Â鶹ԼÅÄ

Eluned Morgan 'heb golli gobaith' o sicrhau arian HS2

HS2Ffynhonnell y llun, Siemens/PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rheilffordd cyflym HS2 yn cysylltu Llundain â Birmingham

  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog Eluned Morgan yn dweud nad yw wedi colli gobaith o ran ceisio sicrhau arian i Gymru yn sgil cynllun rheilffordd cyflym HS2.

Er mai yn Lloegr y bydd holl seilwaith y rheilffordd, ni chafodd Cymru arian ychwanegol gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi i'r Trysorlys ddynodi'r cynllun fel un ar gyfer Cymru a Lloegr.

Hyd yn hyn, mae'r llywodraeth Lafur newydd wedi osgoi addo arian canlyniadol i Gymru hefyd.

Dywed Ms Morgan ei bod wedi codi'r mater gyda'r Canghellor yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, gan ddweud wrth asiantaeth PA bod Rachel Reeves "yn gwrando".

Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian canlyniadol yn sgil rheilffordd HS2, a fydd yn cysylltu Llundain â Birmingham.

Yn ôl Plaid Cymru fe ddylai Cymru dderbyn £4bn.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu yn y gorffennol bod biliynau o bunnau'n ddyledus dan fformiwla Barnett, ond mae gwleidyddion Llafur wedi awgrymu swm llawer llai yn fwy diweddar, sef £350m.

Dywed y Ceidwadwyr yn y Senedd bod Llafur Cymru'n "llai caled ynghylch y mater" nawr bod Llafur mewn grym yn San Steffan hefyd.

Ond mae Morgan yn mynnu ei fod "yn bendant yn fater nad ydyn ni wedi rhoi'r gorau arno - mae'n fater nes i godi gyda'r Canghellor".

"Mae'n bwysig cael cydnabyddiaeth bod Cymru, o ran seilwaith y rheilffyrdd, heb gael digon a bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r drafodaeth yna'n datblygu.

"Ond mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud addewidion enfawr i wella seilwaith, a datblygiadau rheilffordd yn benodol, yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl yr wythnos hon

Gan gyfeirio at geisio sicrhau mwy o arian ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru gan Rachel Reeves, atebodd Morgan fod "pawb yn agored i siarad a gwrando ar hyn o bryd".

Ychwanegodd ei bod yn "cael trafodaethau" ynghylch sut mae ariannu Cymru, a bod "system gyllido deg" yn hanfodol.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, dywedodd Jo Stevens, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cymru, yn nadl deledu ITV bod "y cyllid ddim yna" ar gyfer arian canlyniadol HS2.

Yng nghyfarfod pwyllgor cyllid y Senedd yr wythnos hon, dywedodd y Gweinidog Cyllid a'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru'n trafod ariannu'r rheilffyrdd gyda llywodraethau eraill y DU.

Ychwanegodd eu bod yn anelu at "ganlyniad synhwyrol a phragmataidd" o ran HS2, a bod mwy i'r mater na rheilffordd cyflym Lloegr.

'Llafur Cymru'n llai caled ar y mater'

Dywedodd arweinydd grŵp Ceidwadol y Senedd, Andrew RT Davies, nad oedd sylwadau Eluned Morgan yn "syndod".

"Mae arian canlyniadol HS2 i Gymru yn fater hawdd ond nawr, gan mai llywodraeth Lafur sy'n gorfod ei dalu, mae Llafur Cymru'n llai caled ar y mater," dywedodd.

"Rhaid i'r prif weinidog stopio rhoi ei phlaid yn gyntaf."

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths mai "mwy o eiriau gwag" yw datganiad diweddaraf y Prif Weinidog.

Roedd y Blaid Lafur, meddai, wedi dadlau yn eu hymgyrch etholiad cyffredinol y byddai yna gydweithio effeithiol pe tai dwy lywodraeth Lafur mewn grym.

"Nawr mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd hi'n 'sicrhau llwybr i ddrws y Canghellor' i ofyn am arian HS2," dywedodd.

"Mae'r cydweithio hwnnw yn amlwg yn simsan os oes angen tactegau mor ffyrnig i gyrraedd aelod o'i phlaid ei hun."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod ymroddiad "i ailsefydlu'r berthynas gyda'r llywodraethau datganoledig" ac i "weithio'n agos â nhw o ran y rheilffyrdd yng Nghymru".

Gan mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw ariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru a Lloegr a gwella cysylltiadau a gwasanaethau i'r cyhoedd, nhw, meddai'r llefarydd, "sy'n gwario'r arian ar hyn yng Nghymru yn hytrach nag ariannu Llywodraeth Cymru i wneud hynny".