Mwy o ganolfannau cynnes i ymateb i gostau byw cynyddol

Disgrifiad o'r llun, Dywed Lisa Whyte fod mynd i ganolfan gynnes gyda'i merch Esm茅 yn helpu gyda'i biliau
  • Awdur, Meleri Williams
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

鈥淣i鈥檔 joio dod. Mae鈥檔 dwym ac ma鈥 coffi am ddim. Mae鈥檔 gr锚t.鈥

Mae Lisa Whyte, 41, yn ymweld 芒 chanolfan gynnes ym Mhontarddulais gyda鈥檌 merch fach.

Mae鈥檙 ganolfan yn un o fwy nag 80 ar draws Abertawe a gafodd eu sefydlu mewn ymateb i鈥檙 argyfwng costau byw.

Mae tua 700 o鈥檙 canolfannau ar draws Cymru yn 么l ymchwil Prifysgol Abertawe, a ddangosodd hefyd eu bod yn chwarae r么l bwysig wrth ofalu am les pobl.

Ond rhybudd Sefydliad Bevan yw y dylai pobl allu gwresogi eu tai eu hunain.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw".

'Costau ynni wedi mynd drwy鈥檙 to'

鈥淢ae鈥檔 galed. Mae lot o deuluoedd yn gweld hi'n anodd,鈥 ychwanegodd Lisa.

Mae鈥檔 dod i鈥檙 ganolfan i gwrdd 芒 mamau eraill a chadw鈥檔 gynnes gyda鈥檌 merch Esm茅 sy鈥檔 10 mis oed.

Disgrifiad o'r llun, Mae Charlotte Bidwell-Williams wedi bod yn defnyddio canolfan gynnes gyda'i merch

Dywedodd fod biliau鈥檙 teulu wedi codi a bod gallu gadael y t欧 am ychydig oriau yn help.

鈥淣i鈥檔 cael tost, cacen, cwpaned o goffi. Mae鈥檔 dda," meddai.

鈥淕yda straen ariannol yr argyfwng costau byw, mae鈥檔 gr锚t i ni fod gyda鈥檔 gilydd.鈥

Ychwanegodd un arall o鈥檙 mamau, Charlotte Bidwell-Williams, 32: 鈥淢ae mor oer ar hyn o bryd. Ma' costau ynni wedi mynd drwy鈥檙 to.

鈥淢ae鈥檔 dwym yma. Chi鈥檔 gwybod bod eich plant yn mynd i gael eu bwydo.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Eira Mainwaring, sy'n gweithio mewn canolfan gynnes, yn gweld pobl yn ei ddefnyddio'n ddyddiol

Yn 么l un sy鈥檔 gweithio yn y ganolfan, mae pobl o bob oed yn dod am baned a sgwrs yn ddyddiol, a鈥檙 galw鈥檔 cynyddu.

鈥淢ae鈥檔 rhywle iddyn nhw ddod i gael bwyd, cwpaned o de neu goffi i gadw nhw i fynd,鈥 dywedodd Eira Mainwaring.

鈥淢a鈥 aros yn t欧 yn gallu bod yn gostus.

"Ma鈥 llefydd fel hyn yn gynnes drwy鈥檙 dydd iddyn nhw a ma鈥 nhw鈥檔 gweld pobl eraill hefyd.鈥

Ym mharc Pontlliw, y genhedlaeth h欧n sy鈥檔 cwrdd ar fore Mercher i gymdeithasu a chadw鈥檔 gynnes.

Mae gwirfoddolwyr yn gweini diodydd poeth a rhywbeth i fwyta.

鈥淔i鈥檔 gwirfoddoli, fi鈥檔 pigo oedolion lan a dod 芒 nhw 鈥榤a pan maen nhw鈥檔 rhy ffaeledig i ddod eu hunain,鈥 dywedodd Keith Turner.

鈥淣i 鈥榙i bod yn lwcus iawn i gael sawl grant wrth [Gyngor Sir] Abertawe ac wrth gyngor y gymuned 鈥榤a.

鈥淕obeithio byddwn ni 鈥榤a am sawl blwyddyn i ddod.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Ella Rabaiotti wedi bod yn ymchwilio i fuddion canolfannau cynnes gyda Phrifysgol Abertawe

Mae Cyngor Sir Abertawe wedi dosbarthu grantiau i nifer o鈥檙 canolfannau ar draws y sir.

Yn 么l ymchwil diweddar gan Brifysgol Abertawe mae鈥檙 canolfannau鈥檔 cynnig mwy na lle cynnes i bobl, ac maen nhw鈥檔 debygol o ddod yn bethau cyffredin mewn cymunedau.

鈥淵n y lle cyntaf roedd 鈥榥a fuddsoddiad [ar gyfer y canolfannau cynnes],鈥 dywedodd yr ymchwilydd Ella Rabaiotti.

鈥淒yw bob un ddim yn derbyn arian ond maen nhw wedi parhau.

鈥淢ae鈥檔 fwy am y cynhesrwydd emosiynol nag yn ymarferol.鈥

Normaleiddio costau byw uchel?

Ond mae Sefydliad Bevan yn poeni fod pobl yn dod i鈥檙 canolfannau gan na allan nhw fforddio gwresogi eu tai.

鈥淢a鈥 鈥榥a nifer uchel iawn o bobl yng Nghymru yn ei chael hi鈥檔 anodd i wresogi eu cartrefi, i roi bwyd ar y bwrdd,鈥 dywedodd Dr Steffan Evans o鈥檙 sefydliad.

鈥淵n amlwg mae鈥檔 gr锚t bod 鈥榥a lefydd lle all pobl gael cymorth yn eu cymunedau.

鈥淥nd beth ddylai fod yn digwydd yw bod pobl yn gallu bod yn gynnes yn eu cartrefi eu hun.

鈥淏eth sydd angen eto yw鈥檙 buddsoddiad yma i sicrhau fod incymau pobl yn ddigon, gwneud yn si诺r fod digon drwy鈥檙 system fudd-daliadau fel bod pobl yn gallu gwresogi eu cartrefi.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Steffan Evans fod angen buddsoddi fel bod pobl yn gallu fforddio cynhesu eu tai eu hunain

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod canolfannau clyd wedi "eu datblygu ar lefel leol oedd yn addas i anghenion lleol, ac maent wedi darparu cefnogaeth angenrheidiol i fwy na 117,000 o bobl ar draws Cymru".

"Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw i leddfu pwysau ariannol a chynyddu incwm,鈥 meddai.

鈥淢ae hyn yn cynnwys Siarter Budd-daliadau Cymru, sydd 芒'r nod o gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl rhag hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a'n rhaglen Cartrefi Clyd sy'n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd agored i niwed sy'n byw yn y cartrefi lleiaf ynni effeithlon."