Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487 yn ardal Maentwrog

Mae dynes yn ei 60au a gafodd anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Gwynedd dair wythnos yn ôl wedi marw yn yr ysbyty.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 yn ardal Tan-y-Bwlch, Maentwrog tua 10:20 fore Mawrth 13 Awst.

Roedd yna ddau gerbyd yn y gwrthdrawiad - car Fiat Abarth a lori.

Bu'n rhaid cludo gyrrwr y Fiat mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Stoke, ond bu farw o'i hanafiadau ddydd Gwener, 30 Awst.

Dywedodd Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru bod ci a oedd yn y car gyda'r ddynes wedi gwella'n llwyr o'r anafiadau a gafodd yn y digwyddiad.

Mae manylion yr achos wedi eu rhoi i'r crwner, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Gan gydymdeimlo â theulu'r ddynes a fu farw, mae'r Ditectif Sarjant Katie Davies o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn diolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â'r heddlu.

Ond parhau mae'r apêl i glywed "gynted â phosib" gan "unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un allai fod wedi teithio ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad allai fod â lluniau dash cam".