鶹Լ

Rheolwr heddlu yn y gwaith er cwyn camymddwyn rhyw

Heddlu GwentFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Cafodd uwch reolwr heddlu oedd wedi ei gyhuddo o anfon nifer o negeseuon rhywiol awgrymog at gydweithiwr benywaidd aros yn ei swydd am naw mis.

Dim ond ym mis Mai 2023 y cafodd ei wahardd, pan gwynodd cydweithiwr arall amdano.

Daeth yr achwynydd cyntaf ymlaen wedi iddi gael ei “syfrdanu” bod y rheolwr yn arwain sesiwn ymarfer ar ymddygiad staff yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedden nhw’n gallu gwneud sylw “wrth i ni symud tuag at wrandawiad disgyblu”.

Mae 鶹Լ Cymru yn deall bod trydydd person hefyd wedi cwyno a bod y rheolwr, sydd yn weithiwr sifil yn hytrach na swyddog heddlu, nawr yn wynebu gwrandawiad am gamymddwyn difrifol.

'Safonau dwbl'

Mae cyn-gyfarwyddwr i gorff arolygu’r heddlu, yr IOPC – a weithiodd ar rai o achosion camymddwyn mwyaf Heddlu’r Met yn ddiweddar – wedi cwestiynu’r ffordd y deliodd yr heddlu gyda’r gŵyn gyntaf.

Mae Heddlu Gwent wedi dod dan y chwyddwydr yn ddiweddar yn dilyn cwynion am ymddygiad swyddogion, ac ym mis Mawrth 2024 fe gyhoeddodd yr IOPC y byddai dau swyddog presennol ac un cyn-swyddog yn wynebu gwrandawiadau am gamymddwyn difrifol.

Roedd y rheolwr dan sylw yn rhan o’r broses o recriwtio’r ddynes, ac mewn swydd uwch na hi, ond ddim yn rheolwr llinell uniongyrchol iddi.

Yr honiad yw ei fod wedi anfon negeseuon o natur rywiol iddi dros gyfnod o fisoedd wedi ei phenodiad yn 2010.

Yn y negeseuon, sydd wedi eu gweld gan y 鶹Լ, mae’n gwneud sylwadau am ei chorff “rhywiol” ac yn gofyn am gael rhyw, er i’r ddynes ddweud wrtho ei bod mewn perthynas a gofyn iddo stopio.

Mae’n debyg bod y ddynes wedi cyflwyno ei chŵyn wedi i’r rheolwr arwain cyflwyniad oedd yn trafod negeseuon amhriodol yn y gweithle.

Daeth hynny yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens, oedd yn swyddog heddlu i’r Met ar y pryd.

Roedd yn un o nifer o seminarau a gynhaliwyd gan y llu oedd, fel eraill, yn ceisio delio gyda’r ffaith bod y llofruddiaeth wedi lleihau ymddiriedaeth yn yr heddlu.

Mewn llythyr i’r Prif Gwnstabl Pam Kelly, disgrifiodd y ddynes ei “sioc a braw” fod y rheolwr yn arwain y sgwrs, ac fe gafodd hi bwl o orbryder oherwydd hynny.

“Roeddwn i mor ofidus nes i mi siarad allan a dweud bod y sgwrs yn ‘drewi o safonau dwbl’,” ysgrifennodd.

Rhagor o gwynion

Ym mis Awst 2022 fe benderfynodd y ddynes wneud cwyn yn erbyn y rheolwr.

Mae 鶹Լ Cymru yn deall ei bod hi wedi cael gwybod bod y gŵyn wedi ei hasesu’n wreiddiol fel un o gamymddwyn difrifol, ond na chafodd y rheolwr ei wahardd ar y pryd.

Pedwar mis yn ddiweddarach, ar ôl ymchwiliad, cafodd ei hasesu’n ffurfiol fel camymddwyn – categori llai difrifol.

Mae’n debyg fod yr achwynydd wedi mynegi ei phryderon am yr asesiad hwnnw i’r ymchwilwyr, gan awgrymu nad oedd y peth yn cael ei drin yn ddigon difrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae achosion disgyblu yn erbyn staff sifil - fel y rheolwr dan sylw - yn cael eu trin yn wahanol i'r rheiny yn erbyn swyddogion heddlu

Mae polisi Heddlu Gwent eu hunain ar gyfer staff heddlu, gafodd ei ddiweddaru yn 2017, yn rhestru camymddwyn rhywiol yn y gwaith fel esiampl o gamymddwyn difrifol, sy’n gallu arwain at ddiswyddiad os yw’n cael ei brofi.

Ym mis Chwefror 2023, fe ysgrifennodd Ms Kelly at yr achwynydd i ddweud bod yr ymchwiliad bron ar ben a bod bron pob ymholiad “wedi ei gwblhau”.

Ond ym mis Mai 2023, fe wnaeth ail gydweithiwr benywaidd wneud honiadau o gamymddwyn rhywiol, wnaeth arwain at ailasesu’r gwyn wreiddiol fel camymddwyn difrifol, ac fe gafodd y rheolwr ei wahardd ar dâl llawn.

