Gweilch: Jones i olynu Booth ar ddiwedd tymor 2024/25

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Mark Jones (chwith) ei benodi i dîm hyfforddi'r Gweilch gan Toby Booth (dde) yn haf 2023

Cyn-asgellwr Cymru Mark Jones fydd yn dod yn brif hyfforddwr y Gweilch ar ddiwedd y tymor sydd ar fin dechrau, pan fydd Toby Booth yn ildio'r awenau.

Mae Booth wedi bod yn brif hyfforddwr ers haf 2020, ond tymor 2024/25 fydd ei olaf gyda'r rhanbarth.

Mae Jones wedi hyfforddi gyda'r Scarlets, y Crusaders yn Seland Newydd a thîm Cymru, ac ef yw hyfforddwr yr amddiffyn gyda'r Gweilch ar hyn o bryd.

Bydd gyrfa chwarae blaenasgellwr Cymru a'r Llewod, Justin Tipuric, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hefyd.

Ef fydd yn cymryd lle Jones fel hyfforddwr yr amddiffyn.

Roedd Tipuric eisoes wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, a bydd Jac Morgan yn cymryd ei le fel capten y Gweilch ar ddiwedd y tymor.