Â鶹ԼÅÄ

Profiad iselder ar ôl cael babi yn ysbrydoli busnes sy'n llwyddo

Ffion Wyn EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Wyn Evans wedi ennill gwobr Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd am ei hadnodd iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Gaernarfon wedi ennill gwobr ar ôl i'w phrofiad o iselder ôl-enedigol ei hysbrydoli i greu adnodd iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Mae Ffion Wyn Evans, sy'n nyrs iechyd meddwl, wedi creu llyfr Cymraeg i helpu plant ddeall eu hemosiynau.

Cafodd y wobr ei rhoi fel rhan o flwyddyn gyntaf Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd mewn digwyddiad yn Tanygraig ger Aberystwyth.

Er y bydd rhai ysgolion yn defnyddio adnodd Enfys o Emosiynau yn eu gwersi, dywedodd Ffion bod angen i bob ysgol yng Nghymru drafod iechyd meddwl gyda disgyblion.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y wlad "yn mynd i’r afael â iechyd meddwl ar lefel ysgol gyfan, ac mae iechyd a lles yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd".

'Tydi doctors ddim fod yn sâl'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ffion ddioddef gydag iselder ôl-enedigol ar ôl cael ei mab, Griff

Fe wnaeth Ffion ddioddef gydag iselder ôl-enedigol ar ôl genedigaeth ei mab Griff, sydd bellach yn 20 mis oed.

"Oedd o reit anodd i fi, achos bo' fi'n nyrs iechyd meddwl fy hun, mae cymdeithas yn gweld pobl fel 'na fel, 'tydi doctors ddim fod yn sâl'.

"O'n i'n meddwl 'dwi'n nyrs iechyd meddwl, dwi ddim fod efo problemau iechyd meddwl.

"Oedd hynny reit anodd i fi i ddechrau, a jyst trio cuddio fo a trio shake it off."

Yn wreiddiol roedd cwmni Ffion, Blocs, yn gwerthu addurniadau tÅ· ac yn ffordd greadigol o helpu Ffion gyda'i hiechyd meddwl.

Dywedodd: "O'n i angen rhywbeth i lenwi'r bylchau negyddol 'na o jyst eistedd yna'n pendroni a meddwl am y gwaethaf.

"O'n i angen rhywbeth i gadw fy hun yn bositif ac yn brysur."

Ar ôl cychwyn cymryd tabledi, cafodd Ffion yr hyder i rannu ei phrofiad ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o raglen Llwyddo’n Lleol 2050.

"Wnes i ddweud fy stori a oedd yr ymateb ges i gan y merched... oedd negeseuon yn dod i mewn, 'pa tablets ti ar?', 'sut ges di help?', 'dwi'n teimlo fel 'ma, oedda chdi'n teimlo fel 'ma?'"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enfys o Emosiynau yn adnodd i hybu plant rhwng tair a 10 oed i fod yn agored am eu teimladau

Erbyn hyn, mae Ffion wedi rhyddhau adnodd iechyd meddwl - Enfys o Emosiynau - ar gyfer plant rhwng tair a 10 oed.

Pwrpas y llyfr yw helpu plant i ddeall eu hemosiynau a dangos "does ddim angen bod ofn siarad am sut maen nhw'n teimlo".

"O'n i jyst yn teimlo fel o'n i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, a o'n i'n meddwl 'lle gwell i gychwyn na efo plant?'" meddai Ffion.

"Maen nhw'n mynd trwy gymaint o bethau ar y funud, trwy social media a jyst y gofynion sydd ohonyn nhw, ac o'n i'n meddwl 'dwi ddim eisiau i Griff dyfu i fyny yn cuddio sut mae'n teimlo'."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion eisiau gweld iechyd meddwl yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol

Enillodd y wobr Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd yng Ngwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd mewn seremoni ger Aberystwyth.

Roedd yr enwebiad yn sioc i Ffion, sydd dal ddim yn gwybod pwy wnaeth ei henwebu hi a'i busnes.

Ond dywedodd fod y wobr yn gyfle gwych iddi ddangos ei gwaith.

Ym mis Medi bydd Ffion cychwyn ar swydd newydd yn helpu ysgolion yng Ngwynedd i ddeall anghenion iechyd meddwl plant.

Mae'r llyfr wedi cael ei archebu gan 30 ysgol yng Nghymru, ond mae Ffion eisiau gweld y nifer yn codi.

Dywedodd: "Dwi mor passionate am Enfys o Emosiynau, 'swn i'n licio fo'n bod yn rhan o'r cwricwlwm a bod o'n cael ei redeg trwy bob un ysgol, bob un feithrinfa."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "Cymru yn mynd i’r afael â iechyd meddwl ar lefel ysgol gyfan, ac mae iechyd a lles yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd".

“Mae athrawon yn canolbwyntio ar ystod o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl a lles emosiynol, a fydd yn helpu dysgwyr i ddelio â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n codi mewn bywyd," meddai.

'Cymuned allan yna ar goll'

Ar ôl rhannu ei phrofiad hi o iselder ôl-enedigol, mae Ffion eisiau cychwyn grŵp cefnogaeth yng Nghaernarfon trwy elusen PANDAS.

Ar hyn o bryd does gan yr elusen ddim grwpiau cefnogaeth gyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

Dywedodd Ffion: "Dwi'n teimlo fel mae 'na gymuned allan yna sydd jyst ar goll.

"Dwi'n gobeithio gwneith pobl jyst agor i fyny a jyst gwybod fod nhw ddim ar ben eu hunain achos mae'n gallu bod yn amser mor unig."