Llai yn pleidleisio yn sgil gorfod dangos ID?

Ffynhonnell y llun, AFP

  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 麻豆约拍 Cymru

Mae yna rybuddion y gallai gofyn i鈥檙 cyhoedd gyflwyno dogfen adnabod (ID) 芒 llun am y tro cyntaf ar gyfer etholiadau yng Nghymru fis nesaf leihau鈥檙 nifer sy鈥檔 pleidleisio.

Bydd angen ID ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu a throsedd, wrth i weinidogion y DU ddadlau y bydd yn helpu i atal twyll.

Ond mae'r Gymdeithas dros Ddiwygio Etholiadol yn rhybuddio ei fod yn ddiangen ac yn niweidiol.

Bu'n rhaid cyflwyno ID am y tro cyntaf yn ystod etholiadau lleol yn Lloegr y llynedd, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU, sydd i'w gynnal o fewn y naw mis nesaf.

Mae pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon wedi gorfod dangos ID 芒 llun ers 2003.

Yr etholiadau, y dadleuon ac ID

Bydd pedwar comisiynydd yn cael eu hethol yng Nghymru ar 2 Mai, un ar gyfer pob un o ardaloedd yr heddlu - De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys a Gogledd Cymru.

Mae鈥檙 comisiynwyr yn gyfrifol am oruchwylio heddluoedd lleol a'u dwyn i gyfrif, ac am osod y gyllideb flynyddol.

Maen nhw鈥檔 gallu penodi a diswyddo prif gwnstabl, ond dydyn nhw ddim yn gyfrifol am benderfyniadau gweithredol yr heddlu o ddydd i ddydd.

Mae pob un o'r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru wedi enwebu ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau.

Dyma'r pedwerydd tro i'r etholiadau hyn gael eu cynnal, ond dyma'r tro cyntaf i bleidleiswyr orfod profi pwy ydyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth y DU, sy'n gweithredu yr etholiadau comisiynydd heddlu a throsedd, yn dweud ei fod er mwyn atal pobl rhag dynwared person arall.

Ond mae'r Gymdeithas dros Ddiwygio Etholiadol (ERS) wedi dweud nad oes angen y newid, a bod etholiadau wedi mynd yn berffaith dda yn y gorffennol heb i bobl orfod profi pwy ydyn nhw.

Mae'r ERS wedi rhybuddio o鈥檙 blaen y gallai鈥檙 system newydd fod wedi鈥檌 chreu'n fwriadol i wneud pleidleisio鈥檔 galetach i rai pobl.

Disgrifiad o'r llun, Dyw Darren Hughes o'r ERS ddim yn gweld rheswm dros ofyn am ID

Dywedodd prif weithredwr ERS, Darren Hughes, wrth raglen Politics Wales: 鈥淢ae llawer o鈥檙 gwledydd sy鈥檔 gwneud y math yma o beth yn gwneud hynny oherwydd bod ganddyn nhw broblem lle mae pobl yn cyrraedd gorsaf bleidleisio ac yn gofyn am bapur pleidleisio ac yn esgus bod yn rhywun arall.

"Ond yn y DU, nid dyna fu'r profiad o gwbl.

鈥淢ewn gwirionedd, yn 2019, a oedd yn flwyddyn lle gawson ni lawer o etholiadau - rhai lleol, etholiad cyffredinol ac etholiadau Senedd Ewrop hefyd - cafodd degau o filiynau o bapurau pleidleisio eu defnyddio ar draws yr holl etholiadau hynny, a dim ond dau berson gafwyd yn euog o ddynwared person arall."

Llai yn pleidleisio?

Oes unrhyw awgrym bod cyflwyno'r rheol newydd yma yn lleihau'r nifer sy'n pleidleisio felly?

Oes, yn "sylweddol", yn 么l yr Athro Petra Schleiter o Brifysgol Rhydychen, ar sail tystiolaeth o etholiadau Lloegr y llynedd.

鈥淢ae鈥檔 anodd dweud yn union faint... ond rhywle rhwng 1% a 5.5% yw ein hamcangyfrifon,鈥 meddai.

"'Dyn ni'n canfod yn barhaus fod effaith negyddol ar y nifer sy'n pleidleisio.

"Mae鈥檙 diwygiad hwn wedi cael effaith sylweddol a negyddol ar allu pobl i gymryd rhan yn yr etholiadau."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l yr Athro Petra Schleiter mae'r newid yn cael effaith "sylweddol" ar y nifer sy'n pleidleisio

Dywed gweinidogion San Steffan ei bod hi'n hollbwysig fod gan y cyhoedd hyder yn y system etholiadol.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod 鈥渕wyafrif llethol pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio 鈥 99.75% 鈥 wedi bwrw eu pleidlais yn llwyddiannus yn yr etholiadau lleol yn Lloegr fis Mai diwethaf鈥.

Ychwanegwyd fod 鈥96% o鈥檙 etholwyr yn berchen ar ffurf adnabod ffotograffig sy鈥檔 cael ei dderbyn" a bod y Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim wedi ei chreu "i sicrhau hygyrchedd i bawb".

Am y chwe wythnos diwethaf mae'r corff sy鈥檔 gyfrifol am etholiadau, y Comisiwn Etholiadol, wedi bod yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i ddweud wrth bleidleiswyr y bydd angen ID 芒 llun er mwyn pleidleisio yn yr etholiad.

Pa ddogfennau adnabod y gellir eu defnyddio ?

Y prif rai yw eich pasbort neu drwydded yrru, ond mae pasys bws ar gyfer pobl anabl neu bobl h欧n hefyd ar y rhestr.

Gallwch hyd yn oed ddefnyddio ID sydd wedi dod i ben, cyn belled 芒 bod y llun yn dal i edrych fel chi.

Os nad oes gennych unrhyw un o'r rhain, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr, neu gallwch bleidleisio drwy'r post.

Y dyddiadau cau?

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth 16 Ebrill.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr yw 24 Ebrill.