Plaid Werdd: 'Dod â'n gwasanaethau cyhoeddus yn ôl o'r dibyn'

Disgrifiad o'r llun, Anthony Slaughter yw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Fe allai biliynau o bunnau gael eu buddsoddi ym meysydd iechyd, addysg, tai a thrafnidiaeth yng Nghymru drwy godi trethi ar "y cyfoethocaf mewn cymdeithas” a thrwy fwy o fenthyca gan y llywodraeth, yn ôl Plaid Werdd Cymru.

Cyn lansio ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ddydd Mercher, dywedodd arweinydd y blaid Anthony Slaughter fod angen yr arian "i ddod â'n gwasanaethau cyhoeddus yn ôl o'r dibyn".

"Ar ôl blynyddoedd o anghydraddoldeb cynyddol, mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod gan yr unigolion a'r cwmnïau cyfoethocaf," meddai.

Dywedodd y blaid y bydd ei maniffesto yn cynnig "gweledigaeth flaengar, ysbrydoledig ar gyfer Cymru sy'n ysu am newid".

Mae’r Gwyrddion yn cynnig treth cyfoeth newydd ar asedau dros £10m o 1% y flwyddyn, gan godi i 2% ar asedau gwerth mwy na £1bn.

Maen nhw’n dweud y bydden nhw hefyd yn codi credyd cynhwysol £40 yr wythnos ac yn cynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol i £15 yr awr i bawb dros 16 oed.

Mae’r blaid yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac eisiau i’r Senedd gael yr un pwerau â Senedd yr Alban fel y cam cyntaf ar daith tuag at adael y Deyrnas Unedig.

Mae gan Holyrood fwy o reolaeth dros fudd-daliadau lles, treth a phlismona.

'Creu swyddi gwyrdd newydd'

Dywedodd Mr Slaughter: “Ni fydd geiriau cynnes yn achub ein gwasanaeth iechyd.

"Mae Llafur yn camarwain y cyhoedd drwy honni y bydd ei chynlluniau yn gwneud gwahaniaeth.

"Byddai'r cynlluniau gwario truenus hynny yn gyfystyr â thoriadau gwaeth na llymder o dan glymblaid y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol."

Fe fyddai'r cynlluniau i godi credyd cynhwysol a'r isafswm cyflog yn "brwydro'r lefelau gwarthus o dlodi plant sydd gennym ni yng Nghymru", meddai.

Mae'r maniffesto hefyd yn galw am flaenoriaethu gweithredu ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth, gan "greu swyddi gwyrdd newydd a chefnogi pobl yn economaidd drwy'r newidiadau sydd eu hangen".

Mae ymgeiswyr y Blaid Werdd yn sefyll ym mhob un o 32 sedd Cymru yn yr etholiad cyffredinol a gynhelir ar 4 Gorffennaf.