鶹Լ

Vaughan Gething ddim am sefyll yn yr etholiad nesaf

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Reuters
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn sefyll yn etholiad Senedd Cymru yn 2026.

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd ei fod am ymddiswyddo fel prif weinidog, ar ôl pedwar mis yn y swydd.

Roedd Mr Gething wedi bod dan bwysau oherwydd rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid, ac am ddiswyddo un o'i weinidogion.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod Mr Gething “wedi bod yn aelod gwych o dîm sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi’u cyflawni dros bobl Cymru".

Dywedodd Mr Gething, sy'n cynrychioli De Caerdydd a Phenarth, wrth aelodau nos Sadwrn: "Fel Cymro gafodd ei eni yn Zambia, mae wedi bod yn fraint gwasanaethu yn llywodraeth Cymru am dros ddegawd.

"Mae'r cyfle i wneud gwahaniaeth ac i ysbrydoli pobl a symudiadau, ac i wneud gwahaniaeth, yn fraint arbennig.

"Mi fydda i wastad yn ddiolchgar ac yn falch o hynny."

Dywedodd ei fod wedi siarad gyda'r Prif Weinidog, Eluned Morgan i gadarnhau na fydd yn sefyll eto ac y bydd yn ei chefnogi hi o'r meinciau cefn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi diolch i Mr Gething "am bopeth rwyt ti wedi neud dros ein gwlad”

Wrth ymateb i gyhoeddiad Vaughan Gething, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae Vaughan Gething wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol hanesyddol i Gymru o dan rai o’r amgylchiadau anoddaf."

"Mae Vaughan wedi cyflawni dro ar ôl tro ac wedi hyrwyddo achos datganoli yng Nghymru.

“Mae wastad wedi bod yn aelod gwych o dîm sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi’u cyflawni dros bobl Cymru.

“Rydw i’n gwybod y bydd Vaughan yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau pwysig i’n gwlad ni yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

“Diolch Vaughan am bopeth rwyt ti wedi neud dros ein gwlad.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Michael y bydd Vaughan Gething "yn golled fawr i'r Senedd"

Dywedodd y cyn-brif weinidog Alun Michael fod y newyddion yn "siom fawr".

"Mae Vaughan wedi dangos ei hun i fod yn ddawnus, yn arweinydd - ac fe welon ni hynny yn arbennig yn ystod Covid - a bydd yn golled fawr i'r Senedd bod o ddim yn sefyll y tro nesa'.

"Mae lot o bobl yn ei etholaeth yn ddig iawn am beth sydd wedi digwydd ac yn gefnogol iawn o Vaughan, a ddim yn hapus bod o'n sefyll i lawr.

"Ar yr ochr arall, dwi'n meddwl bod o wedi edrych ar y sefyllfa a phenderfynu bod o'n amser gwneud rhywbeth gwahanol.

"Mae 'na fyd eang tu allan i'r Senedd i ddyn mor ddawnus â Vaughan - bydd lot o bosibiliadau yno iddo - a dwi'n siŵr y bydd o'n gwneud cyfraniad pwysig i gymdeithasau yng Nghymru mewn rhyw ffordd yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Vaughan Gething fel Prif Weinidog Cymru ym mis Gorffennaf

Daeth Vaughan Gething yn brif weinidog Cymru ym mis Mawrth 2024, ond cafodd ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o £200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Roedd Mr Gething yn mynnu ei fod wedi dilyn y rheolau.

Roedd hefyd wedi gorfod amddiffyn neges a yrrodd yn ystod y pandemig, tra'n weinidog iechyd, yn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn dileu negeseuon testun o grŵp tecstio.

Roedd ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.

Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth yn dangos fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn dathlu cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru ym Mawrth 2024

Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ddechrau Mehefin ac roedd ergyd arall i'w arweinyddiaeth ym mis Gorffennaf pan ymddiswyddodd pedwar aelod blaenllaw o'i gabinet.

Yn dilyn cyfarfod o aelodau'r blaid yn Senedd Cymru, fe gyhoeddodd y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

Daeth eu hymadawiad wedi wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.

Dadansoddiad

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y 鶹Լ

Dwi'n meddwl bod hi wedi bod yn eglur yn yr wythnosau ers i fe ymddiswyddo fel prif weinidog na fydde 'na le i Vaughan Gething yn y cabinet ym Mae Caerdydd.

Mae Llafur eisiau rhoi'r holl helbul yma y tu cefn iddyn nhw ac os felly, pa fantais fydde 'na i Vaughan Gething i aros fel aelod meinciau cefn yn y Senedd?

Felly dwi'n meddwl mai fe sydd wedi penderfynu hyn - dyw e ddim wedi ei orfodi arno fe - ond y ffaith bod 'na ddim swydd iddo fe yn y cabinet sy'n gyfrifol am y penderfyniad.