Merch, 13, o dde Cymru wedi marw ar wyliau yn Florida

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Discovery Cove yn cynnig cyfle i bobl nofio gyda dolffiniaid ac ymysg pysgod trofannol

Mae merch 13 oed o dde Cymru wedi marw tra ar wyliau gyda'i theulu yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Anna Beaumont o Gaerdydd ei chanfod yn anymwybodol mewn pwll ym mharc antur Discovery Cove yn Orlando, Florida, ddydd Mawrth.

Yn ôl heddlu lleol cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol, a bu farw'r diwrnod canlynol.

Roedd Anna yn ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Radur.

Mewn datganiad dywedodd swyddfa Sheriff Orange County: "Mae'n ddrwg gennym i adrodd, ar 29 Mai 2024, cafodd Anna Beaumont, 13 oed, ei chyhoeddi'n farw yn yr ysbyty."

Mae Discovery Cove yn cynnig cyfle i bobl nofio gyda dolffiniaid ac ymysg pysgod trofannol.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Anna Beaumont yn ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Radur

Mewn datganiad, dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Radur, Andrew Williams ei fod yn "siarad ar ran cymuned yr ysgol gyfan pan ddywedaf ein bod yn meddwl am deulu Anna wrth iddyn nhw geisio ymdopi gyda'u colled".

"Roedd Anna yn aelod gwerthfawr o deulu ein hysgol, a bydd ei cholled yn cael ei deimlo'n fawr gan ddisgyblion, staff a phawb oedd wedi cael y fraint o'i hadnabod.

"Fe wnaeth ei hysbryd a'i charedigrwydd gyffwrdd cymaint o fywydau."

"Rydym yn cydymdeimlo'n galonnog gyda theulu Anna."

Roedd Anna yn aelod "brwdfrydig" o Glwb Rhwyfo Llandaf, meddai datganiad gan y cadeirydd Trevor Wing.

"Roedd hi'n fenyw ifanc annwyl a thalentog a bydd colled ar ei hôl."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydyn ni mewn cysylltiad gyda theulu yn dilyn marwolaeth plentyn yn yr Unol Daleithiau, ac yn darparu cefnogaeth iddynt yn y cyfnod anodd yma."