鶹Լ

Rhybudd i deithwyr wrth i ffordd brysur gau am dri mis

CreigiauFfynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgynnodd creigiau mawr o'r mynydd yn dilyn tân yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd y bydd gwaith adnewyddu yn arwain at oedi i deithwyr ar ffordd boblogaidd yn ardal Rhondda Cynon Taf am y tri mis nesaf.

Mae gyrwyr a seiclwyr wedi eu rhybuddio y gallai hi gymryd hyd at bum mis i ailagor ffordd mynydd y Rhigos rhwng Hirwaun a Threherbert ar yr A4061.

Yn dilyn tân yn 2022 fe wnaeth creigiau, oedd wedi cwympo o fynydd y Rhigos, ddifrodi’r rhwydi amddiffynnol ar y llethrau.

O ddydd llun, mi fydd y ffordd ar gau fel rhan o gynllun gwerth £2.5 miliwn i sicrhau fod y mynydd yn ddiogel.

Yn ôl un cynghorydd lleol, mae’r newyddion wedi achosi tipyn o ddicter.

“Mae hwn yn ddolen allweddol i nifer o bobl,” meddai’r cynghorydd Karen Morgan o Blaid Cymru.

Fel arfer mae gyrru rhwng Hirwaun a Thre Herbert ar ffordd mynydd y Rhigos yn cymryd tua 20 munud.

Ond yn sgil y gwaith adnewyddu, mi fydd angen dilyn dargyfeiriad, gyda Ms Morgan yn rhybuddio y gallai hynny ymestyn teithiau yn sylweddol.

“Mae topograffeg yr ardal yn golygu nad oes ffordd osgoi syml,” meddai.

“Mi fydd hi’n hir ac mae hi eisoes yn brysur, felly'r pryder yw y bydd y tagfeydd yn waeth gyda’r traffig ychwanegol".

'Taith 10 munud wedi troi yn awr'

Mae Ms Morgan yn dweud fod aelodau o'r gymuned wedi mynegi pryderon.

“Mae un fenyw ifanc o Dre Herbert wedi cysylltu yn dweud ei bod hi newydd gael ei swydd gyntaf yn Zip World ar y Rhigos, ond mae’r ffordd ar gau rhwng ei chartref a’i gwaith.

“Felly, mae ei thaith 10 munud wedi troi yn awr o siwrne bob ffordd.

“Nid ond yr amser ychwanegol yw’r pryder i drigolion ond hefyd cost ychwanegol y tanwydd mewn argyfwng costau byw.”

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mesurau diogelwch eu cyflwyno wedi'r tân yn 2022

'Pryder' am gyrraedd yr ysbyty

Pryder arall, meddai Ms Morgan, ydy’r amser ychwanegol y gallai gymryd i famau sy’n disgwyl babanod gyrraedd Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr.

Mi fydd uned fabanod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar gau am 12 wythnos o fis Medi ymlaen.

"Oherwydd y cau dros dro, bydd llawer o ddarpar famau o'r Rhondda uchaf yn defnyddio'r uned famolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr cyn hir," ychwanegodd Ms Morgan.

I drigolion sy’n byw yn Hirwaun, mae eisoes rhai heriau ar y ffyrdd yn sgil cynllun gwerth £600m i droi’r A465 yn ffordd ddeuol.

“Does neb eisiau dod i Hirwaun gyda'r gwaith ar y ffyrdd rhyngom ni a Merthyr,” meddai Ms Morgan, sy’n cynrychioli Hirwaun, Penderyn a’r Rhigos ar y cyngor lleol.

“Mi fydd hyn yn gwneud pethau’n waeth.”

Mi fydd yr A465 rhwng Hirwaun a Chefn Coed ym Merthyr ar gau y penwythnos nesaf rhwng 20:00 ddydd Gwener a 06:00 fore Llun.

"Mae 'na rwystredigaeth ymhlith gyrwyr yn yr ardal yn barod oherwydd hynny a nawr mae cau ffordd Rhigos yn teimlo fel rhywbeth arall i ddelio ag e," ychwanegodd Ms Morgan.

Mae'r cyngor lleol wedi rhoi sicrwydd i rieni a gofalwyr bod trefniadau wedi'u gwneud gyda'u 'Tîm Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol' pan fydd plant yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth ym mis Medi.

Tan bryd fydd yr A4016 ar gau?

Yn ôl y peirianwyr mae disgwyl i'r gwaith ar yr A4016, sy'n dechrau ddydd Llun, ddod i ben ddiwedd mis Hydref 2024 gan rybuddio y gallai'r ffordd fod ar gau tan y Nadolig os bydd oedi.

"Mae rhaid i ni ddechrau'r gwaith yma'n fuan, dim hwyrach yn y flwyddyn, er mwyn gwneud y gorau o’r golau dydd a’r tywydd sych," meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.

"Yr hwyraf yn y flwyddyn y bydd y gwaith yn dechrau, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i'w gwblhau oherwydd y dirywiad yn y tywydd ac oriau golau dydd.

"Fel ry'n ni'n gwybod, gall y tywydd ar ein ffyrdd mynyddig fod yn wahanol iawn i'r cymunedau isod.

“Nid y cyngor achosodd y difrod, ond mae gennym ni gyfrifoldeb i’w drwsio.

“Os nad yw’r gwaith hwn yn dechrau'n fuan, bydd yn arwain at gau’r ffordd mewn argyfwng yn y dyfodol a fydd hynny’n para tipyn yn hirach na’r cynllun yma.”

Ychwanegodd y cyngor fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i gadw’r ffordd ar agor.

Pam fod y ffordd yn cau?

Dywedodd y cyngor lleol fod tân yn ystod haf 2022 wedi difrodi rhan sylweddol o ochr y mynydd, gan gynnwys ffensys, gwifrau a rhwydi plastig.

Ychwanegodd y cyngor fod gwaith brys ar y pryd wedi caniatáu i'r ffordd agor gyda goleuadau traffig dros dro - gan gyfeirio cerbydau i ffwrdd o'r ardaloedd risg uchel.

Cafodd cerrig mawr oedd wedi disgyn o wyneb y graig eu symud y llynedd ar ôl archwiliad pellach o'r creigiau a'r llethrau uwchben.

Nawr, mae peirianwyr yn mynnu bod angen cau rhan 375 medr o ffordd fynydd y Rhigos - tua'r de o'r bwlch - er mwyn gwneud y gwaith.

Ychwanegodd peirianwyr fod lled y ffordd yn gyfyngedig a bod angen i weithwyr ddefnyddio offer arbenigol i allu cwblhau’r gwaith.

"Rhaid cau'r ffordd gan fod creigiau'n cwympo yn achosi perygl, mae'r peiriannau sy'n cael eu defnyddio yn rhy fawr ar gyfer traffig y ffordd wrth ei hochr, ac mae'n rhaid gwneud y gwaith yn ystod oriau golau dydd gan nadd yw'n ddiogel gwneud hynny gyda'r nos," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Mi fydd angen i yrwyr a seiclwyr ddefnyddio ffordd wahanol, gyda rhybudd y bydd y siwrne hynny yn cymryd teirgwaith yn hirach ac yn golygu teithio dwbl y pellter arferol.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i deithio ar yr A4233 rhwng Pendyrys ac Aberdâr a’r B4275 rhwng Aberdâr a Hirwaun.

Pynciau cysylltiedig