Cymharu colli pensiynau dur i sgandal Swyddfa'r Post

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gweithwyr Allied Steel and Wire yn cynnal protest yn Llundain yn 2007
  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae grŵp o weithwyr Cymreig yn dweud eu bod wedi dioddef camweinyddiad cyfiawnder tebyg i sgandal Swyddfa'r Post.

Mae staff hen ffatri dur ASW, a gollodd eu pensiynau pan aeth y cwmni i'r wal yn 2002, yn dweud eu bod eisiau cael eu talu'n llawn.

Dywed Plaid Cymru y dylai gweinidogion weithredu'n gyflym i fynd i'r afael â'r mater.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod cynllun sydd ar waith yn sicrhau bod cyn-weithwyr yn cael y rhan fwyaf o'r pensiwn yr oedd ganddyn nhw'r hawl iddo.

'Beth y’n ni wedi gwneud i haeddu hyn?'

Dechreuodd yr ymgyrch wedi i ffatri dur Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd fynd i'r wal yn 2002.

Yn ogystal â'u swyddi, collodd gweithwyr yno bensiynau yr oeddent wedi bod yn talu mewn iddynt ers degawdau, a dechreuodd yr ymgyrch i'w cael yn ôl.

Ar ôl dwsinau o brotestiadau, lansiodd Llywodraeth y DU gynllun a oedd yn sicrhau y byddai gweithwyr o gwmnïau fel ASW yn derbyn hyd at 90% o'u pensiynau.

Y broblem nawr yw bod rhan o'r pensiynau hynny ddim yn mynd i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd John Benson ei fod yn mynd i gysgu yn y nos ac yn deffro yn y bore yn meddwl am y peth

Mae hynny'n golygu, mewn oes o chwyddiant uchel, fod pensiynwyr fel John Benson yn cael llai o arian.

“Dwi'n mynd i'r gwely yn y nos yn meddwl am y peth," meddai.

"Beth y’n ni wedi gwneud i haeddu hyn?"

"Rwy'n deffro yn y bore: 'Beth ydw i wedi ei wneud i haeddu hyn?'

"'Naethon ni ddilyn y rheolau.

"Fe wnaethon ni ymddiried yn y gwleidyddion yn San Steffan, ac fe wnaethon nhw fradychu'r ffydd honno."

Cefnogaeth gan wleidyddion

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhun ap Iorwerth yn cefnogi'r ymgyrch, gan ddweud mai "anghyfiawnder ydy anghyfiawnder"

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod y tebygrwydd â sgandal Swyddfa'r Post, lle cafodd pobl eu hanwybyddu am flynyddoedd cyn cael sylw o'r diwedd.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’u hymgyrch, ac yn dweud bod yr amser bellach wedi dod i weinidogion wneud yn iawn am y peth.

Dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth: "Anghyfiawnder ydy anghyfiawnder.

"Ma’r llywodraeth wedi gorfod sylweddoli rŵan fod yn rhaid gwneud iawn am yr hyn ddigwyddodd i weithwyr y swyddfeydd post.

"Dwi wedi bod yn cefnogi'r rhai sy' wedi diodde’ gan waed wedi’i heintio, i sicrhau bo' nhw’n cael iawndal oherwydd mai dyna’r peth iawn i wneud.

"Yn yr achos yma, dyma ydy’r peth iawn i'w wneud."

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Disgrifiad o'r llun, Er yn cefnogi'r ymgyrch, nid yw'r Farwnes Altmann yn sicr o ble daw'r arian

Dywed y cyn-weinidog pensiynau, y Ceidwadwr y Farwnes Altmann, ei bod hi hefyd yn cefnogi'r pensiynwyr a bod ganddyn nhw achos moesol cryf, ond y gallai fod yn anodd iddyn nhw gael yr hyn maen nhw ei eisiau.

Dywedodd: "Dydw i ddim yn gwybod o ble mae'r arian yn mynd i ddod oherwydd mae pob gweinidog yn y llywodraeth yn brwydro am arian trethdalwyr ar gyfer pob math o bethau, ac ni allai unrhyw weinidog DWP fynnu bod y Trysorlys yn talu.

"Byddai'n anodd.

"Hoffwn pe bawn i'n gallu gweld rhywbeth realistig y gallwn ddisgwyl i ddigwydd - defnyddio ffon hud a pheri bod y llywodraeth, sydd wedi gwrthod yn bendant bob tro, yn gwella'r sefyllfa ariannol i bawb." 

'Sicrhau tegwch i'r trethdalwr'

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'n bwysig sicrhau bod y system diogelu pensiynau yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol, gan ddarparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer cynilwyr a thegwch i'r trethdalwr.

"Mae ein Cynllun Cymorth Ariannol yn sicrhau bod pobl yn cael 90% o'r buddion pensiwn a gronnwyd ganddynt pan ddechreuodd eu cynllun ddirwyn i ben…

"Mae hyn yn sicrhau tegwch i'r trethdalwr tra hefyd yn cefnogi'r rhai a fyddai wedi bod mewn sefyllfa waeth pe na bai ar gael."