Â鶹ԼÅÄ

Teyrngedau i'r gohebydd moduro Huw Thomas

Huw ThomasFfynhonnell y llun, Paul Atkins
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i'r gohebydd moduro Huw Thomas, sydd wedi marw yn 73 oed.

Bu'n gohebu ar y diwydiant ceir i nifer o bapurau - gan gynnwys Y Cymro, Y Tir ac Y Wawr - am flynyddoedd lawer a byddai'n cael ei gyfweld yn gyson gan raglenni radio a theledu.

Cafodd ei addysg yn Wrecsam - Ysgol Bodhyfryd yn gyntaf ac yna Ysgol Grove Park yn y ddinas.

Aeth yna i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio'r gyfraith cyn ei benodi'n ddarlithydd ar y gyfraith ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.

Roedd yn fab i'r diweddar Barchedig T Glyn Thomas a'i wraig Eleanor - ei dad yn weinidog gyda'r annibynwyr a'i frawd Rhodri Glyn yn gyn-aelod Plaid Cymru yn y Cynulliad (fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd).

'Gadael argraff ar bawb'

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Cymdeithas Ysgrifenwyr Moduro Cymru, sy'n grŵp o bobl sy'n ysgrifennu am y diwydiant ceir, bod marwolaeth Mr Thomas yn "ergyd".

Roedd wedi bod yn gadeirydd ar y grŵp am ddegawd.

"Roedd Huw yn gadael argraff ar bawb roedd e'n dod i gysylltiad â nhw," meddai'r cadeirydd Simon Harris wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roedd e mor frwdfrydig am geir, ei wybodaeth yn eang ac roedd e'n angerddol am hanes Cymru a'r iaith Gymraeg.

"Roedd e'n gyfrannwr cyson i raglenni Radio Cymru - ac yn aml pan fydden i'n teithio gydag e fe fyddwn i'n stopio mewn man lle roedd signal cryf er mwyn iddo gael gwneud cyfweliad - roedd e fel arfer yn canolbwyntio ar sgil-effaith unrhyw gyhoeddiad ar ffatri'r cwmni dan sylw yng Nghymru.

"Ry'n ni'n cydymdeimlo gyda'i bartner Peter a'i deulu agos."

Ffynhonnell y llun, Merched y Wawr
Disgrifiad o’r llun,

Un o erthyglau Huw Thomas yn Y Wawr - cylchgrawn Merched y Wawr

Ychwanegodd Mark James, sydd hefyd yn gohebu ar foduro, fod y newyddion am farwolaeth Huw Thomas "yn siom".

"Roeddwn yn ei adnabod ers oddeutu 17 mlynedd ac roedd e'n adnabod pawb yn y diwydiant ceir ac yn fodlon siarad â chadeirydd neu brif weithredwr Ford neu unrhyw gwmni ar gyfer y cyfryngau Cymraeg.

"Roedd e'n teimlo ei bod hi'n bwysig fod y wasg yng Nghymru yn cael gwybodaeth o lygad y ffynnon.

"Bu'n hynod o gefnogol i fi pan ro'n i'n cadeirio grŵp tebyg iddo fe - sef newyddiadurwyr de Cymru a de-orllewin Lloegr. Bydd colled fawr ar ei ôl."

'Pleser darllen ei erthyglau'

Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr: "Fe fuodd Huw Thomas yn ysgrifennu erthyglau i'r Wawr am flynyddoedd lawer.

"Bu ei fam yn un o lywyddion Merched y Wawr ac roedd hi wastad yn bleser darllen ei erthyglau - erthyglau difyr a oedd yn mynd â ni ar draws y byd.

"Ry'n yn cydymdeimlo yn fawr gyda'r teulu."

Pynciau cysylltiedig