Â鶹ԼÅÄ

Wyddoch chi am gysylltiadau Cymreig y pethau hyn?

  • Cyhoeddwyd

Weithiau, mae’r pethau rydyn ni’n eu gweld neu’n eu defnyddio’n ddyddiol yn dod yn gymaint o ran o’n bywydau dydyn ni ddim yn meddwl am eu dechreuadau. Pryd y daeth y pethau hyn i fodolaeth? Pwy ddatblygodd y fath beth?

Efallai y gwnewch chi synnu bod ambell un o’r rhain a’u gwreiddiau yn nwfn yng Nghymru:

1. Y symbol hafal =

Mathamategwr a meddyg o Ddinbych-y-Pysgod oedd Robert Recorde ac ef oedd y person cyntaf i ddefyddio’r symbol = i nodi’r ystyr “yn hafal i†mewn hafaliadau mathamategol. Am ei ddewis i ddefnyddio’r ddwy linell lorweddol baralel i ddynodi hyn dywedodd “nad oedd unrhyw ddau beth yn gallu bod yn fwy hafal.â€

Mae’r ymddangosiad cyntaf y gwyddir amdano o hafaliad mewn nodiant cyfoes i’w gweld yn llyfr The Wheltstone of Witte gan Recorde, sef 14x + 15= 71 a gyhoeddwyd ym 1557.

Ffynhonnell y llun, Basher Eyre
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb i Robert Recorde yn eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-Pysgod

2. Smeltio haearn

Cawsai David Thomas (1794-1882) ei ystyried yn un o weithwyr haearn mwyaf blaenllaw y DU yn ystod ei oes, ac ef ddyfeisiodd y broses a fyddai’n symud y Chwyldro Diwydiannol yn ei flaen.

Roedd yn gweithio yng Ngweithfeydd Ynyscedwyn yn Ystradgynlais yn 1837. Yn fanno fe ddefnyddiodd broses chwyth poeth (hot blast) i smeltio mwyn haearn a glo carreg/athrasit gan greu haearn anthrasit. Chwyth poeth yw pan gaiff aer sydd wedi ei boethi ei chwythu mewn i ffwrnais chwyth.

Roedd haearn anthrasit eisoes wedi cael ei batentio gan Edward Martin o Dreforys ym 1804.

3. Siopa drwy’r post

Yn y DU mae 80% o bobl yn siopa arlein, ac roedd siopa arlein yn cyfri am 26.5% o gyfanswm gwerthiant yn 2022 ac felly rydym yn hen gyfarwydd â’n heitemau newydd yn ein cyrraedd drwy’r post. Ond mae’r arfer o siopa drwy’r post yn deillio’n ôl mor bell â 1861!

Ffynhonnell y llun, Penny Mayes
Disgrifiad o’r llun,

Warws Pryce-Jones yn y Drenewydd

Entrepreneur o’r enw Pryce Pryce-Jones (1834-1920) sefydlodd y busnes siopa drwy’r post (mail-order shopping) cyntaf. Cafodd Pryce-Jones ei eni yn Llanllwchaearn ger y Drenewydd. Yn fan hyn y sefydlodd ei siop a busnes gwerthu brethyn ym 1856.

Yn fuan wedi dyfodiad y rheilffyrdd i Drenewydd ym 1859 fe dyfodd busnes Pryce-Jones yn sylweddol. Ym 1861 creodd Pryce-Jones y catalog siopa drwy’r post cyntaf. Fe chwyldrodd y catalog y ffordd yr oedd pobl yn siopa yn enwedig i’r rheiny a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig ac ymhell o Gymru.

Ymhlith ei gwsmeriaid roedd y Frenhines Fictoria, Florence Nightingale a theuluoedd brenhinol yn Ewrop. Mae’n debyg fod ganddo dros 200,000 o gwsmeriaid o amlgylch y byd.

4. Cyfreithloni amlosgi

Disgrifiad o’r llun,

William Price fel meddyg ifanc, portread o William Price (c.1870) a William Price gyda'i ffrind Robert Anderson

Roedd y meddyg Dr William Price (1800-1893) o Forgannwg yn un o ffigyrau amlycaf Cymru yn y 19eg ganrif, ac yn adnabyddus am ei genedlaetholdeb Cymreig, Derwyddaeth, Siartaeth a’i ecsentirgrwydd. Ond efallai un o’r dylanawdau mwyaf gafodd oedd ei rôl yng nghyfreithloni amlosgi (cremation).

