鶹Լ

Môn: Dadl dros ddatblygiad pentref gwyliau yn mynd i'r llys

Cynlluniau'r cwmni
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2012 cyflwynodd Land and Lakes gais cynllunio i godi 500 o fythynnod gwyliau a chyfleusterau hamdden ar ran o safle Penrhos

  • Cyhoeddwyd

Cafodd gwrandawiad ei gynnal ddydd Mercher a all siapio dyfodol cynllun gwerth £120m y mae gwrthwynebwyr yn honni y byddai’n "dinistrio" rhannau o warchodfa natur ar Ynys Môn.

Yn 2013 – ar ôl gwrthod y cynllun yn wreiddiol – rhoddodd gynghorwyr yr ynys sêl bendith i ddatblygiad a fyddai’n cynnwys 500 o gabanau gwyliau ar dir ym Mharc Arfordirol Penrhos ger Caergybi.

Gyda datblygwyr yn gobeithio creu hyd at 600 o swyddi, cafodd caniatâd cynllunio amlinellol ei gymeradwyo’n swyddogol yn 2016.

Ond mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu'r cynlluniau yn honni bod y dyddiad cau i ddechrau'r gwaith wedi pasio a bod angen i’r cwmni ailgyflwyno'r cais o'r newydd am ganiatâd cynllunio.

Dywedodd y barnwr yn y gwrandawiad ddydd Mercher, Mr Mould, y bydd yn datgan ei benderfyniad mewn gwrandawiad arall sydd eto i'w drefnu.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl sefydliad y Woodland Trust, mae'r parc yn denu rhyw 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno

Mae Cyngor Môn, sydd wedi sicrhau ei gyngor cyfreithiol ei hun, yn dweud bod y caniatâd gwreiddiol yn dal i sefyll ac bod digon o waith wedi ei gwblhau o fewn yr amser priodol.

Ddydd Mercher cafodd adolygiad barnwrol ei gynnal yng Nghaerdydd i ystyried a yw'r caniatâd gwreiddiol yn parhau i fod yn ddilys.

Cynlluniau dadleuol

Byddai cynigion Land and Lakes yn golygu datblygu ar barc arfordirol Penrhos gan gynnwys 500 o gabanau yn ogystal â pharc dŵr, neuadd chwaraeon, sba, sawna a bwytai.

Roedd y tir yn eiddo i Alwminiwm Môn, ond daeth y chynhyrchu metel i ben yn y ffatri yn 2009 wrth i 400 golli eu swyddi.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn y datblygiad pan drafodwyd y cynlluniau'n gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Mon yn 2013

Yn 2011 arwyddodd y cwmni gytundeb gyda Land and Lakes i ddatblygu rhannau o’r parc at ddiben gwyliau.

Mae’r caniatâd cynllunio gwreiddiol hefyd yn cynnwys safle Cae Glas i greu 315 o gabanau ychwanegol – a gynlluniwyd yn wreiddiol i gartrefu gweithwyr sydd angen llety wrth adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd – yn ogystal â gwesty, meysydd pêl-droed a chriced a gwarchodfa natur.

O dan y cynlluniau byddai trydydd safle, yr ochr arall i'r dref yn Kingsland, yn cynnwys adeiladu 360 o dai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos yn honni y byddai’r datblygiad yn “dinistrio” bywyd gwyllt y safle

Ond mae'r bwriad, yn enwedig ar gyfer safle Penrhos, wedi bod yn ddadleuol, gan ddenu ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn.

Yn 2013 aeth aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Môn yn erbyn cyngor swyddogion cynllunio drwy wrthod y cais ‘hybrid’, cyn iddyn nhw wyrdroi eu penderfyniad yn dilyn mis o gyfnod ‘cnoi cil’.

Dros ddegawd yn ddiweddarach, mae'n debyg y bydd tynged y cynllun yn cael ei benderfynu yn y llys.

Adolygiad barnwrol

Mae dal angen caniatâd cynllunio llawn ar gyfer rhai agweddau o'r cynlluniau, gyda’r caniatâd cyfredol yn un amlinellol yn unig.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn wrth 鶹Լ Cymru y byddai’r adolygiad barnwrol yn canolbwyntio ar ddwy “agwedd benodol a thechnegol o’r caniatâd cynllunio gwreiddiol”.

