingham yn adeiladu ffordd dros dro at y tŷ.”

Hanes 'anesmwyth'

Dŵr Cymru sy'n berchen ar gronfa ddŵr Cwm Elan erbyn hyn, gyda dŵr yn dal i deithio 70 filltiroedd, trwy rym disgyrchiant, i ddinas Birmingham.

Mae dŵr hefyd yn teithio i ganolbarth a de Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae yna bynciau dadleuol ynglŷn â chodi’r argae, ac falle bod yr hanes yn creu anesmwythdod," meddai Gwyddno Dafydd

Yn cydnabod hanes sy’n “creu anesmwythdod”, fe ddywedodd Gwyddno Dafydd o Dŵr Cymru bod dathlu 120 o flynyddoedd yn bwysig.

“Mae yna bynciau dadleuol ynglŷn â chodi’r argae ac falle bod yr hanes yn creu anesmwythdod.

"Fe gafodd y penderfyniad ei wneud, ac falle bod agweddau o hynny yn anodd, ond ni byth eisiau anghofio'r hanes."

Un o’r pethau sy’n denu degau ar filoedd o dwristiaid i Gwm Elan bob blwyddyn yw dyluniad unigryw yr argaeau.

Ychwanegodd Mr Dafydd: “Mae dŵr yn teithio dros ochr waliau yr argae ac mae hynny yn wahanol iawn i argaeau eraill.

"Fe wnaethon nhw feddwl yn galed nid yn unig am sut oedd y system yn gweithio, ond sut mae'n edrych i sicrhau bod elfen smart i’r gwaith oedd yn cael ei wneud yma.”

'Cyfnod trawsnewidiol i’r cwm'

Fe gafodd Ddeddf Cynllun Dŵr Corfforaeth Lerpwl gael ei phasio ym 1880, a arweiniodd at adeiladu Cronfa Llyn Efyrnwy.

Yn fuan wedyn, yn 1893, daeth cynllun Cwm Elan.

Ar y pryd, hon oedd y gronfa ddŵr artiffisial fwyaf yn Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

“Roedd cymuned Cwm Elan yn amaethyddol iawn ac yn un glos iawn," meddai Bethan Hopkins-Williams

Mae Bethan Hopkins-Williams yn gweithio i’r Comisiwn Brenhinol, sydd â chofnodion o bensaernïaeth yr adeiladau a gollwyd, yn ogystal â deunydd archif o’r hanes.

“Roedd cymuned Cwm Elan yn amaethyddol iawn ac yn un glos iawn. Roedd cneifio yn ddiwrnod pwysig a byddai’r ffermydd i gyd yn cyd-dynnu," meddai.

Mae cofnodion o’r cyfrifiad yn dangos yr amrywiaeth o lefydd aeth cymuned Cwm Elan i fyw yn dilyn y boddi.

“Oherwydd mai bugeila oedd gwaith sawl un, aeth nifer i ffermydd cyfagos," meddai Ms Hopkins-Williams.

"Mae tystiolaeth trwy’r cyfrifiad yn dangos bod eraill wedi mynd yn bellach i ffwrdd ac yn cael gwaith diwydiannol yn ne Cymru, yn y glofeydd.

“Mae hefyd yn bwysig cofio bod cymuned wedi ei chwalu, ond bod cymuned newydd enfawr wedi symud i mewn i’r ardal er mwyn adeiladu’r argae.

“Daeth miloedd o bobl a’u teuluoedd, i fyw yma o Loegr, Yr Alban, Iwerddon ac o ardaloedd rhyngwladol hefyd - Seland Newydd, Awstralia, Yr Eidal a Denmarc.

"Roedd yn gyfnod trawsnewidiol i’r cwm.”

Disgrifiad o’r llun,

“Mae rhywfaint o ddrwgdeimlad yn dal i fodoli yn lleol am yr argae," medd Tony Davies

Mae’r genhedlaeth nesaf yn byw ar fferm Henfron heddiw, sef nith Betty, Tony Davies.

“Mae rhywfaint o ddrwgdeimlad yn dal i fodoli yn lleol am yr argae, ond mae Cwm Elan yn lle prydferth iawn heddiw.

"Fe gafodd pentref newydd ei greu yn is lawr y dyffryn a cafodd swyddi eu creu.

"Roedd yn le prydferth cyn adeiladu’r argae ac mae’n le prydferth nawr hefyd.

“Oes, mae straeon trist am hanes rhai 'naeth orfod symud, ond fe arhosodd llawer iawn o’r bobl yn lleol ac mae’r cysylltiadau teuluol yna’n dal i fodoli yn Rhaeadr heddiw."

'Symud ymlaen'

Yn cytuno, ychwanegodd Betty Davies: “Mae rhai o’r teuluoedd yn dal i deimlo’n chwerw. I fi, mae'n rhaid i ni geisio symud ymlaen.

“Mae cymaint o ymwelwyr yn dod i Rhaeadr heddiw.

"Byddai’r cwm wedi bod yn un cyffredin, digon tawel, heb yr argae - ond mae'n brysur yma heddiw.

"Er ein bod ni dal i deimlo yn drist am yr hanes wrth gwrs."

Pynciau cysylltiedig