Â鶹ԼÅÄ

Ymchwilio i honiad fod dyfarnwr wedi atal tîm rhag siarad Cymraeg

DyfarnwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni'n honni bod y dyfarnwr wedi gofyn i rai chwaraewyr beidio siarad Cymraeg mewn gêm bêl-droed ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o adroddiadau bod dyfarnwr wedi dweud wrth dîm pêl-droed dan-12 am beidio â siarad Cymraeg mewn gêm y penwythnos diwethaf.

Roedd merched Clwb Cymric o Gaerdydd yn chwarae gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn merched Gurnos ym Merthyr Tudful ddydd Sul.

Mae rhieni wedi honni ar y cyfryngau cymdeithasol bod y dyfarnwr wedi gofyn i rai o’r chwaraewyr beidio â siarad Cymraeg oherwydd nad oedd yn gallu eu deall.

Dywedodd un mewn post sydd wedi'i ddileu: "Mae'r Welsh Not yn fyw ac yn iach yn 2024."

Mae CBDC yn dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Bêl-droed De Cymru, sy'n gyfrifol am gymryd unrhyw gamau gweithredu.

Ar X dywedodd prif weithredwr CBDC Noel Mooney: "Rydyn ni'n gwirio hyn.

"Wrth gwrs, rydym am annog y defnydd o'r Gymraeg ym mhêl-droed Cymru cymaint â phosib!"