Â鶹ԼÅÄ

Dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân yn Sir Fynwy

Injan dân tu allan i'r tŷ ym Mhorthsgiwed
Disgrifiad o’r llun,

Injan dân tu allan i'r tŷ ym Mhorthsgiwed ble bu farw dyn yn ei 70au

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Fynwy.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Main Road ym mhentref Porthsgiwed ger Cil-y-coed tua 10:50 ddydd Sul.

Roedd y dyn a fu farw yn ei 70au, yn ôl Heddlu Gwent, ac mae ei deulu wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am gyfnod ond mae wedi ailagor.

Mae yna gordon o amgylch y tŷ ac mae ymholiadau'n parhau i gadarnhau achos y tân.

Pynciau cysylltiedig