Llangollen: Dyn yn yr ysbyty gydag 'anafiadau difrifol'

Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych ddydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A539 ger Llangollen am tua 11:00 ar ôl adroddiadau fod beic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd ger tafarn The Sun Inn rhwng Trefor a Llangollen.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Stoke gyda'r hyn y mae Heddlu'r Gogledd yn ei ddisgrifio fel "anafiadau difrifol".

Mae'r llu yn apelio am wybodaeth.