Â鶹ԼÅÄ

Negeseuon testun treuliau AS Ceidwadol yn dod i'r amlwg

Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Anne Jones yn cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd ar ran y Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae negeseuon testun o ffôn aelod Ceidwadol o'r Senedd, sy'n ymddangos fel pe baent yn gofyn i weithiwr wneud y mwyaf o hawliadau treuliau'r gwleidydd, wedi cael eu gweld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad gan yr heddlu mewn cysylltiad â honiadau ynglŷn â'i threuliau.

Gofynnodd un neges i aelod o staff: "Wrth wneud y peth petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok".

Nid yw'r cyd-destun ar gyfer y negeseuon WhatsApp yn amlwg.

Mae cyfreithiwr ar ei rhan wedi dweud: "Mae Ms Jones yn fodlon bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr."

Mae Ms Jones, sy'n weinidog diwylliant cysgodol y Ceidwadwyr, eisoes wedi dweud y bydd hi'n cydweithredu'n llawn gydag "unrhyw ymchwiliad".

Mae Laura Anne Jones wrthi'n cael ei hymchwilio gan y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, a Heddlu De Cymru.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau. Does neb wedi cael eu harestio.

Roedd y comisiynydd safonau, sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn ASau, wedi cyfeirio cwyn ymlaen at yr heddlu, yn ôl y llu.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cael gwybod bod y gŵyn wreiddiol i Mr Bain mewn perthynas â'r modd y gwnaeth Ms Jones ymdrin â honiadau o fwlio gan uwch aelod o'i staff.

Daeth honiadau am dreuliau Ms Jones i'r amlwg fel rhan o ymchwiliad Mr Bain.

Deëllir bod ymchwiliad y comisiynydd safonau yn cael ei atal tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ac mae'r heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff Ceidwadol fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gweld negeseuon at aelod staff, oedd wedi gofyn a ddylen nhw wneud hawliadau treuliau i'r gwleidyddion ar gyfer dyddiau pan roedd Ms Jones i ffwrdd o'r gwaith yn sâl.

Doedd dim ateb uniongyrchol i'r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, cafodd graff o dreuliau arfaethedig, mae'n ymddangos, ei anfon at ffôn Ms Jones.

Dywedodd ymateb o ffôn Ms Jones: "Pe gallech chi wastad wneud mwy nag y mae'n ei ddweud, byddai hynny'n fab, diolch." Fe'i dilynwyd gan emoji codi bawd.

Dywedodd neges arall o'r un ffôn: "Wrth wneud y peth Petrol - gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro - ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok." Fe'i dilynwyd gan emoji codi bawd ac emoji dwylo wedi'u plygu.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r negeseuon Whatsapp Saesneg rhwng Laura Anne Jones ac aelod staff

Pan mae'r aelod staff yn gofyn, "fel ymweliadau â swyddfa etholaeth?", mae ymateb yn dweud: "Ie - pethau fel yna [emoji plygu dwylo]."

Rhaid i dreuliau teithio ar gyfer aelodau'r Senedd gael eu cymeradwyo gan yr aelodau eu hunain.

Ni all y Â鶹ԼÅÄ wirio a yw'r negeseuon yn cynrychioli'r holl sgyrsiau rhwng y bobl dan sylw.

Cwynion 'heb sylfaen'

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Laura Anne Jones mewn datganiad: "Ni chafodd Ms Jones unrhyw gŵyn bwlio ffurfiol mewn perthynas ag unrhyw un o'i haelodau staff."

Ychwanegodd ei bod "yn fodlon bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr".

"Cred Ms Jones yw bod y cwynion hyn sy'n cael eu cyflwyno gyda'r comisiynydd safonau heb sylfaen.

"Gan fod y materion hyn yn destun ymchwiliadau parhaus, byddai'n amhriodol i Ms Jones wneud unrhyw sylw pellach.

"Does gan Ms Jones ddim problem gyda'r Â鶹ԼÅÄ na'i ffynonellau yn rhoi'r honiadau hyn i'r heddlu a/neu'r comisiynydd safonau, a fydd yn rhoi cyfle iddi ymateb yn ffurfiol fel rhan o'r ymchwiliad pe bai'r awdurdodau ei angen."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn y Senedd na fyddan nhw'n gwneud sylw "tra bo'r mater yn cael ei ystyried gan yr awdurdodau perthnasol".

Dywedodd Llafur ei bod yn "anghredadwy" nad yw Ms Jones wedi cael ei gwahardd o'r blaid Geidwadol gan Rishi Sunak.

Pynciau cysylltiedig