Mae 鶹Լ Cymru nawr wedi cael gwybod am drydydd cyhuddiad o gamymddwyn rhywiol a gafodd ei wneud yn erbyn y rheolwr yn nes ymlaen yn 2023.

'Angen tryloywder'

Dangoswyd rhai o’r negeseuon i Sal Naseem, wnaeth arwain achosion camymddwyn yn erbyn pobl fel Couzens yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Llundain yr IOPC.

Mae’n credu y dylai asesiad y gwyn fod wedi bod yn gamymddwyn difrifol o’r cychwyn.

“Pan ‘dych chi’n edrych ar y patrwm ymddygiad, gwaethygiad yr ymddygiad, mae’n ddyn sy’n aflonyddu dynes,” meddai Mr Naseem.

“Os yw dros negeseuon tecst, neu Whatsapp, mae dal yn batrwm o ymddygiad yn gwaethygu, o aflonyddu rhyw.”

Dywedodd Mr Naseem y byddai unrhyw un sy’n wynebu cyhuddiad o gamymddwyn difrifol fel arfer yn cael eu gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal – er bod gan luoedd unigol ddisgresiwn pan mae’n dod i hynny.

Ffynhonnell y llun, Sal Naseem
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sal Naseem, cyn-gyfarwyddwr gyda'r IOPC, yn credu y dylai fod wedi bod yn achos o gamymddwyn difrifol o'r dechrau

O ystyried cyd-destun y negeseuon oedd yn ei farn ef yn gamymddwyn difrifol, ychwanegodd nad oedd hi’n gwneud synnwyr bod y rheolwr heb gael ei wahardd yn syth.

Bellach, 19 mis ers y gwyn wreiddiol, mae 鶹Լ Cymru yn deall nad oes unrhyw wrandawiad camymddwyn wedi digwydd eto a bod y rheolwr dal wedi’i wahardd ar gyflog llawn.

Mae Mr Naseem wedi cwestiynu pa mor hir mae’r broses wedi ei gymryd i’r achwynydd cyntaf, a phwysleisio pwysigrwydd diweddaru achwynwyr a dioddefwyr ar beth sydd yn digwydd.

“Fel dwi’n deall, dydy’r llu heb roi’r lefel yna o dryloywder nac unrhyw ddiweddariad. Felly mae’n anodd dweud pam bod pethau wedi cymryd cyhyd,” meddai.

“Mae’n rhaid cofio bod dioddefwr wrth galon hyn hefyd, ac mae’n rhaid iddyn nhw allu ymddiried yn y broses.”

Dim ymchwiliad IOPC

Os yw swyddogion heddlu yn cael eu gwahardd mae eu henwau’n cael eu hychwanegu at Restr Gwaharddedig yr Heddlu, sy’n eu gwahardd rhag gweithio i luoedd heddlu eraill.

Ond dydy enwau staff heddlu sy’n wynebu cwynion gan gydweithwyr ddim yn cael eu hychwanegu i’r rhestr waharddedig os ydyn nhw’n cael eu diswyddo, gan mai cyfraith cyflogadwyedd sy’n delio â’r cwynion hynny.

Dywedodd Mr Naseem fod angen i Heddlu Gwent fod yn hollol dryloyw, o ystyried pryderon diweddar am y diwylliant o fewn y llu.

“Mae cyfrifoldeb ar uwch arweinwyr y llu i gael gafael cryf ar hynny, a dangos beth maen nhw’n ei wneud yn hynny o beth,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Gwnstabl Gwent Pam Kelly, sy'n ymddeol eleni, bod ei chyfnod wrth y llyw wedi bod yn un "heriol"

Fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau bod aelod o staff yr heddlu’n wynebu ymchwiliad gan eu hadran safonau proffesiynol, ond na allen nhw “wneud sylw pellach ar yr adeg hon wrth i ni symud tuag at wrandawiad disgyblu”.

Mae 鶹Լ Cymru wedi gwneud sawl ymgais i gysylltu gyda’r rheolwr dan sylw, ond nid yw wedi ymateb hyd yma.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fod y mater wedi dod i’w sylw nhw y llynedd, ond ar ôl ystyried, eu bod wedi penderfynu nad oedd angen ymchwiliad annibynnol “ac fe gafodd y mater ei basio yn ôl i Heddlu Gwent”.

'Wedi gwneud ein disgwyliadau’n glir'

Mewn datganiad pellach ddydd Iau dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Rachel Williams: “Rydym wedi gwneud ein disgwyliadau’n glir i swyddogion a staff na fyddwn yn goddef ymddygiad gwael.

“Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod cydweithwyr yn deall ac yn teimlo y gallant adrodd am unrhyw bryderon, ymddygiad heriol a chael cymorth."

Ychwanegwyd fod "tystion wedi cael eu diweddaru’n rheolaidd drwy gydol y broses i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn".

Pynciau cysylltiedig