鶹Լ

'Nes i adael y byd addysg oherwydd diffyg cwsg'

Louise Mumford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louise Mumford wedi byw gydag anhunedd ers roedd hi’n blentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Gaerffili wedi rhannu'r effaith y mae diffyg cwsg wedi'i gael ar ei bywyd ers roedd hi’n blentyn, gan gynnwys gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith fel athrawes.

Mae ymchwil yn awgrymu fod 6-10% o bobl yn y DU yn byw gydag anhunedd (insomnia), ac yn effeithio ar bron i ddwywaith cymaint o fenywod na dynion.

Ar hyn o bryd, dim ond un clinig sy'n cynnig triniaeth arbenigol ar gyfer hyn ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n byw gydag anhunedd, a'u bod hefyd yn cefnogi pobl wrth iddynt aros am driniaeth.

'Gen i bron dim egni'

Mae Louise Mumford wedi byw gydag anhunedd ers roedd hi’n blentyn.

Mae hi’n cofio aros lan yn hwyr gyda’i mam yn gwylio teledu am nad oedd hi'n gallu cysgu.

Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio fel athrawes, fe benderfynodd Louise fod angen newid, ac fe drodd hi at yrfa fel awdur er mwyn osgoi, yn ei geiriau hi, "dyfodol tywyll".

“Ffactor enfawr i fi i roi’r gorau i ddysgu oedd y ffaith fod gen i bron dim egni," meddai Louise.

“O’n i mewn sefyllfa lle o’n i’n gallu newid i 'neud rhywbeth arall, oedd yn ffitio efo fy mhatrwm cwsg, ac yn rhyddhau fi o’r pwysau roedd hyn yn ei achosi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Louise ei fod yn "poeni mai'r unig driniaeth oedd am gael ei gynnig oedd meddyginiaeth"

Mae Louise, sy’n wreiddiol o Gaerffili ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud fod diffyg cwsg yn rhywbeth sydd yn effeithio ar bob agwedd o'i bywyd.

Er ei bod hi wedi addasu ei bywyd o amgylch ei chwsg, dyw hi byth wedi cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer anhunedd.

“Dwi'n credu bod dau reswm tu ôl hyn - o’n i ddim yn credu fod hyn yn broblem digon difrifol i haeddu mynd at y doctor," meddai Louise.

“Yr ail reswm oedd y ffaith 'mod i'n poeni mai'r unig driniaeth oedd am gael ei gynnig oedd meddyginiaeth."

Y driniaeth sy'n cael ei awgrymu ar gyfer anhunedd hir dymor (sef dros dri mis) yw Cognitive Behavioural Therapy Insomnia (CBTI).

Mae hwn yn fath o therapi sy'n canolbwyntio ar gyfyngu’r teimladau a'r ymddygiad sy'n cyfrannu at yr anhunedd.

Dim ond un clinig arbenigol, yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, sy'n cynnig y driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda lle ar gyfer 70-80 o gleifion pob blwyddyn.

Ond mae SilverCloud, sef rhaglen ddigidol wedi'i seilio ar CBTI, yn gallu cael ei ddefnyddio gan unrhywun dros 16 oed.

Ond yn ôl Dr Jose Thomas, pennaeth y clinig yn Ysbyty Nevill Hall, dyw’r rhaglen ar-lein ddim yn gweithio i bawb.

'Lleihau dibyniaeth ar feddyginiaeth'

Mae doctoriaid yn hefyd gallu cynnig meddyginiaeth fel tabledi cysgu, ond ni ddylai claf gymryd y rhain am fwy na phedair wythnos am eu bod yn mynd yn aneffeithiol yn gyflym.

Dywedodd Dr Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, ei bod yn debygol mai oherwydd “amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol” nad yw CBTI ar gael yn fwy eang yng Nghymru.

Ychwanegodd y byddai'n ddefnyddiol i feddygon teulu ddysgu mwy am drin anhwylderau cysgu.

“Un o’r pethau rydyn ni’n mynd i’r afael ag ef drwy’r amser yw ceisio lleihau dibyniaeth pobl ar feddyginiaeth," meddai.

“Rydyn ni’n ceisio’n daer i beidio â rhoi nhw [tabledi cysgu]. Dydyn nhw ddim yn gweithio tu hwnt i ychydig ddyddiau, ac maen nhw'n ffurfio dibyniaeth.

"Maen nhw’n cynyddu’r risg o ddryswch, o gwympo - pob math o effeithiau negyddol.”

Yn absenoldeb CBTI, byddai Dr Christmas yn annog meddygon teulu yng Nghymru i dynnu sylw at bwysigrwydd "hylendid cwsg" - bwyta’n iach, tynnu sgriniau o’r ystafell wely a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Dywedodd Louise fod y dulliau hyn yn gallu bod yn effeithiol iawn, ond gall fod yn rhwystredig pan mae pobl yn tanystyried yr effaith y gall anhunedd ei gael ar eich bywyd.

“Mae pobl hyd yn oed wedi dweud wrtha i y dylwn i ddweud wrth fy hun am fynd i gysgu, a bydd yn gweithio,” meddai.

Er bod y cyfle i newid gyrfa a rheoli ei hamser ei hun wedi caniatáu i Louise feddwl am ffyrdd o ymdopi, dywedodd nad yw hi eisiau dychmygu sut fyddai bywyd pe na bai wedi cael yr opsiwn hwnnw.

“Pe na bawn i wedi newid fy mywyd i weithio o amgylch fy anhunedd, byddwn yn bendant yn cael trafferth nawr,” meddai.

“'Dw i mor lwcus fy mod i wedi cael y cyfle i allu gwneud y newid yna. Dyw llawer o bobl ddim yn cael y cyfle yna.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth i’r rhai sy’n dioddef gydag anhunedd, ac yn cefnogi pobl wrth iddynt aros i ymyrraeth ddechrau.

“Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mewn therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein fel SilverCloud.”

Pynciau cysylltiedig