麻豆约拍

'Mae'n annheg' - pryder cyn i filiau ynni godi eto

Andrew Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew Davies yn poeni am sefylla ei fam oedrannus

  • Cyhoeddwyd

Mae pryder yn sgil y disgwyl y bydd biliau ynni鈥檔 codi ar gyfer tri mis olaf y flwyddyn.

Yn fuan bydd y corff sy'n goruchwylio鈥檙 diwydiant, Ofgem, yn cyhoeddi'r uchafswm y gall cyflenwyr godi am bob uned o nwy a thrydan.

Law yn llaw 芒 hyn mae鈥檙 Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dorri o fis Hydref, a dim ond pensiynwyr sy鈥檔 hawlio budd-daliadau penodol fydd 芒鈥檙 hawl i鈥檞 dderbyn.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i gefnogi pensiynwyr a鈥檌 bod yn briodol bod y Taliad Tanwydd Gaeaf yn targedu鈥檙 rhai sydd ei angen fwyaf.

'Wedi dod i ddibynnu ar y taliad'

Mae criw yn cwrdd yn gyson am baned a sgwrs yn Efailisaf yn Rhondda Cynon Taf ac yn eu plith, Andrew Davies, sydd newydd ymddeol o鈥檙 gwasanaeth prawf.

Mae Andrew, 60, wrthi鈥檔 dysgu Cymraeg ac mae鈥檔 teithio o Bont-y-p诺l er mwyn gweld ffrindiau ac ymarfer ei iaith.

Mae鈥檔 poeni am sefyllfa ei fam, sy鈥檔 82.

Dywedodd Andrew ei bod hi鈥檔 colli鈥檙 Taliad Tanwydd Gaeaf ac ychwanegodd ei bod yn 鈥渆rgyd drom鈥 iddi.

Mae colli鈥檙 taliad - gwerth rhwng 拢100 a 拢300 - yn ogystal 芒鈥檙 cynnydd disgwyliedig mewn biliau, yn achosi pryder.

鈥淏eth sy鈥檔 becso fi yw鈥檙 bobl sydd wedi dod i ddibynnu ar y taliad yna, os ydyn nhw wedi cyfrif e mewn i鈥檞 cronfa arian a nawr mae鈥檔 cael ei dynnu i ffwrdd," meddai.

鈥淒wi newydd ymddeol, ry'n ni wedi gweithio mas faint o arian sy' gyda ni i dalu am ein biliau.

"Bydd cynnydd yn y prisiau a bydd rhaid i ni eistedd lawr a 'neud ein syms ni unwaith 'to.

"Pan mae unrhywbeth yn mynd lan 9%, mae鈥檔 mynd i gael effaith a bydd rhaid i ni dorri lawr ar bethau eraill," ychwanegodd.

"Ma' tipyn o arian gyda ni wrth gefn achos bo' ni wedi bod yn cynilo tra bo' ni鈥檔 gweithio, ond bydd yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn a 'neud yn si诺r bo' fi鈥檔 troi pethe off a gwneud yn si诺r ein bod ni鈥檔 cadw o fewn ein harian ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Geraint Rees mae cwmn茂au ynni yn gwneud elw mawr ac yn creu annhegwch

Nid yw鈥檙 cyn-brifathro Geraint Rees, 61 o Efailisaf, yn synnu bod cynnydd mewn prisiau ar y gorwel.

鈥淵n y wlad hon, rhai o鈥檙 bobl gyfoethoca' yn y wlad, maen nhw鈥檔 bensiynwyr, rhai o鈥檙 bobl dlotaf yn y wlad, maen nhw鈥檔 bensiynwyr ac mae yna berygl ar hyn o bryd ein bo' ni鈥檔 siarad am bensiynwyr fel gr诺p mawr tlawd, pan dyw hynny鈥檔 syml ddim yn wir.

"Mae 鈥榥a filiynau mewn tlodi ond mae 'na filiynau mewn cyfoeth."

'Annhegwch'

Ychwanegodd: 鈥淩wy鈥檔 freintiedig, dwi wedi gweithio ar hyd fy mywyd a bydd 'na bensiwn fydd yn ein diogelu ni yn sylweddol dda a dwi ddim yn teimlo y dylen ni fod yn derbyn nawdd ychwanegol.

