Y plant sy'n teithio 7,000 o filltiroedd i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd

Disgrifiad o'r fideo, Mae criw o ddisgyblion ac athrawon wedi teithio o Batagonia i ymweld â Chymru
  • Awdur, Annell Dyfri
  • Swydd, 鶹Լ Cymru Fyw

Nid plant o Gymru a Lloegr yn unig fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae criw o ddisgyblion o Batagonia wedi hedfan dros 7,000 o filltiroedd i Gymru ac yn bwriadu cystadlu yn yr Eisteddfod yn ystod eu hymweliad.

Bydd criw o Ysgol Gymraeg y Gaiman hefyd yn cystadlu yn rhithiol.

Dywed un fam o Batagonia ei bod yn awyddus i roi'r profiad i'w phlant "gael eisteddfod wahanol i'r rhai sydd efo ni draw yn y Wladfa".

Mae hynny, medd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Llio Maddocks, yn "brawf pellach... o bŵer y celfyddydau i godi pontydd yn rhyngwladol".

'Eisteddfod wahanol iawn' i rhai Patagonia

Disgrifiad o'r llun, Tair chwaer o Batagonia - Elin Mair, Seren Wen ac Alaw Haf - a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn

Mae tair chwaer, Elin Mair, Seren Wen ac Alaw Haf, wedi dod i Gymru gyda'u rhieni am gyfnod i weld teulu sy'n byw yma yn sgil Ysgoloriaeth Michael Jones, gan Gymdeithas Cymru Ariannin.

Bydd y tair yn cystadlu yn yr Eisteddfod, a hynny am y tro cyntaf.

Wrth siarad â 鶹Լ Cymru Fyw, dywedodd Seren, sy'n saith oed, ei bod yn "edrych ymlaen at gystadlu".

Dywedodd ei bod eisoes wedi cystadlu yn eisteddfod pobl ifanc y Gaiman yn "chwarae'r delyn, canu yn y côr, canu unawd, adrodd a dawnsio" ond mai dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Fe wnaeth y merched gystadlu yn y rhagbrofion y tu allan i Gymru, a nawr byddan nhw yn anelu ar berfformio ar lwyfan yr Urdd ym Meifod.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Y teulu MacDonald yng Nghaerdydd

Dywedodd Cinthia, mam y merched, fod yr "eisteddfod yma yn wahanol iawn i'r eisteddfod draw ‘na [ym Mhatagonia]".

"Dwi'n edrych ymlaen iddyn nhw gael y profiad a mwynhau nid dim ond bod yn y pafiliwn, ar y llwyfan, ond popeth allan hefyd ar y maes."

Ychwanegodd bod athrawes yn y Gaiman, Llinos, wedi bod "yn gwrando ar Seren ac Alaw unwaith yr wythnos a rhoi tips iddyn nhw".

Dywedodd Elin, sy'n naw oed: "Dwi'n edrych ymlaen i ddod i nabod y lle a chwrdd â phobl arall o Gymru."

Ers i'r teulu ddod i Gymru, mae Elin wedi cael cyfle i ganu gyda Chôr Ysgol Gerdd Ceredigion yng nghystadleuaeth ddiweddar Côr Cymru.

Balchder yn y merched

Dywedodd Cinthia ei bod "eisiau rhoi'r profiad iddyn nhw gael eisteddfod wahanol i'r rhai sydd efo ni draw yn y Wladfa ac iddyn nhw weld pethau newydd”.

"Draw, gyda ni dim ond y llwyfan a dim byd arall," meddai, "ac mae mwy o gystadleuaeth yma o ran dawns a chaneuon actol 'dan ni ddim yn cael.

"Dwi'n falch iawn ohonyn nhw, wedi dysgu darnau, dod yma a bod yn yr ysgol ac adnabod ffrindiau newydd, ymarfer Cymraeg gyda phobl o Gymru, mae'n bwysig".

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r athrawon sydd wedi dod draw i Gymru fel rhan o gynllun 'Taith' Llywodraeth Cymru a'r Mudiad Meithrin

Un arall a fydd yn cystadlu yn y cyd-adrodd gydag Ysgol y Gaiman yw Lowri.

