Dyn, 49, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn arall o’r ddinas.
Yn Llys y Goron fore Llun fe siaradodd Paul Rosser, 49 oed o Gendros, i gadarnhau ei enw.
Bu farw Joshua Norman, 27, ar ôl cael ei ganfod ag anafiadau difrifol ar Heol y Cwm yn ardal Hafod ar 11 Medi.
Mae dyn arall wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal gan Heddlu’r De.
Bydd Paul Rosser yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos eto yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi
- Cyhoeddwyd12 Medi
- Cyhoeddwyd11 Medi