Yr agweddau hyn yw a oedd digon o waith wedi'i gwblhau ar Bailiff’s Tower fel canolfan ymwelwyr, a gwaith ar lwybrau troed ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc yn un gwledig ac yn hafan i fyd natur yn ôl ymgyrchwyr

Yn dilyn gwrandawiad blaenorol ym mis Mawrth a gadarnhaodd y byddai’r achos yn symud ymlaen i adolygiad barnwrol, ychwanegodd yr awdurdod: “Cadarnhawyd gan y barnwr fod gan yr hawlydd achos y gellid ei ddadlau ar ddwy sail benodol yn unig ac y byddai gwrandawiad arall yn cael ei drefnu ar gyfer yr Uchel Lys yn ddiweddarach eleni er mwyn clywed dadleuon ar y seiliau hynny.

"Cadarnhaodd y barnwr fod caniatáu'r ddwy sail yma i gael eu dadlau yn cael ei wneud o drwch blewyn ac nad oedd yn dymuno rhoi 'ffug obaith' (geiriau'r barnwr) i'r hawlydd.

"Mae'r cyngor sir yn parhau'n hyderus yn ei broses o wneud penderfyniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ar gyfer y parc gwyliau yn cynnwys bythynnod ac mae'r cwmni'n dweud y byddai'n creu cannoedd o swyddi

Nid oedd y datblygwyr, Land and Lakes, am wneud sylw cyn y gwrandawiad, ond maen nhw eisoes wedi datgan bod y gwaith ar y datblygiad wedi dechrau yn 2021, “sy’n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ei le am byth”.

Ond er nad oes ganddyn nhw “unrhyw gynlluniau i gyfyngu mynediad y cyhoedd i safle Penrhos”, ychwanegodd y cwmni fod “datblygiad ar raddfa lawn wedi’i oedi wrth i ni aros i’r heriau presennol yn economi’r DU leddfu”.

Dywedon nhw hefyd eu bod “wedi ymrwymo i sicrhau bydd hawl mynediad i 73 erw o goed a llwybrau, ac agor 100 erw arall ger Cae Glas i’r cyhoedd ei fwynhau”.

'Mae ein hymgyrch yn un llawr gwlad'

Mae Grŵp Achub Penrhos wedi bod yn brwydro yn erbyn y cynlluniau ers tua 15 mlynedd, gan honni bod y coetir yn gartref i lawer o rywogaethau prin o fflora a ffawna, gloÿnnod byw, madfallod dŵr a wiwerod coch.

Yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ers 1967, mae’r grŵp yn dweud y byddai'r parc gwyliau yn colli tua 27 erw o goetir hynafol os byddai'r cynllun yn cael ei wireddu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ond dywedodd y cwmni y bydd 73 o aceri yn parhau ar gael i'r cyhoedd fwynhau

Mae Hilary Paterson-Jones, sydd wedi teithio i Gaerdydd cyn y gwrandawiad ddydd Mercher, yn dweud eu bod yn teimlo’n hyderus “oherwydd eu bod mynd mor bell â hyn”.

Ond os maen nhw'n methu, fe all y grŵp wynebu costau cyfreithiol o hyd at £45,000.

“Mae’n amlwg nad oes unrhyw ddechrau go iawn wedi bod ar y gwaith, fe wnaethon nhw addo y byddai’n agor yn 2015 ac yn creu 600 o swyddi ond does dim byd wedi digwydd,” meddai.

“Mae Caergybi yn cynnwys rhai o’r wardiau tlotaf yng Nghymru, cafodd pobol eu cymryd i mewn gan yr addewid o swyddi ond mae ‘na wrthwynebiad cryf wedi bod erioed.

“Mae ein hymgyrch yn un llawr gwlad, mae ein costau yn y degau o filoedd o bunnoedd ond mae’r gefnogaeth gan y cyhoedd wedi bod yn anghredadwy”

Pynciau cysylltiedig