Bydd Lowri ar y llwyfan ym Meifod tra bydd gweddill ei ffrindiau yn perfformio yn rhithiol o Batagonia.

Dywedodd Lowri, sy’n 11 oed ei bod yn "mwynhau sdeddfota" ac mae hi "wedi bod yn ymarfer adre".

Mae hi wedi teithio gyda'i mam Angelica Evans, sy'n athrawes Gymraeg yn Ysgol y Gaiman ac yn ymweliad â Chymru am y trydydd tro.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Angelica Evans â'i merch Lowri yn teithio i Gymru

Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod, dywedodd Angelica Evans: "Dwi'n meddwl dwi'n gallu dychmygu diwylliant Cymreig achos dwi'n cefnogi eisteddfodau yn y Wladfa.

"Ma' gynnon ni lawer o eisteddfodau yn y Wladfa, felly dwi'n edrych ymlaen i weld sut mae plant yn cystadlu yma.

"Mae Cymraeg yn bwysig i ni fel ysgol - 'dan ni'n cefnogi'r iaith, y diwylliant Cymreig."

Mae'r cyfle i fod yn Eisteddfod yr Urdd, meddai, yn un "cyffrous" ac mae hi'n "mwynhau ymarfer ac yn hoffi dangos y Gymraeg".

'Croeso cynnes' yng Nghymru

Mae Romina Hererra, athrawes yn Ysgol Trelew, yn rhan o'r criw sydd wedi dod i Gymru fel rhan o gynllun 'Taith' Llywodraeth Cymru gyda'r Mudiad Meithrin.

"Cryfhau’r cysylltiadau rhwng Patagonia a Chymru" yw'r nod yn ôl y mudiad.

A hithau'n edrych ymlaen at gael mynd i'r Eisteddfod, dywedodd Romina ei bod wedi mwynhau ymweld â meithrinfeydd hefyd ar eu taith o amgylch Cymru.

"'Dan ni'n mwynhau ac yn cael lot o amser da yng nghwmni ysgolion a phobl sy'n gweithio mewn ysgolion, a 'dan ni wedi cael croeso cynnes iawn ganddyn nhw," dywedodd.

"Mae'n debyg iawn achos 'dan ni'n ddau ochr y byd yn trio'n gorau yn y Gymraeg a'n trio'n gorau i gael y mwyaf o'r amser yn yr ysgol i blant glywed y Gymraeg gymaint ag y maen nhw'n gallu."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Romina bod Cymru a Phatagonia'n "debyg iawn achos 'dan ni'n ddau ochr y byd yn trio'n gorau yn y Gymraeg"

Hwn hefyd yw trydydd ymweliad Jessica Silvia, â Chymru.

Dywedodd yr athrawes yn Ysgol y Cwm, Yr Andes ei bod yn braf dod i Gymru a mynd i'r Eisteddfod gyda'i merch, Seren.

Dywedodd fod "pedair eisteddfod gyda ni" ym Mhatagonia.

"Dwi'n meddwl mae'n brofiad neis iddi hi glywed yr iaith a hefyd defnyddio'r iaith Gymraeg achos mae hi'n mynd i Ysgol y Cwm lle maen nhw'n dysgu Cymraeg," meddai.

Sbaeneg yw mamiaith Jessica, a ddysgodd y Gymraeg yn 17 oed. Gan nad yw'n siarad Saesneg, dywedodd bod hi'n gallu bod yn "anodd fan hyn pan 'dan ni'n mynd i siopa".

Disgrifiad o'r llun, Dywed Jessica ei fod yn "brofiad neis" i'w merch glywed y Gymraeg tra yng Nghymru

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru fod "gan yr Urdd hanes hir a balch o greu a chynnal cysylltiadau rhyngwladol".

Ychwanegodd: "Mae'r ffaith fod unigolion ac ysgolion o du allan i Gymru yn cystadlu ac yn ymweld â’n Eisteddfod eleni yn dangos apêl yr ŵyl i blant a phobl ifanc o bob cwr.

"Dyma brawf pellach hefyd o bŵer y celfyddydau i godi pontydd yn rhyngwladol.”