Â鶹ԼÅÄ

Gofal dementia a'r Gymraeg: Beirniadu 'cynnydd araf'

Claf a gofalwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cynyddu'r momentwm er mwyn gwella'r ddarpariaeth Gymraeg i gleifion a theuluoedd yn y blynyddoedd nesaf, medd Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am ragor o weithredu i sicrhau bod mwy o ofalwyr Cymraeg yn gweithio ym maes gofal dementia.

Dyna oedd un o argymhellion adroddiad yn 2018 gan y comisiynydd iaith ar y pryd, Meri Huws, a Chymdeithas Alzheimer's Cymru.

Ond mae'n bryder gan y comisiynydd presennol, Efa Gruffudd Jones, nad oes llawer o gynnydd wedi bod yn y maes ers yr adroddiad hwnnw, er sawl cam cadarnhaol.

Dywed Llywodraeth Cymru bod cynllun ar waith i gryfhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r Gymraeg dros bum mlynedd.

Ychwanegodd llefarydd bod grŵp Dementia a'r Iaith Gymraeg wedi ailddechrau cyfarfod yn ddiweddar - cam mae'r comisiynydd yn ei groesawu.

'Angen clinigol, nid dewis'

Mewn papur polisi newydd mae Efa Gruffudd Jones yn argymell casglu profiadau cleifion a gofalwyr Cymraeg wrth werthuso Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia, a sicrhau bod y cynllun gweithredu nesaf "yn gosod y Gymraeg fel elfen greiddiol".

Mae hi hefyd yn argymell creu swydd benodol ar gyfer arwain ar y Gymraeg a dementia, gan ddadlau taw "dyna'r unig ffordd, yn fy marn i, y gallwn symud ymlaen yn briodol ac yn amserol".

Dywedodd bod y "momentwm oedd yn bodoli [yn dilyn cyhoeddiad adroddiad 2018] a sefydlu is-grŵp gweithredu wedi arafu'n sylweddol".

Mae hi'n cydnabod bod y pandemig "yn ffactor yn hynny ond mae angen yn awr ailadeiladu'r momentwm er mwyn gallu cynnig gofal dementia addas drwy'r Gymraeg".

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Efa Gruffudd Jones bod cynnig gwasanaethau gofal drwy ddewis iaith y claf yn hollbwysig

Nawr yw'r amser, meddai ar raglen Dros Frecwast, "i ailgydio yn y gwaith yma" tra bod y llywodraeth yn adolygu cynllun dementia Cymru.

"Mae'n hynod amserol ein bod ni'n tynnu sylw unwaith eto at y ffaith: os nad yw gofal ar gael yn Gymraeg, mae diffyg yn y gofal hwnnw," dywedodd y comisiynydd.

"Mae ymchwil wedi dangos dro ar ôl tro bod derbyn gofal yn eich mamiaith yn fater o angen clinigol mewn gwirionedd, ac nid yn ddewis."

Dywed bod yna "faterion yn ymwneud â hyfforddi'r gweithlu trwy gyfrwng y Gymraeg" a bod angen "tynnu llawer iawn o bobl at ei gilydd i ddatrys hyn" gan fod cymaint o asiantaethau ynghlwm â'r sector.

Problem arall, meddai, yw diffyg "darlun mawr" o faint y galw am ddarpariaeth Gymraeg ac yn lle mae'r galw hwnnw, gan fod "dim digon o gasglu data am anghenion gofal cleifion" nac am sgiliau Cymraeg y gweithlu.

Roedd Catrin Hedd Jones, sy'n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerwrangon, ymhlith yr arbenigwyr a luniodd argymhellion yr adroddiad yn 2018.

Dywedodd ar Dros Frecwast ei bod yn "drist" fod adroddiad arall ers hynny wedi nodi bod nifer o gartrefi gofal "ddim yn gofyn beth yw iaith eu preswylwyr" er mwyn gweld a oes angen darparu gofal trwy'r Gymraeg.

Mae'n bwysig, meddai, bod cleifion dementia yn cael asesiadau "yn yr iaith 'dach chi'n gryfa' ynddo, achos os 'dach chi'n cael asesiad mewn ail iaith, fysa rhywun ddim yn 'neud cystal, a wedyn mae'r canlyniadau yn gallu bod yn anghywir".

Ychwanegodd ei bod yn bwysig fod preswylwyr cartrefi gofal yn teimlo mor gartrefol â phosib yno.

"Os ydy lleferydd rhywun wedi cael ei effeithio, mae clywed eich iaith eich hun yn gallu 'neud gwahaniaeth i sut 'dach chi'n teimlo," meddai.

'Y Gymraeg yn flaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yn llwyr fod y Gymraeg yn elfen allweddol o ofal, yn enwedig wrth drafod pryderon sensitif ac emosiynol a phan fydd cleifion/defnyddwyr gwasanaethau yn newid i'w hiaith gyntaf.

"Rydym yn gweithio tuag at ein nod o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros bum mlynedd, fel y nodir yn ein cynllun Mwy na Geiriau.

"Mae'r grŵp Dementia a'r Iaith Gymraeg wedi ailsefydlu'n ddiweddar, a bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth yn y trefniadau sy’n dilyn y Cynllun Gweithredu ar Ddementia."