鶹Լ

Pobl ifanc yn troi cefn ar gyfryngau cymdeithasol

Iwan KelletFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Kellet yn credu fod ei iechyd meddwl wedi gwella ar ôl iddo gymryd saib o gyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Mae mwy o bobl ifanc nag erioed yn troi eu cefn ar gyfryngau cymdeithasol, yn ôl arolwg diweddar.

Mae Iwan Kellet o Ynys Môn yn dweud fod ei iechyd meddwl wedi gwella ers iddo beidio edrych ar wefannau cyfryngau cymdeithasol “addictive” am gyfnod.

Generation Z - unigolion sydd wedi eu geni rhwng 1996 a 2010 - yw'r mwyaf tebygol o ddweud bod cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar eu lles.

Dywed arbenigwyr y gall cefnu ar gyfryngau cymdeithasol am gyfnod hybu perthynas iachach gyda chyfryngau cymdeithasol a thechnoleg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ô Iwan, TikTok yw'r platfform mwyaf anodd ei adael

Mae Iwan, 21, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, a dywed bod y cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iddo er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda'i ffrindiau.

Roedd Iwan yn treulio dros bum awr y dydd ar ei ffôn cyn iddo roi'r gorau i gyfryngau cymdeithasol ddechrau'r haf.

Dywedodd: '"Nes i benderfynu mynd ar detox achos o'n i’n gweld y teimladau negyddol oedden nhw’n rhoi yn fy mhen i.

"Yr un oedd yn cymryd y mwyaf o amser oedd TikTok.

"'Swn i’n disgrifio fo fel reit addictive, rhywbeth rili anodd i roi lawr."

'Oll o'n i’n gweld oedd straeon negyddol'

Yn ôl ymchwil diweddar gan gwmni HMD Global, nid Iwan yw'r unig un i leihau ei ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol.

O'r 2,000 a holwyd fe wnaeth tri o bob pump a gafodd eu geni rhwng 1996 a 2010, gymryd cyfnod o seibiant oddi wrth gyfryngau cymdeithasol er mwyn ailgysylltu â'r byd o'u hamgylch.

Yn y cyfamser, mae 25% o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn dweud bod sŵn cyson hysbysebion yn gallu achosi anniddigrwydd.

Yn yr arolwg fe wnaeth 22% ddweud eu bod yn doomscrollio, sef treulio amser sylweddol yn sgrolio trwy gynnwys negyddol neu newyddion drwg.

Wrth drafod ei brofiad ei hun o doomscrolling dywedodd Iwan: "Oll o'n i’n gweld oedd straeon negyddol am bob mathau o bethau, beth bynnag oedd yn y newyddion."

Mewn arolwg arall dywedodd un o bob pedwar o grŵp Gen Z bod treulio amser hir ar gyfryngau cymdeithasol wedi gwaethygu eu hiechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Donna Dixon bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd pobl ifanc

Mae Donna Dixon yn ddarlithydd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor ac yn cynnal ymchwil ar effeithiau technoleg ar bobl ifanc.

Dywedodd: "Mae ymchwil yn awgrymu bod perthynas gymhleth rhwng ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

"Gall defnydd aniachus o gyfryngau cymdeithasol ymhlith pobl ifanc fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl fel pryder ac iselder."

Mae astudiaeth gan Ms Dixon wedi darganfod hefyd fod defnydd rhieni o dechnoleg yn gallu effeithio ar berthynas pobl ifanc â chyfryngau cymdeithasol.

Er hyn, mae Ms Dixon yn cydnabod budd cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc.

"Er gwaethaf tystiolaeth gynyddol o effeithiau niweidiol cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, mae yna dystiolaeth sy'n awgrymu effeithiau cadarnhaol fel cysylltiad cymdeithasol," meddai.

Wrth drafod yr arfer cynyddol o gael cyfnod i ffwrdd o'r cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Er bod ymchwil yn awgrymu bod yna berthynas rhwng defnydd llai o gyfryngau cymdeithasol a llesiant uwch, mae'r goblygiadau o gymryd seibiant o ddefnydd technoleg yn aneglur."

Hybu defnydd iach o dechnoleg

Mae Iwan bellach yn pori eto ar gyfryngau cymdeithasol, ond dywed ei fod yn edrych ar ei gyfrifon yn llawer llai aml.

"Mae peidio gweld y pethau negyddol yna a pheidio cysylltu’n negyddol efo’r ffôn hyd yn oed, jyst yn neud chdi gymaint hapusach yn dy fywyd o ddydd i ddydd," meddai.

Ychwanegodd Donna Dixon: "Efallai felly mai’r nod yn y pendraw yw hybu defnydd iach o dechnoleg, gan bwysleisio pwysigrwydd ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a symud i ffwrdd oddi wrth naratif gor-syml."