Undeb Unite i ohirio streic gweithwyr dur

Disgrifiad o'r llun, Mae Unite wedi gohirio'r streic er mwyn ail ddechrau trafodaethau am ddyfodol y safle

Mae Undeb Unite wedi cadarnhau eu bod am ohirio streic gan weithwyr Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn cynnal trafodaethau o'r newydd gyda'r cwmni am ddyfodol y safle.

Roedd yr undeb wedi bwriadu streicio ar 8 Gorffennaf.

Roedd perchnogion Tata wedi bygwth cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ddiwrnod cyn y streic, am resymau iechyd a diogelwch.

Ond maen nhw bellach wedi cadarnhau na fydd y ffwrneisi yn cau yn gynt na'r disgwyl wedi i Unite ohirio eu streic.

Ddydd Sul fe wnaeth cwmni Tata Steel gynnig cyfarfod undebau ar gyfer trafodaethau o'r newydd ar yr amod bod Unite yn gohirio'r streic.

Y gred yw bod y cwmni, mewn llythyr i Bwyllgor Dur y DU - sy'n cynrychioli undebau Community, Unite a'r GMB - wedi cynnig trafod buddsoddiad yn safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol.

Ond roedd yn rhaid i'r undebau ohirio unrhyw weithredu diwydiannol yn ne Cymru.

Byddai'r gweithredu diwydiannol wedi golygu bod tua 1,500 o staff Tata Steel yn streicio dros gynlluniau'r cwmni i dorri miloedd o swyddi.

Hwn fyddai'r tro cyntaf mewn 40 mlynedd i weithwyr dur yn y DU fynd ar streic.

Fe wnaeth y Llywodraeth addo grant o £500 miliwn tuag at ddatblygu ffwrnais drydan newydd gwerth £1.25 biliwn, ac er yn cynhyrchu digon o egni, does dim angen cymaint o staff i'w rhedeg.

Bydd cau'r ddwy ffwrnais yn golygu colli 2,800 o swyddi tra byddai cadw un o'r ffwrneisi yn golygu diogelu 2,000 o'r swyddi os byddai'r ffwrnais yn weithredol nes bod y ffwrnais drydan yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Dywed ffynhonnell wrth y Â鶹ԼÅÄ fod Unite wedi rhoi'r esgus perffaith i gau Tata yn gynnar, gan golli nifer o swyddi.

Ond dywed swyddogion Unite bod eu gweithredoedd wedi "helpu i ffocysu meddyliau pobl" ac yn dweud y bydd trafodaethau pellach wedi'r etholiad cyffredinol.

Er hyn, mewn llythyr - sydd wedi ei weld gan y Â鶹ԼÅÄ - mae'n amlwg fod y cwmni eisoes wedi cytuno i drafodaethau pellach yn dilyn yr etholiad.

Dywed swyddogion o undebau eraill fod Unite wedi achosi "dim byd ond anrhefn ac arian i'w haelodau".

Wrth ymateb i'r penderfyniad i ohirio'r streic, dywed Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol i Undeb Cymunedol Gweithwyr Dur: "Fe wnaeth Tata gadarnhau os y byddai'r gweithredu diwydiannol yn cael ei ohirio yna y bydden nhw'n barod i ail agor trafodaethau.

"Gyda miloedd o swyddi yn y fantol, rydym yn croesawu penderfyniad Unite i ohirio eu streic ac i ddychwelyd i drafodaethau gyda'r undebau eraill.

"Y gwirionedd yw, ni wnaeth Tata erioed gerdded i ffwrdd o'r trafodaethau, ac yn ystod ein cyfarfod diwethaf ar 22 Mai, fe wnaeth yr holl undebau gytuno i ddod â'r trafodaethau i ben a rhoi'r penderfyniad yn nwylo'n haelodau.

"Bydd undeb Community yn croesawu ail agor y trafodaethau, ond rydym yn ddig nad oes unrhyw ddatblygiad wedi bod ers Mai 22."

'Atal paratoadau' ar gyfer cau'n gynnar

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel y byddan nhw'n "atal paratoadau" ar gyfer rhoi’r gorau i weithredu'r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot yr wythnos hon.

"Rydym yn croesawu’r ffaith ein bod wedi osgoi gorfod symud ymlaen i lawr y llwybr hwn."

Cadarnhaodd y cwmni fod y gwaith ar un o'r ffwrneisi chwyth wedi dechrau dod i ben yr wythnos hon, ond y disgwyl nawr yw y bydd yr ail ffwrnais yn dal i weithredu tan fis Medi.