鶹Լ

Unioni darlun 'unochrog' y Bywgraffiadur Cymreig

Alex Givvons mewn crys a chap CymruFfynhonnell y llun, Oldham Rugby League Heritage Trust
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alex Givvons o Bilgwenlli, Casnewydd, mor uchel ei barch gan Glwb Rygbi'r Gynghrair Oldham fel yr enwyd stryd yn y dref ar ei ôl, Givvons Fold

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi clywed am y seren rygbi Clive Sullivan, y paffiwr Arnold Sheppard a’r ymgyrchydd iaith Judith Maro? Maen nhw ymysg yr enwau sydd wedi eu hychwanegu i’r Bywgraffiadur Cymreig yn ddiweddar fel rhan o ymdrech i sicrhau mwy o amrywiaeth yn y casgliad.

Y Bywgraffiadur Cymreig yw'r cyhoeddiad sy'n cofnodi pobl sydd wedi dod i amlygrwydd neu wedi gwneud cyfraniad arbennig ym mywyd Cymru.

Yn yr erthygl hon mae'r golygydd, Dr Dafydd Johnston, yn egluro pam roedd angen gwella darlun "unochrog” y cyfrolau gwreiddiol ac yn tynnu ein sylw at rai o’r bobl ddifyr sydd wedi cael eu hychwanegu at y Bywgraffiadur yn ddiweddar:

Adlewyrchu amrywiaeth ethnig yn y Bywgraffiadur

Darlun unochrog iawn o boblogaeth hanesyddol Cymru a geir yng nghyfrolau gwreiddiol Y Bywgraffiadur Cymreig a gyhoeddwyd gyntaf yn 1953, un sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar Gymry cynhenid, gwyn, a'r rhan fwyaf helaeth ohonynt yn ddynion.

Erbyn hyn mae'r Bywgraffiadur yn brosiect ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac fe'i cyhoeddir ar-lein gydag erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson sy'n rhoi cyfle i unioni'r darlun rywfaint.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a chydweithrediad Race Council Cymru, mae ymdrech wedi bod yn ddiweddar i adlewyrchu amrywedd ethnig poblogaeth Cymru.

Cymry du amlwg

Y Cymro du cynharaf y mae modd rhoi braslun o'i fywyd yw a fu farw yn 1786. Cafodd ei herwgipio'n wyth mlwydd oed o'i gynefin yn India'r Gorllewin, mae'n debyg, gan un o deulu Wynn, Ystumllyn ger Cricieth.

Cymraes ddu enwocaf ein hoes ni, mae'n siŵr, yw (1934–2017), a anwyd yn Nhre-biwt, Caerdydd, yn ferch i forwr o Jamaica a'i mam o dras Farbadaidd. Pan benodwyd hi'n brifathrawes Ysgol Gynradd Mount Stuart yn y 1970au hi oedd y person du cyntaf i ddod yn bennaeth ysgol yng Nghymru.

John Ystumllyn a stori pobl ddu 'gyntaf' Cymru

Dadorchuddio cerflun i brifathrawes ddu gynta' Cymru

Ond mae sawl un llawer llai adnabyddus sydd wedi cyfrannu at hanes Cymru ac sydd bellach yn y Bywgraffiadur.

Faint wyddoch chi am y rhain, er enghraifft?

Clive Sullivan

Disgrifiad o’r llun,

clive sullivan

Mae nifer o bobl o leiafrifoedd ethnig Cymru wedi bod yn flaenllaw ym myd chwaraeon. Yr un mwyaf adnabyddus, efallai, yw'r chwaraewr rygbi'r gynghrair o Gaerdydd, (1943–1985). Sullivan oedd capten tîm Prydain a enillodd Gwpan y Byd yn 1972, a dyna'r tro cyntaf i chwaraewr du fod yn gapten ar dîm Prydain mewn chwaraeon o unrhyw fath.

