Troi capel yng Nghwm Tawe yn oriel i artist Iddewig

Disgrifiad o'r fideo, Hen gapel Sardis fydd cartref parhaol gwaith Josef Herman
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Bydd hen gapel yng Nghwm Tawe yn cael ei droi yn arddangosfa newydd o waith yr artist Iddewig, Josef Herman.

Ym 1938 gadawodd Herman ei gartref yng Ngwlad Pwyl oherwydd twf Natsïaeth.

Cafodd ei deulu cyfan eu lladd yn yr Holocost, ac fe fu ar ffo am chwe blynedd ac yn byw yn Llundain, Glasgow a Brwsel.

Ond yn ystod misoedd yr haf 1944 ymwelodd â thref ddiwydiannol Ystradgynlais ym mhen uchaf y cwm.

Roedd hyn yn drobwynt yn ei fywyd.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth glowyr yr ardal ysbrydoli llawer o weithiau Josef Herman

Fe gafodd groeso mawr gan y gymuned lofaol ac fe fu'n byw yno am dros 10 mlynedd.

Roedd wrth ei fodd yn peintio darluniau o bobl leol, gan ganolbwyntio ar y diwydiant glo.

Ar ôl ei farwolaeth yn Chwefror 2000 fe gafodd Sefydliad Josef Herman ei ffurfio yn Neuadd Les Ystradgynlais, gyda'r bwriad o hyrwyddo ei waith a'i ddawn.

Mae'n gartref i gasgliad o nifer o'i luniau, printiau a pheintiadau gwreiddiol.

Disgrifiad o'r llun, Yn hen gapel Sardis yn Ystradgynlais fydd yr arddangosfa

Ar ôl defnyddio'r neuadd fel cartref am dros 20 mlynedd, mae'r aelodau nawr wedi mynd ati i brynu capel gwag Sardis yn y dref er mwyn ehangu a chreu oriel newydd.

Y bwriad yw troi Sardis, sy'n dyddio o 1861, yn gartref teilwng i weithiau Herman ac artistiaid eraill o'r un cyfnod.

Disgrifiad o'r llun, Mae ymddiriedolwyr y sefydliad yn falch o gael mynediad i'r capel o'r diwedd

Dywedodd Elinor Gilbey, cadeirydd y sefydliad fod cael yr allwedd i'r capel, o'r diwedd, yn deimlad braf.

"Mae’n teimlo’n grêt i fod yn onest," dywedodd.

"Mae’n teimlo mor neis i ddod mewn ‘ma ar ôl shwt gymaint o flynydde'.

"Tro dwetha’ oeddwn i yma oedd y plant yn fach ac oeddan nhw’n y Gymanfa Ganu yn 'iste fan 'na yn darllen emynau a dyw e ddim wedi newid llawer.

"Mae gweld y lliwie' still ‘ma fel fi’n cofio nhw yn hyfryd.

"Ma' tamed bach o mess yma wrth gwrs ond ddim mor wael ag oeddwn i'n disgwyl."

Disgrifiad o'r llun, Mae Gwenllian Beynon yn artist ac yn gyfarwydd â gwaith Josef Herman

Ar ôl dianc, fe gafodd Josef Herman gartref diogel a hapus yn Ystradgynlais.

Yn y dref hon ar gyrion Bannau Brycheiniog y gwnaeth e beintio llawer o'i weithiau gorau ac enwocaf.

Mae Gwenllian Beynon yn artist ac yn ddarlithydd celf yng Ngholeg Celf Abertawe.

Dywedodd: "Oedd e [Herman] wedi colli popeth a pan dda'th e ‘ma oedd e wedi ffeindio popeth.

"Ffeindiodd e deulu yma yn Ystradgynlais a oedd dylanwad yr ardal hyn yn fawr arno yn enwedig y gweithwyr lleol – oedd hwnna yn bwysig.

"Glowyr ond hefyd pobl y dre, mamau a phlant. Oedd hwnna wedyn wedi dylanwadu arno fe am weddill ei oes.

"Fe gafodd e groeso gan bobl leol a nifer ohonyn nhw yn eu tro wedi eu hanfarwoli yn rhai o luniau 'Joe bach' fel oedd e yn cael ei nabod..."

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Josef Herman groeso mawr yn Ystradgynlais yn ôl yr hanesydd lleol, Arwel Michael

Mae gan Arwel Michael ddiddordeb mawr mewn hanes lleol ac mae'n dweud bod yr ardal ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn un sy' wedi agor drysau i gynnig croeso i ffoaduriaid.

"Ma' Ystradgynlais wastad wedi cefnogi ffoaduriaid fel Josef Herman.

"Mae e yn mynd 'nol yn bell gyda ni. Mae Ystrad wedi bod yn gefnogol erioed i bobl sy angen cefnogaeth arnyn nhw.

"Collodd Joe bach ei deulu yn yr Holocost a thrwy bod fan hyn ffeindiodd e deulu, ffeindiodd e ffrindie', ffeindiodd e bopeth... fan hyn yn Ystradgynlais."