Â鶹ԼÅÄ

Y Gymraeg yn un o'r ieithoedd prydferthaf, yn ôl seren Hollywood

Bydd sioe Hamilton yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf fis TachweddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd sioe Hamilton yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf fis Tachwedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyfansoddwr a'r actor enwog, Lin-Manuel Miranda, wedi disgrifio'r Gymraeg fel "un o'r ieithoedd cerddorol mwyaf prydferth erioed".

Dywedodd yr Americanwr y byddai gallu cyfansoddi rhywbeth yn yr iaith yn "gymaint o hwyl".

Mae Miranda yn enw mawr yn y diwydiant ffilm a cherddoriaeth ac ef sydd wedi cyfansoddi y sioe gerdd Hamilton sydd wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Pulitzer yn 2016.

Dywed Miranda ei fod wedi syrthio mewn cariad â Chymru tra'n ffilmio’r ddrama His Dark Materials i'r Â鶹ԼÅÄ yn 2018 ac mae'n llawn canmoliaeth o'r cestyll a’r bwyd yma.

Wrth siarad â Lucy Owen ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales ychwanega Miranda nad yw ei ffrindiau yn Llundain mor frwd dros Gaerdydd: “Os ydw i’n berffaith onest, pan glywon nhw fy mod i’n mynd, roedden nhw ychydig yn snobyddlyd am y peth.

"Ac yna fe gyrhaeddon ni ac roedden ni wrth ein bodd, fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â'r lle. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffordd o ddod yn ôl - boed trwy waith neu rhywbeth arall.

"Mae gennych chi gastell hyfryd bob 500 troedfedd, bwyd anhygoel, mae'n rhan brydferth o'r byd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lin-Manuel Miranda yn chwarae rhan Lee Scoresby yn y His Dark Materials - cynhyrchiad a gafodd ei ffilmio yng Nghymru

Mae'n gwbl amlwg bod Miranda a'i deulu wedi bod wrth eu boddau yng Nghymru.

Fe gafodd fideos ohono yn canu carioci mewn bar yng Nghaerdydd eu rhannu sawl gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe aeth i far Porters wedi i un o'i gefnogwyr sôn wrtho am y lle.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl cyrraedd unrhyw benawdau. Roeddwn i ddim ond eisiau canu rhai o alawon y sioe mewn bar.

"Un o hoff lefydd fe a'i deulu yw'r Gelli Gandryll sy'n llawn o siopau hufen iâ a siopau llyfrau gwych," ychwanegodd.

Mae ei sioe gerdd Hamilton ar fin teithio ar draws y DU gan ddod i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Dywed Miranda ei fod wrth ei fodd bod y sioe yn dod i Gymru - mae'n seiliedig ar fywyd un o sylfaenwyr yr Unol Daleithiau, Alexander Hamilton.

Mae'r castio cynhwysol yn torri tir newydd wrth i actorion o wahanol gefndiroedd ethnig chwarae rhannau sefydlwyr America gan herio'r darlun traddodiadol.

Ond dywed Miranda fod hyn wedi digwydd yn naturiol iawn.

Mae'n bosib y bydd cyfle i'r rhai fydd yn mynd i'r sioe gerdd yng Nghaerdydd gyfarfod â'r seren fyd enwog.

"Efallai bydd y sioe yn esgus i mi ddychwelyd i Gymru," ychwanegodd.