Tad Rob McElhenney'n gobeithio am fudd economaidd

Disgrifiad o'r llun, Mae tad Rob McElhenney, Bob McElhenney, yn gobeithio y bydd y ddinas yn elwa o "gyfle euraidd"
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae tad un o berchnogion Clwb P锚l-droed Wrecsam yn gobeithio y bydd arweinwyr y ddinas yn sicrhau bod yr ardal yn elwa o lwyddiant diweddar y clwb.

Llai na phedair blynedd ers i'r clwb gael ei brynu gan ddau o s锚r Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds, mae鈥檙 Dreigiau wedi ennill dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol ac yn derbyn sylw byd-eang o gyfres deledu Welcome to Wrexham.

Wrth ymweld 芒 thafarn newydd yn y ddinas yr wythnos hon, dywedodd Bob McElhenney wrth 麻豆约拍 Cymru bod gan yr ardal "gyfle euraidd" a bod gweld dinas yn codi ar ei thraed yn "bwerus".

Ond yn 么l yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans, mae angen 鈥渂uddsoddiad sylweddol鈥 gan lywodraethau lleol a chenedlaethol er mwyn manteisio ar y proffil sydd gan y ddinas ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Wrecsam yn dweud eu bod yn gweithio gyda鈥檙 clwb p锚l-droed wrth ddatblygu鈥檙 ddinas.

Disgrifiad o'r llun, Mae cyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru, Neil Roberts, newydd agor busnes yng nghanol y ddinas

Un busnes sydd newydd agor ei ddrysau ar y stryd fawr ydy bar Vault 33, o dan gyd-berchnogaeth cyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru, Neil Roberts.

Mae鈥檔 dweud mai r诺an ydy鈥檙 amser i fuddsoddi yn y ddinas, a bod angen cymorth i fusnesau.

鈥淢ae angen mwy. Mae angen workaround i ddenu busnesau, unai trwy ostwng trethi busnes neu gymorth arall.

鈥淢ae鈥檔 rhaid cael cymorth ariannol. Mae鈥檔 rhaid iddo ddigwydd achos ar hyn o bryd, mae 'na gaffis, siopau trin gwallt, dydy eu overheads nhw ddim yn gynaliadwy.

鈥淥s ydy鈥檙 lle yma yn mynd i fod yr hyn allai fod, sef canol dinas lewyrchus, mae angen rhywbeth i ddigwydd ar lefel uwch.鈥

Y tymor nesaf bydd Clwb P锚l-droed Wrecsam yn chwarae yn nhrydedd haen p锚l-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd.

Bydd y drydedd gyfres o Welcome to Wrexham yn cael ei darlledu o amgylch y byd fis nesaf.

Ers i鈥檙 rhaglen ddogfen gael ei rhyddhau mae acenion tramor, yn enwedig o ogledd America, yn lled-gyffredin yn Wrecsam.

Wrth i mi sgwrsio 芒 Neil Roberts am y bar, fe darodd tad Rob McElhenney i mewn ar ymweliad.

Wrecsam yn 'codi ar ei thraed'

Pan ofynnais i Bob McElhenney am sgwrs, roedd ganddo neges debyg am yr angen i arweinwyr Wrecsam achub ar y cyfle economaidd.

鈥溾楧an ni鈥檔 gobeithio y bydd pobl bwysig, yr hierarchies yn Wrecsam yn cymryd mantais o hyn a gweld bod hyn yn gyfle euraidd i鈥檙 dref,鈥 meddai.

鈥淎nghofiwch y clwb, bydd y clwb yn mynd mor uchel ag y gallan nhw - ac fe allan nhw s么n am yr Uwch Gynghrair, iawn ynde?鈥

鈥淥nd dydy hynny ddim mor bwerus 芒 thref sy鈥檔 codi ar ei thraed a chymryd mantais a chreu pethau sy鈥檔 denu twristiaeth a swyddi, a phopeth sy鈥檔 ei gwneud yn ddinas yn fwy pwysig, a鈥檌 rhoi ar y map a gwneud i bobl fod eisiau dod yma.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Ceri Jones yn gobeithio gweld rhagor o fuddsoddi yn Wrecsam

Mae鈥檙 gyfreithwraig Ceri Jones yn aelod o gr诺p Busnes Proffesiynol Wrecsam ac yn cytuno bod cyfle gwych i鈥檙 ddinas ar hyn o bryd.

