Teyrnged teulu i 'enaid prydferth' a fu farw yn Florida

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd ei theulu y bydd Anna Beaumont "fyth yn cael ei hanghofio"
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae teulu merch o Gaerdydd fu farw ar wyliau yn yr Unol Daleithiau wedi rhoi teyrnged i "enaid prydferth".

Cafodd Anna Beaumont, 13, ei chanfod yn anymwybodol mewn pwll ym mharc d诺r Discovery Cove yn Orlando, Florida ddydd Mawrth diwethaf.

Er iddi gael cymorth meddygol a鈥檌 chludo i鈥檙 ysbyty, roedd mewn cyflwr difrifol a bu farw鈥檙 diwrnod canlynol.

Fe wnaeth Ysgol Gyfun Radur, lle roedd Anna yn ddisgybl, hefyd roi teyrnged i 鈥渁elod gwerthfawr o deulu鈥檙 ysgol鈥.

Mae鈥檙 Swyddfa Dramor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt gyda鈥檙 teulu i gynnig cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.

'Wedi ein chwalu o鈥檌 cholli hi'

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd ei theulu: 鈥淩oedd Anna yn enaid prydferth sydd wedi ei chymryd oddi wrthym mewn damwain drasig.

鈥淩ydym wedi ein chwalu o鈥檌 cholli hi, ond fydd hi fyth yn cael ei hanghofio.

鈥淗offwn ddiolch i dimau鈥檙 gwasanaethau brys a staff yr ysbyty yn Orlando a geisiodd mor galed i achub bywyd Anna.

鈥淔yddwn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach ac rydym yn gofyn am breifatrwydd yn y cyfnod hynod o anodd hwn.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Discovery Cove yn cynnig cyfle i bobl nofio gyda dolffiniaid ac ymysg pysgod trofannol

Mae Discovery Cove, y parc lle鈥檙 oedd Anna gyda鈥檌 theulu, yn disgrifio鈥檜 hunain fel cyrchfan gwyliau dydd lle mae ymwelwyr yn gallu gwneud gweithgareddau fel nofio efo dolffiniaid a physgod trofannol.

Mewn datganiad byr i gyfryngau lleol yn Florida, dywedodd y cwmni bod eu staff 鈥渨edi ymateb i argyfwng鈥 ar 28 Mai ac wedi cysylltu gyda鈥檙 gwasanaethau brys.

鈥淧an gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, fe wnaethon nhw gymryd cyfrifoldeb dros y gofal a chludo鈥檙 ymwelydd i ysbyty cyfagos,鈥 meddai.

鈥淎llan o barch i breifatrwydd ein gwesteion, dydyn ni ddim yn darparu gwybodaeth iechyd. Mae ein meddyliau gyda鈥檙 teulu.鈥

Wrth roi teyrnged, dywedodd Bethan Simmonds o Ysbyty Arch Noa fod Anna wedi codi dros 拢1,000 i'r elusen yn ystod Covid, gan godi'r arian drwy her reidio beic.

"Mae pobl sydd yn codi arian i elusen yn arbennig ond mae 'na rywbeth arbennig iawn am blentyn sydd yn defnyddio eu profiad eu hunain o fod yn glaf yn yr ysbyty i helpu eraill."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "amlwg bod Anna yn berson ysbrydoledig iawn, does dim byd mwy torcalonnus na cholli plentyn".

"Mae'n meddyliau ni gyd a'n calonnau gyda theulu Anna."

Disgrifiad o'r llun, Wrth roi terynged, dywed Bethan Simmonds fod "Anna yn berson ysbrydoledig iawn"

Fe wnaeth Swyddfa Siryf Orange County gadarnhau鈥檔 ddiweddarach bod Anna Beaumont wedi marw鈥檙 diwrnod canlynol yn yr ysbyty.

鈥淏ydd angen i unrhyw wybodaeth am achos a natur y farwolaeth ddod gan Swyddfa鈥檙 Archwilydd Meddygol.鈥

Dros y penwythnos fe wnaeth pennaeth Ysgol Radur, Andrew Williams ddweud bod yr ysgol gyfan yn meddwl am deulu Anna wrth iddyn nhw geisio dod i delerau gyda鈥檜 colled.

鈥淩oedd Anna yn aelod gwerthfawr o deulu鈥檙 ysgol, a bydd ei cholled yn cael ei deimlo'n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb gafodd y fraint o'i hadnabod,鈥 meddai.

鈥淔e wnaeth ei hysbryd a'i charedigrwydd gyffwrdd cymaint o fywydau.鈥

Cafwyd teyrnged iddi hefyd gan Glwb Rhwyfo Llandaf, lle oedd Anna'n aelod ieuenctid.