Rhybudd i deithwyr wrth i ffordd brysur gau am dri mis

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r llun, Fe ddisgynnodd creigiau mawr o'r mynydd yn dilyn t芒n yn 2022
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae rhybudd y bydd gwaith adnewyddu yn arwain at oedi i deithwyr ar ffordd boblogaidd yn ardal Rhondda Cynon Taf am y tri mis nesaf.

Mae gyrwyr a seiclwyr wedi eu rhybuddio y gallai hi gymryd hyd at bum mis i ailagor ffordd mynydd y Rhigos rhwng Hirwaun a Threherbert ar yr A4061.

Yn dilyn t芒n yn 2022 fe wnaeth creigiau, oedd wedi cwympo o fynydd y Rhigos, ddifrodi鈥檙 rhwydi amddiffynnol ar y llethrau.

O ddydd llun, mi fydd y ffordd ar gau fel rhan o gynllun gwerth 拢2.5 miliwn i sicrhau fod y mynydd yn ddiogel.

Yn 么l un cynghorydd lleol, mae鈥檙 newyddion wedi achosi tipyn o ddicter.

鈥淢ae hwn yn ddolen allweddol i nifer o bobl,鈥 meddai鈥檙 cynghorydd Karen Morgan o Blaid Cymru.

Fel arfer mae gyrru rhwng Hirwaun a Thre Herbert ar ffordd mynydd y Rhigos yn cymryd tua 20 munud.

Ond yn sgil y gwaith adnewyddu, mi fydd angen dilyn dargyfeiriad, gyda Ms Morgan yn rhybuddio y gallai hynny ymestyn teithiau yn sylweddol.

鈥淢ae topograffeg yr ardal yn golygu nad oes ffordd osgoi syml,鈥 meddai.

鈥淢i fydd hi鈥檔 hir ac mae hi eisoes yn brysur, felly'r pryder yw y bydd y tagfeydd yn waeth gyda鈥檙 traffig ychwanegol".

'Taith 10 munud wedi troi yn awr'

Mae Ms Morgan yn dweud fod aelodau o'r gymuned wedi mynegi pryderon.

鈥淢ae un fenyw ifanc o Dre Herbert wedi cysylltu yn dweud ei bod hi newydd gael ei swydd gyntaf yn Zip World ar y Rhigos, ond mae鈥檙 ffordd ar gau rhwng ei chartref a鈥檌 gwaith.

鈥淔elly, mae ei thaith 10 munud wedi troi yn awr o siwrne bob ffordd.

鈥淣id ond yr amser ychwanegol yw鈥檙 pryder i drigolion ond hefyd cost ychwanegol y tanwydd mewn argyfwng costau byw.鈥

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r llun, Cafodd mesurau diogelwch eu cyflwyno wedi'r t芒n yn 2022

'Pryder' am gyrraedd yr ysbyty

Pryder arall, meddai Ms Morgan, ydy鈥檙 amser ychwanegol y gallai gymryd i famau sy鈥檔 disgwyl babanod gyrraedd Ysbyty鈥檙 Tywysog Charles ym Merthyr.

Mi fydd uned fabanod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar gau am 12 wythnos o fis Medi ymlaen.

"Oherwydd y cau dros dro, bydd llawer o ddarpar famau o'r Rhondda uchaf yn defnyddio'r uned famolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr cyn hir," ychwanegodd Ms Morgan.

I drigolion sy鈥檔 byw yn Hirwaun, mae eisoes rhai heriau ar y ffyrdd yn sgil cynllun gwerth 拢600m i droi鈥檙 A465 yn ffordd ddeuol.

鈥淒oes neb eisiau dod i Hirwaun gyda'r gwaith ar y ffyrdd rhyngom ni a Merthyr,鈥 meddai Ms Morgan, sy鈥檔 cynrychioli Hirwaun, Penderyn a鈥檙 Rhigos ar y cyngor lleol.