Alex Givvons

Ffynhonnell y llun, Oldham Rugby League Heritage Trust

Un o'r chwaraewyr du cynharaf i wneud enw iddo'i hun yn rygbi'r gynghrair oedd (1913–2002) o Gasnewydd a fu'n un o sêr clwb Oldham.

Arnold Sheppard

Ffynhonnell y llun, Twitter/Y Bywgraffiadur

Roedd rhagfarn hiliol yn broblem fawr ym myd y campau ers llawer dydd, fel y mae hyd heddiw. Un a ddioddefodd yn enbyd yw'r paffiwr (1908–1979) o Gaerdydd. Roedd bar lliw mewn grym ym Mhrydain yn ei gyfnod ef a fynnai mai dim ond paffwyr â dau riant gwyn a allai gystadlu am deitlau, ac oni bai am hynny gallai Sheppard fod wedi ennill teitl pencampwr Prydain.

Mae'r Bywgraffiadur yn gwneud cyfraniad pwysig yn cadw'r cof yn fyw am bobl fel Arnold Sheppard sydd wedi ei anghofio i raddau helaeth erbyn hyn.

Enrico Stennett

Mae'r Bywgraffiadur hefyd yn cynnwys rhai pobl a anwyd y tu allan i Gymru. Un o genhedlaeth Windrush oedd (1926–2011) o Jamaica. Treuliodd Stennett ran olaf ei fywyd yng Nghymru a bu'n weithgar gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru.

Yn 2018 cafodd ei gydnabod gan Race Council Cymru yn un o 100 Eicon Cymru Ddu.

Victor Spinetti

Mae'n bwysig cofio am leiafrifoedd ethnig eraill Cymru, fel yr Eidalwyr sydd wedi cyfrannu'n fawr i fywyd cymoedd y De. Un o'r rheini yw Vittorio Georgio Andre Spinetti o Lynebwy a ddaeth yn enwog fel yr actor (1929–2012) – llais y cartŵn Superted ymhlith ei rannau mewn llawer o sioeau a ffilmiau eraill. Roedd Spinetti'n ddyn hoyw, ac yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru y cwrddodd â'r actor Graham Curnow a fu'n gymar iddo am dros 40 mlynedd.

Griff Vaughan Williams

Gwych o beth hefyd oedd y cyfle i goffáu bywyd a gwaith yr actifydd (1940–2010), newyddiadurwr o Fangor a wnaeth lawer i dynnu sylw at drais yn erbyn hoywon.

Judith Maro

Ffynhonnell y llun, Twitter/Y Bywgraffiadur

Un o'r erthyglau diweddaraf i'w hychwanegu i'r Bywgraffiadur yw'r un am (1919–2011), neu Yehudit Anastasia Grossman, Iddewes a anwyd yn yr Wcráin ac a fu'n rhan o'r frwydr i sefydlu gwladwriaeth Israel, cyn dod i Gymru lle bu'n rhan o frwydr arall, yr un dros yr iaith Gymraeg, gan wneud enw iddi'i hun fel awdur a fynnai gyhoeddi ei nofelau yn y Gymraeg yn gyntaf.

Mwslemiaid Cymru

Lleiafrif ethnig sydd heb ei gynrychioli yn y Bywgraffiadur hyd yn hyn yw Mwslemiaid Cymru. Cam bach i'r cyfeiriad iawn fydd erthygl sydd i'w chyhoeddi'n fuan am Abdullah Ali al-Hakimi (c. 1900–1954), arweinydd Mwslemaidd o Yemen a sefydlodd y mosg cyntaf yng Nghymru, Noor al-Islam ym Mae Caerdydd.

Mae'r tîm golygyddol yn awyddus i ehangu'r gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig yn y Bywgraffiadur, a byddem yn falch o dderbyn awgrymiadau am enwau pobl a ddylai gael eu cynnwys, ac yn enwedig gynigion i lunio erthyglau.

Pynciau cysylltiedig