Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrch gyntaf Caernarfon yn Ewrop ar ben

Caernarfon v LegiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

0-5 oedd y sgôr yn Stadiwm Nantporth nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch Caernarfon yng Nghyngres Uefa ar ben wedi iddyn nhw golli yn erbyn un o dimau mwyaf Gwlad Pwyl yn yr ail rownd ragbrofol.

Er gwaethaf perfformiad dewr yn y cymal cyntaf oddi cartref yr wythnos ddiwethaf, roedd Legia Warsaw ar y blaen o 6-0 cyn yr ail gymal.

Colli oedd eu hanes yn yr ail gymal yn Stadiwm Nantporth Bangor nos Iau hefyd, a hynny o 0-5, gan olygu ei bod hi'n 0-11 ar gyfanswm goliau.

Nos Iau roedd perfformiad addawol gan y Cofis yn yr hanner cyntaf, gyda'r gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl.

Ond roedd Legia yn llawer cryfach yn yr ail hanner, gyda Bartosz Kapustka, Artur Jedrzejczyk a Tomás Pekhart yn sgorio o fewn 10 munud o ddechrau'r ail hanner.

Ychwanegodd Jean-Pierre Nsamé a Sergio Barcia ddwy gôl arall, cyn i Ryan Sears weld cerdyn coch i Gaernarfon ar ôl cael ail gerdyn melyn.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Gaernarfon chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, ac fe fyddan nhw'n cael €700,000 am gyrraedd yr ail rownd ragbrofol, wedi iddyn nhw drechu Crusaders o Ogledd Iwerddon yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Ond mae'r ffigwr yma cyn ystyried costau teithio, a ffactorau fel cost defnyddio Stadiwm Nantporth ym Mangor ar gyfer y gemau cartref.