Pan fuodd ei fab ef farw ym 1884 fe amlosgodd Price ei gorff. Cafodd ei arestio gan bobl a gredai fod amlosgi’n anghyfreithlon yn y DU a’i ddwyn o flaen ei well. Ond llwyddodd Price i argyhoeddi’r llys nad oedd unrhyw gyfraith yn bodoli a oedd yn gwahardd amlosgi. Yn sgil ei fuddugoliaeth yn y llys, bron i ddegawd wedi ei farwolaeth crewyd Deddf Amlosgi 1902.

Mae cerflun ohono ar sgwâr pentref Llantrisant, Bro Morgannwg.

5. Yr olwyn sbâr

Ffynhonnell y llun, MCJ Davies
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb am olwyn sbâr Stepney

Pan ddaeth gyrru ceir modur yn gyffredin ar droad yr ugeinfed ganrif roedd y lonydd dal yn rhai gwael i deithio arnynt. Yn aml achosai hoelion pedolau ceffyl oedd wedi dod yn rhydd gryn drafferth i fodurwyr gan dyllu teiars. Yn y cyfnod hwn, nid oedd ceir yn dod gydag olwyn sbâr ac roedd atgyweirio’r difrod ar ochr y ffordd yn drafferthus ac yn gofyn am offer arbenigol ac arbenigedd.

Yn 1904 fe welodd dau frawd o Lanelli, Tom a Walter Davies, gyfle busnes. Roeddent yn rhedeg siop haearnwerthwr yn y dref ac fe ddyfeision nhw yr hyn rydyn ni’n ei adnabod heddiw fel yr olwyn sbâr.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa ac Oriel Parc Howard
Disgrifiad o’r llun,

Enghraifft o'r olwyn sbâr gyda llyfr a llun am y brodyr yn amgueddfa Parc Howard, Llanelli

Teiar llawn aer ar rimyn metel cylchog a oedd yn clipio ar y teiar fflat oedd y ddyfais oedd yn cael ei hadnabod fel y Stepney Spare Wheel. Fe’i henwyd yn Stepney ar ôl y stryd yn Llanelli lle’r oedd eu gweithdy.

Mewn rhai gwledydd caiff yr olwyn sbâr dal ei hadnabod fel y ‘Stepney’.

6. Anadliedydd electronig (Electronic breathalyser)

Yn 1967 daeth cyfraith i rym a oedd yn ei gweud hi’n drosedd i yrru cerbyd pe bai gan y sawl a oedd wrth y llyw fwy nag 80mg o alcohol ym mhob 100ml o’i waed, sef Deddf Diogelwch Ffyrdd 1967. Dyma’r flwyddyn y cafodd anadliedydd ei gyflwyno’n gyntaf. Ond nid fel yr un rydyn ni’n gyfarwydd ag o heddiw.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dr Tom Parry Jones gyda'r anadleidydd electronig cyntaf

Cafodd yr anadliedydd electronig ei ddatblygu yng Nghaerdydd yn 1976. Roedd Dr Tom Parry Jones o Garreglefn, Ynys Môn, yn gweithio i Lion Laboratories gyda gŵr o’r enw Bill Ducie. Gyda’i gilydd fe ddatblygon nhw y fersiwn electronig o’r anadliedydd sydd wedi achub cynifer o fywydau.

Derbyniodd Dr Jones OBE ym 1986 a chafodd ei urddo i’r Orsedd yn 1997.

7. Gwyntyll Covid Brys (Emergency Covid Ventilator)

Disgrifiad o’r llun,

Gwyntyll Covid Brys

Dyluniwyd y gwyntyll Covid brys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin gan Dr Rhys Thomas yn 2020. Cafodd y ddyfais, Emergency Covid-19 C-PAP, ei hadeiladu ganddo ef a’r peirianwyr Maurice Clarke yn Rhydaman.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dr Rhys Thomas

Cafodd y ddyfais ei threialu ym Mangladesh gan nad oedd digon o gleifion yng Nghymru ar y pryd. Roedd canlyniadau’r treialon yn gadarnhaol. Dywedodd Dr Thomas nad bwriad y ddyfais yw cymryd lle gwyntyllau mewn unedau gofal dwys, ond yn hytrach helpu cleifion cyn bod angen mynd i uned gofal dwys yn y gobaith na fyddai angen y lefel yna o ofal arnynt.

Disgrifiad o’r llun,

Y ddyfais yn cael ei threialu ar gleifion Covid-19 ym Mangladesh

Pynciau cysylltiedig