Mam yn colli cannoedd i sgam tocynnau Taylor Swift

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Collodd Sian Williams (chwith) 拢250 wrth geisio prynu tocynnau i gyngerdd Taylor Swift i'w merch, Efa
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae menyw o Flaenau Ffestiniog yn rhybuddio eraill i fod yn ofalus ar 么l cael ei thwyllo鈥檔 ariannol wrth brynu tocynnau i gyngerdd Taylor Swift.

Roedd Sian Williams wedi anfon 拢250 ar gyfer pedwar tocyn at fenyw yr oedd hi鈥檔 meddwl oedd yn ffrind.

鈥淒oedd o ddim yn edrych fel sgam. Oedden nhw鈥檔 dynwared ffrind i ffrind.鈥

Yn 么l Cyngor ar Bopeth mae angen gwell ymwybyddiaeth o dwyllo wrth i sgams ar-lein dyfu鈥檔 fwy 鈥渟offistigedig鈥.

'Dwi'n flin hefo fi fy hun'

Fel miliynau o bobl eraill haf diwethaf, roedd Ms Williams wedi cofrestru ar-lein i brynu tocynnau i weld y gantores bop Taylor Swift eleni.

鈥淐hafon ni ddim tocynnau pan oedden nhw allan yn gyhoeddus, yn gyffredinol ar werth. Ches i ddim hyd yn oed cod.鈥

Wedi鈥檙 siom o beidio cael tocynnau ar y gwefannau swyddogol, cafodd Ms Williams neges gan ffrind yn dweud bod ffrind arall yn gwerthu pedwar ar gyfer cyngerdd yn Anfield, Lerpwl ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae'r teulu yn y broses o geisio cael yr arian yn 么l gan eu banc

鈥淏eth nath fy ffrind oedd rhoi fy rhif ff么n i鈥檞 ffrind hi a dyma鈥檙 sgwrs wedyn yn cario 鈥榤laen ar WhatsApp.鈥

Roedd Ms Williams felly mewn sgwrs gyda pherson yr oedd hi鈥檔 hyderus oedd yn gyfaill agos i鈥檞 ffrind hi.

鈥淩诺an pan dwi鈥檔 adlewyrchu ar hynny, oedd pethau ddim yn iawn ond gan mod i 鈥榙i cael argymhelliad gan ffrind, nes i鈥檓 meddwl eilwaith nad oedd y tocynnau yma yn rhai go iawn.鈥

Wedi trafodaethau am y gost, roedd Sian a鈥檌 merch wedi defnyddio eu cyfrif banc i anfon yr uchafswm posib ar y tro, sef 拢250, gyda鈥檙 bwriad o dalu gweddill y gost mewn ail daliad.

鈥淧an ddaru鈥檙 arian yna gael ei dderbyn gan enw eithaf anghyfarwydd ac unigryw, ddaru ni feddwl yn syth dan ni mewn trwbl ac o鈥檇d y pres 鈥榙i mynd.鈥

Sylweddolodd Sian yn syth bod y gwerthwr yn dynwared ffrind i ffrind gan ddefnyddio cyfrifon a lluniau cyfryngau cymdeithasol er mwyn ei thwyllo.

鈥淒wi鈥檓 yn gweld bai ar fy ffrind. Dwi鈥檔 flin hefo fi fy hun yn fwy na neb.鈥

Yn 么l Sian roedd rhannu ei phrofiad yn gyhoeddus 鈥測n bwysig鈥 er mwyn codi ymwybyddiaeth, gan ychwanegu bod nifer o bobl eraill wedi cysylltu yn rhannu profiadau tebyg.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 meddwl mod i鈥檔 eithaf savvy. 'Da ni 'di arfer mynd i gyngherddau, gemau, gwyliau, 'neud digon o brynu ac yn y blaen ar-lein.

鈥淥s o鈥檇d o鈥檔 gallu digwydd i ni, mae o'n gallu digwydd i rywun.鈥

Mae鈥檙 teulu yn broses o geisio cael yr arian yn 么l, gan siarad 芒鈥檙 banc, sy鈥檔 ymchwilio.

Pryderu am brynu tocynnau yn y dyfodol

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Maisey Matthews ei thwyllo wrth geisio prynu tocynnau i weld yr artist Dave yng Nghaerdydd

Un arall sy鈥檔 gwybod sut beth yw cael ei thwyllo ar-lein wrth brynu tocynnau yw Maisey Matthews, 19 oed, o Donyrefail.

