Â鶹ԼÅÄ

Medal aur i'r nofiwr Matt Richards yn y ras gyfnewid

Matt Richards (canol)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matt Richards (canol) gyda'i fedal aur wedi'r seremoni wybrwyo nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r nofiwr Matt Richards wedi ennill medal aur fel rhan o dîm cyfnewid Prydain yn y ras 4x200m dull rhydd.

Roedd Prydain o flaen UDA o drwch blewyn, diolch i ymdrechion James Guy a Tom Dean, erbyn i Richards nofio'r trydydd cymal.

Fe lwyddodd i agor y bwlch, yn enwedig yn y 50m olaf, cyn i Duncan Scott gymryd drosodd.

Fe orffennodd yntau'n gyfforddus, 1.35 eiliad o flaen yr Americanwyr. Awstralia oedd yn drydydd.

Mae'r Cymro Kieran Bird hefyd yn cael medal aur am rasio yn y rownd flaenorol wrth i Richards gael gorffwys ar gyfer y ras derfynol.

Tîm Prydain oedd yn fuddugol yn y ras yma yn y Gemau Olympaidd diwethaf yn Tokyo hefyd, pan roedd dau Gymro'n rhan o'r tîm - Richards a Callum Jervis.

Dyma'r tro cyntaf i bedwarawd ras gyfnewid Prydeinig o unrhyw fath, yn y pwll neu ar drac athletau, adennill teitl Olympaidd.

Mae Gemau Paris yn profi i fod yn rhai llwyddiannus iawn i Richards, ar ôl iddo gipio'r fedal arian yn ras dull rhydd 200m y dynion ddydd Llun.

Ond yn gynharach nos Fawrth fe fethodd Richards â sicrhau ei le yn rownd derfynol y 100m dull rhydd.

Fe orffennodd yn y 12fed safle gydag amser o 48.09 yn y rownd gynderfynol - yr wyth uchaf oedd yn gwneud y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ruby Evans yw'r Gymraes gyntaf i gyrraedd rownd derfynol gymnasteg yn y Gemau Olympaidd

Yn gynharach fe wnaeth y Gymraes 17 oed Ruby Evans golli allan ar fedal o drwch blewyn fel rhan o dîm gymnasteg menywod Prydain.

Fe wnaeth Ruby a gweddill y tîm - Georgia-Mae Fenton, Alice Kinsella, Becky Downie ac Abigail Martin - orffen gyda sgôr o 164.263.

Yr Unol Daleithiau - a'u seren Simone Biles - enillodd aur, Yr Eidal oedd yn ail, tra mai Brasil sicrhaodd efydd gyda sgôr oedd 0.234 yn fwy na Phrydain.

Ruby, o Gaerdydd, yw'r Gymraes gyntaf i gyrraedd rownd derfynol unrhyw gystadleuaeth gymnasteg yn y Gemau Olympaidd.

Hefyd ddydd Mawrth fe ddaeth tîm rygbi 7-bob-ochr menywod Prydain yn seithfed yn eu cystadleuaeth nhw.

Roedd dwy Gymraes yn rhan o'r tîm hwnnw - Jasmine Joyce-Butchers a Kayleigh Powell, oedd wedi teithio i Baris fel chwaraewr wrth gefn ond a ddaeth yn rhan o'r garfan yn dilyn anaf i Grace Crompton.

Pynciau cysylltiedig