Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrch i achub canolfannau ambiwlans awyr i fynd i'r uchel lys

Ambiwlans Awyr Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun i ganoli gwasanaethau yn gweld safle newydd yn cael ei sefydlu yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn erbyn cynlluniau dadleuol i gau dau o ganolfannau ambiwlans awyr Cymru wedi ennill yr hawl i gynnal adolygiad barnwrol.

Ers cadarnhad o'r bwriad i gau canolfannau Y Trallwng a Chaernarfon a chanoli'r gwasanaeth, mae ymgyrchwyr wedi mynnu mai'r "ffordd briodol ymlaen" oedd .

Byddai'r canoli, gafodd ei gymeradwyo gan gyd-bwyllgor comisiynu'r GIG (CBC) fis Ebrill, yn gweld safle newydd yn cael ei sefydlu yn y gogledd.

Daeth y penderfyniad hwnnw ar ôl i adroddiad nodi y byddai newid lleoliad yr hofrenyddion a cherbydau ffordd yn galluogi'r gwasanaeth i ymateb i 139 o alwadau brys ychwanegol bob blwyddyn.

Ond mae'r cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran yr ymgyrchwyr bellach wedi cadarnhau y gall gwrandawiad llawn gael ei gynnal o fewn deufis.

Dywedodd Lucy O'Brien o'r cwmni cyfreithiol sy'n ymdrin â'r achos ar ran yr ymgyrchwyr: "Mae ein cleientiaid yn hapus fod y llys wedi cytuno ei bod hi'n bosib nad yw'r penderfyniad gafodd ei wneud gan y CBC yn gyfreithlon.

"Mae nifer o bobl sy'n byw yn ardaloedd arfordirol a chefn gwlad canolbarth a gogledd Cymru yn teimlo y bydd eu hawl i gael gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei effeithio gan benderfyniad y CBC," meddau.

Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn hanfodol i nifer o gymunedau ac na ddylid amharu ar y gwasanaeth hwnnw heb "ystyriaeth ofalus iawn".

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb, gan nodi ei fod yn fater i'r CBC.

Pynciau cysylltiedig