鈥淢i fydd hyn yn gwneud pethau鈥檔 waeth.鈥

Mi fydd yr A465 rhwng Hirwaun a Chefn Coed ym Merthyr ar gau y penwythnos nesaf rhwng 20:00 ddydd Gwener a 06:00 fore Llun.

"Mae 'na rwystredigaeth ymhlith gyrwyr yn yr ardal yn barod oherwydd hynny a nawr mae cau ffordd Rhigos yn teimlo fel rhywbeth arall i ddelio ag e," ychwanegodd Ms Morgan.

Mae'r cyngor lleol wedi rhoi sicrwydd i rieni a gofalwyr bod trefniadau wedi'u gwneud gyda'u 'T卯m Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol' pan fydd plant yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth ym mis Medi.

Tan bryd fydd yr A4016 ar gau?

Yn 么l y peirianwyr mae disgwyl i'r gwaith ar yr A4016, sy'n dechrau ddydd Llun, ddod i ben ddiwedd mis Hydref 2024 gan rybuddio y gallai'r ffordd fod ar gau tan y Nadolig os bydd oedi.

"Mae rhaid i ni ddechrau'r gwaith yma'n fuan, dim hwyrach yn y flwyddyn, er mwyn gwneud y gorau o鈥檙 golau dydd a鈥檙 tywydd sych," meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.

"Yr hwyraf yn y flwyddyn y bydd y gwaith yn dechrau, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i'w gwblhau oherwydd y dirywiad yn y tywydd ac oriau golau dydd.

"Fel ry'n ni'n gwybod, gall y tywydd ar ein ffyrdd mynyddig fod yn wahanol iawn i'r cymunedau isod.

鈥淣id y cyngor achosodd y difrod, ond mae gennym ni gyfrifoldeb i鈥檞 drwsio.

鈥淥s nad yw鈥檙 gwaith hwn yn dechrau'n fuan, bydd yn arwain at gau鈥檙 ffordd mewn argyfwng yn y dyfodol a fydd hynny鈥檔 para tipyn yn hirach na鈥檙 cynllun yma.鈥

Ychwanegodd y cyngor fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i gadw鈥檙 ffordd ar agor.

Pam fod y ffordd yn cau?

Dywedodd y cyngor lleol fod t芒n yn ystod haf 2022 wedi difrodi rhan sylweddol o ochr y mynydd, gan gynnwys ffensys, gwifrau a rhwydi plastig.

Ychwanegodd y cyngor fod gwaith brys ar y pryd wedi caniat谩u i'r ffordd agor gyda goleuadau traffig dros dro - gan gyfeirio cerbydau i ffwrdd o'r ardaloedd risg uchel.

Cafodd cerrig mawr oedd wedi disgyn o wyneb y graig eu symud y llynedd ar 么l archwiliad pellach o'r creigiau a'r llethrau uwchben.

Nawr, mae peirianwyr yn mynnu bod angen cau rhan 375 medr o ffordd fynydd y Rhigos - tua'r de o'r bwlch - er mwyn gwneud y gwaith.

Ychwanegodd peirianwyr fod lled y ffordd yn gyfyngedig a bod angen i weithwyr ddefnyddio offer arbenigol i allu cwblhau鈥檙 gwaith.

"Rhaid cau'r ffordd gan fod creigiau'n cwympo yn achosi perygl, mae'r peiriannau sy'n cael eu defnyddio yn rhy fawr ar gyfer traffig y ffordd wrth ei hochr, ac mae'n rhaid gwneud y gwaith yn ystod oriau golau dydd gan nadd yw'n ddiogel gwneud hynny gyda'r nos," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Mi fydd angen i yrwyr a seiclwyr ddefnyddio ffordd wahanol, gyda rhybudd y bydd y siwrne hynny yn cymryd teirgwaith yn hirach ac yn golygu teithio dwbl y pellter arferol.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i deithio ar yr A4233 rhwng Pendyrys ac Aberd芒r a鈥檙 B4275 rhwng Aberd芒r a Hirwaun.