'Tipyn o bwysau i yfed alcohol er mwyn cymysgu yn y brifysgol'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Gwydion (ar y dde) efo'i ffrindiau cyn dawns yr haf yn y brifysgol
  • Awdur, Gwen Aeron
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru Fyw

Bydd miloedd o fyfyrwyr ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol fis yma wrth i brifysgolion ailagor.

Ond mae un myfyriwr yn dweud fod yna bwysau weithiau ar fyfyrwyr newydd i fod yn rhan o ddigwyddiadau sy鈥檔 ymwneud ag yfed alcohol.

Mae Gwydion Outram, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud fod pwysau fel hyn yn gostus yn ariannol - ond hefyd yn seicolegol.

Gallai myfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu gwthio i yfed er mwyn cymdeithasu, meddai.

鈥淧an wnes i ymuno yn wythnos y glas, roedd tipyn o bwysau i yfed alcohol er mwyn cymysgu gyda phobl ond dydw i ddim yn yfed ac mae鈥檔 rhaid i fi ddweud bod fy ffrindiau i yn deall hynny, 鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gwydion Outram fod digwyddiadau di-alcohol yn "ffordd wych i bawb ddod i 鈥檔abod ei gilydd heb orfod yfed"

Mae wythnos y glas, yn aml, yn llawn gweithgareddau sy鈥檔 cynnwys yfed alcohol 鈥 fel Parti Pwnsh, Crol y Glas, Crol Teulu - ac mae myfyrwyr yn gallu teimlo bod cymdeithasu heb alcohol yn amhosib.

鈥淩wy鈥檔 meddwl y dylai prifysgolion roi mwy o bwyslais ar ddigwyddiadau di-alcohol 鈥 mae鈥檔 ffordd wych i bawb ddod i 鈥檔abod ei gilydd heb orfod yfed," meddai Gwydion.

鈥淔e wnes i a fy ffrindiau fwynhau chwaraeon fel p锚l-droed saith-bob-ochr, ac mae digwyddiadau fel 'na yn ffordd wych o gael hwyl a chymdeithasu heb y pwysau i yfed."

Ffynhonnell y llun, Alcohol Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Andrew Misell o Alcohol Cymru yn dweud fod y dylai undebau arbrofi gyda digwyddiadau di-alcohol

Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Alcohol Cymru, fod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy鈥檔 penderfynu ymwrthod ag alcohol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r "cynnydd sylweddol mewn marchnadoedd diodydd di-alcohol o safon uchel" yn rhannol gyfrifol am hynny, meddai.

Ond mae鈥檔 cydnabod ei bod hi鈥檔 gallu bod yn anodd i undebau drefnu digwyddiadau di-alcohol, gyda thafarndai a chlybiau'n parhau yn dynfa i nifer.

"Mae鈥檔 hawdd deall y pwysau ar undebau myfyrwyr i gynnig digwyddiadau sy鈥檔 cynnwys alcohol, gan eu bod yn cystadlu 芒鈥檙 llefydd hyn.

鈥淔odd bynnag, mae'n werth i undebau arbrofi gyda digwyddiadau di-alcohol, gan y gallai rhai myfyrwyr fod yn osgoi digwyddiadau cymdeithasol oherwydd presenoldeb alcohol."

Tripiau i Ikea

Mae Elain Gwynedd, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), yn cydnabod y r么l fawr mae alcohol yn ei chwarae mewn bywyd cymdeithasol prifysgol.

Ond mae鈥檔 pwysleisio nad yw yfed yn cael ei wthio ar yr un myfyriwr yn Undeb Aberystwyth.

"Mae llawer o ddigwyddiadau UMCA yn cael eu cynnal mewn ffordd lle does dim pwysau ar fyfyrwyr i yfed," meddai.

"Yn ystod wythnos y glas, rydym yn trefnu nosweithiau cymdeithasol di-alcohol fel tripiau i Ikea a nosweithiau gemau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Elain Gwynedd: 'Pwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus'

Mae hi鈥檔 credu ei bod yn bosib darparu ar gyfer y myfyrwyr sy鈥檔 dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol, gyda neu heb alcohol.

鈥淢ae鈥檔 bwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus, boed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy鈥檔 cynnwys alcohol neu ddim.鈥

Gyda mwy o bobl ifanc yn ymwrthod ag alcohol, mae鈥檔 amlwg bod angen i brifysgolion greu amgylcheddau cymdeithasol sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 newid yma, meddai Gwydion.

鈥淏yddai mwy o ddigwyddiadau di-alcohol nid yn unig yn lleihau鈥檙 pwysau ar fyfyrwyr i yfed, ond hefyd yn hyrwyddo amgylchedd cymdeithasol mwy cynhwysol a chytbwys i bawb,鈥 ychwanegodd.

鈥淢ae hyn yn rhywbeth cadarnhaol tuag at annog ffordd iachach a mwy cynhwysol o fyw i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "annog pawb, gan gynnwys pobl ifanc ac unrhyw fyfyrwyr newydd eraill sy'n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi, i wneud dewisiadau iach, yfed yn gyfrifol a lleihau eu defnydd o alcohol".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Deio Owen fod "undebau myfyrwyr yn ymateb i'r galw gan fyfyrwyr" am lai o weithgareddau yn ymwneud ag alcohol

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Deio Owen, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru fod "prifysgolion ac undebau myfyrwyr yn mynd i'r afael 芒'r broblem".

Er ei fod yn cydnabod bod tueddiadau yfed myfyrwyr yn rhywbeth sy'n "newid yn barhaus", dywedodd ei fod wedi sylwi ar "ostyngiad" yn nifer y myfyrwyr sy'n ymwneud ag alcohol a bod "mwy o ddigwyddiadau di-alcohol" yn cael eu cynllunio.

Dywedodd fod "undebau myfyrwyr yn ymateb i'r galw gan fyfyrwyr" am lai o ddigwyddiadau ag alcohol gan ychwanegu "fod 'na gwymp wedi bod dros y blynyddoedd, yn enwedig ers covid, 'da ni wedi gweld newid mawr yn agweddau pobl tuag at yfed".