"Mae gyda ni aelodau o鈥檙 teulu sydd yn wirioneddol dlawd a dwi ishe i nawdd fynd iddyn nhw a鈥檜 cefnogi nhw.

鈥淣i hefyd wedi preifateiddio鈥檙 diwydiant ynni ers dyddiau Margaret Thatcher ac mae cyfranddalwyr ishe arian 鈥 dyw hwnna ddim yn deg.

"Yr hyn sy鈥檔 digwydd yw mae鈥檙 arian yn shiffto o stafell ffrynt pobl i gyfrif banc bobl sydd biau鈥檙 cwmn茂au a鈥檙 cyfranddaliadau 鈥 dyna鈥檙 annhegwch."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad Sandra Edwards yw cadw llygad barcud ar ei defnydd o nwy a thrydan

Mae Sandra Edwards, 77, yn dweud y bydd hi'n cadw llygad barcud ar y defnydd o ynni yn ei chartref, a bod y cynnydd disgwyliedig yn mynd i gael effaith ar nifer fawr o bobl.

鈥淒wi鈥檔 meddwl y byddwn ni鈥檔 monitro ein defnydd, a鈥檔 biliau a faint byddwn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 gwres canolog,鈥 meddai.

鈥淥nd mae鈥檔 annheg os ydych chi鈥檔 oer, nad oes modd rhoi鈥檙 gwres ymlaen heb feddwl am y peth.鈥

Mae uchafswm yn cael ei osod gan Ofgem, sef y pris uchaf gall eich cwmni ynni ofyn i chi dalu ar gyfer pob uned o nwy a thrydan.

Mae鈥檙 uchafswm yn newid bob tri mis, ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eirian Rees yn dweud bod problem ryngwladol gyda'r defnydd o ynni

Hefyd yn rhan o鈥檙 criw yn Efailisaf mae鈥檙 cyn-weinidog Eirian Rees, 86.

Mae鈥檔 dweud bod y cynnydd mewn biliau yn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod y byd yn 鈥渨ynebu problem egni鈥.

鈥淵n anffodus da ni鈥檔 byw mewn byd lle mae鈥檔 rhaid gorffen rhai mathau o egni ac mae鈥檔 mynd i fod yn ddrud,鈥 meddai.

鈥淢ae colli鈥檙 taliad yn mynd i fod yn golled enfawr i bobl sydd 芒 phensiwn syml a dim arian ychwanegol yn dod mewn, mae鈥檔 broblem ofnadwy ond dyw e鈥檔 ddim byd i gymharu 芒 beth ma' pobl yn Affrica鈥檔 gorfod wynebu gyda sychder ac yn y blaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer yn poeni am fisoedd y gaeaf, medd Anwen Jones o Gyngor ar Bopeth

Yn 么l Cyngor ar Bopeth Cymru mae biliau ynni cyfartalog yn dal i fod 拢400 yn uwch na thair blynedd yn 么l ac mae ymchwil newydd gan yr elusen yn dangos bod 41% o gartrefi yng Nghymru yn poeni am ddelio 芒鈥檜 costau ynni yn y misoedd nesaf.

鈥淧an ry'n ni鈥檔 edrych ar y ffigurau gyda鈥檙 posibiliad o gynnydd yn y cap ynni rhyw 9%, mae鈥檙 ffigwr yn codi o 41% i 59%, sy鈥檔 ffigwr eitha' syfrdanol,鈥 meddai Anwen Jones, swyddog materion cyhoeddus gyda Chyngor ar Bopeth.

鈥淲elon ni bod dros chwarter o gartrefi ar hyd Cymru yn methu hyd yn oed cadw eu cartrefi鈥檔 gynnes, ac ymhlith y rhai gafodd eu taro waetha' oedd rhentwyr, aelwydydd 芒 phlant, pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor a鈥檙 henoed."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i wella鈥檙 sefyllfa economaidd.

鈥淥 dan yr amgylchiadau hyn mae鈥檔 iawn fod Taliad Tanwydd Gaeaf yn targedu鈥檙 rhai sydd 芒鈥檙 angen mwyaf, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu鈥檙 nifer sy鈥檔 hawlio Credyd Pensiwn, gan gyrraedd y nifer fwyaf o bensiynwyr fyddai鈥檔 gallu elwa o鈥檙 Taliadau Tanwydd Gaeaf eleni.鈥

Pynciau cysylltiedig