Cymeradwyo symud llyfrgell Aberaeron yn 'sarhad'

Disgrifiad o'r llun, Dywed Cyngor Ceredigion y bydd symud y llyfrgell o hen Neuadd y Sir yn helpu i arbed 拢70,000
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynnig i adleoli llyfrgell Aberaeron, er bod mwy na 90% o bobl wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r cynllun.

Dywed Cyngor Ceredigion y bydd symud y llyfrgell o'i safle presennol yng nghanol y dref i bencadlys y cyngor ar y cyrion yn helpu i arbed 拢70,000.

Ond mae mwyafrif y bobl a ymatebodd i ymgynghoriad yn credu na fydd yr adleoliad yn arwain at arbedion nac yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r llyfrgell.

Yn 么l Cyngor Ceredigion fe fydd y newid yn golygu creu llyfrgell newydd yn swyddfeydd Penmorfa 鈥渋 foderneiddio鈥檙 ddarpariaeth鈥, gyda鈥檙 nod o gynyddu defnydd o鈥檙 llyfrgell, cynyddu oriau agor, gwella cyfleusterau i blant a sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol.

Bydd grant o 拢268,000 gan Lywodraeth Cymru yn ariannu鈥檙 llyfrgell newydd ym mhencadlys y cyngor.

Nododd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i鈥檙 cabinet 鈥渘ad yw'n bosibl rhedeg gwasanaeth llyfrgell ariannol hyfyw o adeilad mor fawr鈥, sef yr hen Neuadd y Sir lle mae鈥檙 llyfrgell wedi鈥檌 lleoli ar hyn o bryd.

Yn 2023-24 cyfrannodd trethi a biliau trydan uchel at "gostau sylweddol" gwerth cyfanswm o bron i 拢45,000.

Pan fydd y llyfrgell yn symud, bydd adeilad Neuadd y Sir 鈥 sydd mewn lleoliad canolog yn y dref 鈥 yn 鈥渁ddas ar gyfer ailddatblygu sympathetig鈥 yn 么l y cyngor.

Dywed y cyngor y byddai datblygu鈥檙 adeilad yn gwella 鈥渆i effeithlonrwydd a鈥檌 gynllun er mwyn caniat谩u llety busnes a/neu fasnachol a all gymryd lle nifer yr ymwelwyr a rhoi cyfleoedd cyflogaeth".

Disgrifiad o'r llun, Bydd y llyfrgell yn symud i bencadlys y cyngor ym Mhenmorfa

Mae busnesau yn Aberaeron wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai symud y llyfrgell leihau nifer yr ymwelwyr yn y dref.

Mae Aberaeron yn un o bedair prif lyfrgell yng Ngheredigion 鈥 mae鈥檙 lleill yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae鈥檙 cyngor yn dweud bod y defnydd o gangen Aberaeron yn 鈥渋sel, gan gyfrif am oddeutu 10% o holl ddefnyddwyr gweithredol y llyfrgelloedd a 10% o fenthyciadau ar draws y sir".

96% yn gwrthwynebu symud y llyfrgell

Ond mae ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf yn awgrymu bod pobl yn anhapus iawn gyda chynigion y cyngor.

Cafwyd 896 o ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad, gyda鈥檙 cyngor yn dweud nad oedd 45% o鈥檙 rheiny yn ddefnyddwyr llyfrgell.

Dywedodd 96% eu bod yn gwrthwynebu symud y llyfrgell, gyda 88% yn teimlo na fyddai symud yn annog cynnydd mewn defnydd o鈥檙 llyfrgell.

Fe anghytunodd 80% y byddai symud y llyfrgell yn arwain at well effeithlonrwydd, gyda 84% yn anghytuno gyda鈥檙 farn y byddai symud yr adnodd yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau cwsmer.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei fod yn "sarhad" disgwyl i bobl deithio i'r safle newydd ym Mhenmorfa

Yn annerch aelodau cabinet yn eu cyfarfod, fe ddywedodd Cynghorydd Aberaeron, Elizabeth Evans i bobl ymateb i鈥檙 ymgynghoriad gydag un llais ac fe apeliodd ar y cabinet 鈥渋 wneud y penderfyniad iawn ar gyfer y bobl - ac fe gewch chi eich defnyddwyr [yn y llyfrgell bresennol]鈥.

Fe ddywedodd hefyd y byddai ailddatblygu lleoliad presennol y llyfrgell yn Neuadd y Sir yn galluogi鈥檙 cyngor 鈥渋 wneud rhywbeth sbesial a fyddai鈥檔 cydfynd gyda gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar drawsnewid canol trefi鈥.

Yn 么l y Cynghorydd Evans, nid oedd yr asesiad effaith ar symud y llyfrgell 鈥測n addas i bwrpas鈥.

Darllenodd rhan ohono oedd yn dweud na fyddai鈥檙 newid yn esgeuluso pobl h欧n ac anabl, er gwaetha'r ffaith bod y llyfrgell yn symud 650 o fetrau o ganol y dref.

Meddai Ms Evans: 鈥淪ut mae hyn yn adlewyrchiad o fywyd pob dydd pobl fydd yn gorfod dod yma [i Benmorfa]? Does dim geiriau, mae'n sarhad.鈥

Wrth iddi gloi ei sylwadau, daeth cymeradwyaeth iddi o鈥檙 galeri cyhoeddus.

Disgrifiad o'r llun, Bydd y llyfrgell yn symud 650 o fetrau o ganol Aberaeron

Cyfeiriodd y Cynghorydd Gareth Lloyd hefyd at yr ymgynghoriad gan ofyn: 鈥淥s nad ydych chi鈥檔 mynd i wneud sylw o ymatebion yr ymgynghoriad, beth yw eu pwrpas?

"Mae鈥檙 cyhoedd yn mynd i feddwl ein bod yn lladd democratiaeth.鈥

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Craffu, Catrin MS Davies, ei bod wedi ystyried yr ymgynghoriad ac wedi cyfeirio at y lefelau uchel o wrthwynebiad i'r cynnig yn ei sylwadau agoriadol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Catrin MS Davies eu bod wedi ystyried y gwrthwynebiad i'r cynnig

Ychwanegodd bod y defnydd o lyfrgell Aberaeron yn gymharol isel mewn cymhariaeth 芒 llyfrgelloedd eraill Ceredigion a bod symud i Benmorfa yn sicrhau 鈥渁dnodd ardderchog i bobl a thref Aberaeron".

Dywedodd hefyd y byddai parcio gwell yn y lleoliad newydd a鈥檙 gallu i aros ar agor am bum awr yr wythnos yn hirach.

Cymeradwyo yr argymhelliad i symud y llyfrgell i鈥檞 leoliad newydd wnaeth y mwyafrif o aelodau鈥檙 cabinet, gyda saith aelod o blaid ac un yn ymatal eu pleidlais.