鈥溾楧an ni wedi gweld lot o newid mewn buddsoddiad yma, ond mae angen gwneud mwy," meddai.

鈥淎 dyna 鈥榙an ni fel gr诺p o bobl broffesiynol yn meddwl amdano. 鈥楧an ni angen sicrhau bod yr amwynderau yn cyfateb i gyfeiriad y clwb.

鈥溾橠an ni angen gweld mwy o westai, mwy o fwytai, mwy o weithgareddau i sicrhau bod y momentwm yn parhau.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans y byddai "pob tref a dinas ym Mhrydain yn rhoi miliynau i gael y cyfle 'ma"

Ond yn 么l yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans, mae angen i lywodraeth leol a chenedlaethol achub ar y cyfle a鈥檙 sylw byd-eang i ddenu buddsoddwyr i鈥檙 ardal.

鈥淢ae hyn yn amser unigryw i Wrecsam,鈥 meddai.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fyse pob tref a dinas ym Mhrydain yn rhoi miliynau i gael y cyfle 'ma.鈥

鈥淔elly mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o鈥檙 cyfle a gwneud yn si诺r bod y cyngor lleol yn gwneud pob dim sy鈥檔 bosib i helpu buddsoddwyr ddod i fewn a helpu nhw drawsnewid y ddinas, ac yn bwysicach, trawsnewid economi鈥檙 ddinas.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fydd y rhan fwyaf o鈥檙 arian yn dod o鈥檙 tu allan. Mae pobl isio bod yn rhan o lwyddiant.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe brynodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds y clwb p锚l-droed yn 2020

Ar ran Cyngor Wrecsam, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, bod y clwb p锚l-droed yn 鈥渂wysig iawn鈥 i鈥檙 ddinas.

鈥淢ae鈥檙 cyngor yn gweithio gyda鈥檙 clwb wrth ailddatblygu鈥檙 Cae Ras. Mae鈥檙 Cae Ras wrth galon ailddatblygu Ffordd yr Wyddgrug, prosiect Porth Wrecsam," meddai.

鈥淢ae llawer mwy i Wrecsam. Mae stad ddiwydiannol, T欧 Pawb, Eglwys San Silyn, Castell y Waun, gerddi Erddig - lot o attractions i bobl ddod i Wrecsam.

鈥淢ae lot o fuddsoddi gan lywodraethau lleol a chenedlaethol.鈥

'Llysgenhadon gwych'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Clwb P锚l-droed Wrecsam a pherchnogion y clwb yn llysgenhadon gwych ar gyfer y ddinas, y rhanbarth a Chymru gyfan.

"Rydym yn blaenoriaethu buddsoddi yng nghanol y ddinas drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi gyda chynlluniau cyffrous a fydd o fudd i'r ardal.

"Mae鈥檙 rhain yn cynnwys gwneud gwelliannau i'r farchnad dan do a'r stryd fawr, a sefydlu Hwb Creadigol i gefnogi entrepreneuriaeth mewn cerddoriaeth, y celfyddydau a diwydiannau creadigol eraill.

鈥淩ydym hefyd yn cefnogi cynlluniau i sefydlu Amgueddfa Dwy Hanner ar safle Amgueddfa Wrecsam, sef Amgueddfa B锚l-droed newydd i Gymru ac orielau hanes lleol.

"Rydym yn cefnogi Porth Wrecsam ac yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid gan gynnwys Cyngor Wrecsam, y Brifysgol a'r Clwb P锚l-droed.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid ar brosiectau tymor hir a fydd yn datblygu diwydiannau Wrecsam ymhellach ac yn dod 芒鈥檙 buddsoddiad, twf a鈥檙 swyddi y mae mawr eu hangen i'r ardal.

"Bydd hyn yn cynnwys gwella cysylltiadau trafnidiaeth, yn ogystal 芒 datblygiadau economaidd a thwristiaeth."