鈥淔e wnes i ffeindio rhywun o鈥檔 i鈥檔 meddwl o鈥檇d yn ddibynadwy,鈥 meddai Ms Matthews, oedd wedi ceisio prynu tocynnau i gyngerdd yr artist Dave yng Nghaerdydd.

Ar 么l i Ms Matthews anfon yr arian at y fenyw ar-lein fel taliad ar gadw, roedd y person wedi gwrthod rhoi鈥檙 tocynnau iddi a bygwth postio ei manylion personol ar-lein.

鈥淔i鈥檔 credu bo鈥 fi鈥檔 eitha鈥 nerfus nawr yn prynu tocynnau.鈥

Aeth Ms Matthews, oedd yn y chweched dosbarth ar y pryd, at Heddlu De Cymru gyda鈥檌 rhieni am gymorth yn sgil y digwyddiad.

'Fe wnes i gael fy hacio'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cyfrif Indigo Jones ei hacio, a'i ddefnyddio i geisio gwerthu tocynnau Taylor Swift ffug

Fe ddechreuodd Indigo Jones gael negeseuon gan ei ffrindiau yn holi os oedd hi dal yn bwriadu gwerthu ei thocynnau i weld Taylor Swift.

鈥淔e wnes i gael fy hacio,鈥 meddai Indigo, sy鈥檔 24 oed ac o Abertawe.

鈥淥鈥檇d yr hackers yn trio esgus bod yn fi a gwerthu tocynnau ar account fi i bobl ond yn amlwg, tocynnau ffug o鈥檔 nhw.鈥

Er i nifer o鈥檌 ffrindiau dderbyn negeseuon gan ei chyfrif hi, dyw Indigo ddim yn adnabod unrhyw un sydd wedi colli arian.

鈥淔i鈥檔 teimlo鈥檔 really, really euog bod rhywun yn defnyddio enw fi a lluniau fi i sgamio pobl allan o arian.

鈥淵n enwedig pobl sydd yn eithaf vulnerable, falle pobl sydd yn ffans gorau Taylor Swift neu rhywun sydd yn cael plant sydd yn hoffi Taylor Swift.鈥

Mae Indigo wedi adrodd y ffaith ei bod hi wedi colli rheolaeth o鈥檌 chyfrifon hi i鈥檙 platfformau amrywiol a rhannu鈥檙 sefyllfa ar gyfrifon newydd.

'Unrhyw un yn gallu cael ei sgamio'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na gyngor i bobl gymryd eu hamser cyn prynu tocynnau ar-lein i weld artistiaid poblogaidd, fel Taylor Swift

Mae Emily Seymour, newyddiadurwraig sy鈥檔 arbenigo mewn hawliau defnyddwyr ar gyfer cylchgrawn Which?, yn dweud bod sgamiau wrth brynu tocynnau yn 鈥済yffredin iawn鈥, gyda phobl yn targedu eraill sy鈥檔 awyddus iawn i brynu tocynnau yn gyflym.

Ei chyngor hi ydy sicrhau eich bod chi鈥檔 鈥渃ymryd amser鈥 cyn prynu er mwyn 鈥渟icrhau chi鈥檔 hela eich arian at berson go iawn鈥.

Os ydych chi鈥檔 pryderu eich bod chi wedi eich twyllo, meddai Emily, mae angen cysylltu 芒鈥檆h banc yn syth i gofnodi鈥檙 twyll a thrafod yr hyn sydd ar gael i amddiffyn chi.

鈥淵n anffodus, os ydych chi wedi gwneud trosglwyddiad banc, felly rydych chi wedi talu'n uniongyrchol o'ch cyfrif i mewn i gyfrif rhywun arall, mae'n anoddach cael eich arian yn 么l.

鈥淏yddem yn argymell yn fawr nad ydych yn defnyddio鈥檙 dull talu hwnnw, os yn bosibl.鈥

Yn 么l Simon Hatch, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, mae 鈥渞hywun yn gallu cael eu targedu gan sgam鈥.

鈥淲rth i sgamwyr ddod yn fwyfwy soffistigedig mae鈥檔 bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn gweithio gyda鈥檔 gilydd i godi ymwybyddiaeth, adrodd sgamiau a rhannu ein profiadau i helpu i amddiffyn ein hunain rhag eu triciau.鈥