鶹Լ

Dyn ifanc wedi marw ar ôl llithro ar graig rydd ar fynydd Tryfan - cwest

Jia Jun Philip ZhuFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Phil Zhu ym mis Mai ar ôl iddo syrthio ar fynydd Tryfan

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dyn 19 oed wedi iddo lithro ar graig rydd wrth ddringo mynydd yn Eryri, mae cwest wedi clywed.

Roedd Jia Jun Philip Zhu, neu Phil, yn cerdded i lawr Tryfan gyda'i ddau frawd iau pan syrthiodd i mewn i rigol (gully).

Dywedodd y crwner mai damwain oedd ei farwolaeth.

Clywodd y cwest fod Phil Zhu yn fyfyriwr ac yn hyfforddwr crefftau ymladd (martial arts) o ardal Seaforth, Glannau Merswy, a'i fod yn gobeithio ymuno â'r Awyrlu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phil a'i frodyr wedi cerdded i ben Tryfan ac yn dod lawr mewn tywydd gwael

Roedd ef a’i ddau frawd yn Eryri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc ddiwedd mis Mai.

Roedden nhw wedi cerdded i ben Tryfan ac yn dod lawr mewn tywydd gwael gyda chymylau isel.

Dywedodd un o frodyr Phil Zhu wrth yr heddlu fod Phil wedi dringo ar graig rydd ac wedi colli ei gydbwysedd a syrthio.

Cafodd y dystiolaeth ei darllen yn y cwest gan y patholegydd Dr Chloe Durrell, a wnaeth archwiliad post mortem.

Dywedodd ei fod wedi dioddef anafiadau i'w ben ac i'w asgwrn cefn yn ystod y cwymp. Nid oedd modd iddo oroesi'r anafiadau, meddai.

'Falch iawn o Phil'

Daeth y crwner John Gittins i gasgliad o farwolaeth ddamweiniol, a dywedodd: “Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb.

“A ga'i anfon cydymdeimlad arbennig at ei ddau frawd a gafodd y drasiedi ychwanegol o fod yno, ac ymdopi â’r trawma hwnnw.”

Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, diolchodd ewythr Phil Zhu, Philip Cheng i'r gymuned am y gefnogaeth a gafodd y teulu ar ôl ei farwolaeth.

“Rhoddodd Phil lawer o amser i helpu i hyfforddi pobl ifanc mewn Crefft Ymladd Cymysg, ac mae pawb yn y gampfa lle’r oedd wedi’i leoli wedi bod yn anhygoel.

“Bydd yn creu gwaddol i’w waith fel hyfforddwr.

“Rydym yn falch iawn o Phil. Roedd yn ddyn ifanc arbennig ac yn golled enfawr i’w deulu a’i gymuned.”