鶹Լ

Gwynedd: Mwy o bwerau i ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol

CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gorchmynion yn berthnasol mewn rhannau o ganol tref Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae gorchymyn cyfreithiol i roi mwy o bwerau i'r heddlu ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn tair tref yng Ngwynedd wedi derbyn sêl bendith cynghorwyr.

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo’r mesurau yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chricieth yn dilyn cais gan swyddogion diogelwch cymunedol.

Clywodd aelodau cabinet ddydd Mawrth fod mesurau o'r fath wedi derbyn cefnogaeth y cyhoedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan roi grymoedd ychwanegol i'r heddlu ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac yfed ar y stryd.

Bydd y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC), a fydd yn eu lle am dair blynedd, yn caniatáu i swyddogion ddirwyo’r rhai sy’n methu â chydymffurfio a gofynion y gorchmynion.

Mae’r rhain yn cynnwys parhau i yfed alcohol ar ôl gofyn iddyn nhw stopio, ymddwyn mewn modd sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw, niwsans a gofid, a methu â gwasgaru pan ofynnir i wneud hynny gan swyddogion heddlu.

Y tair ardal sy'n destun y gorchmynion yw ardal y Maes ym Mhwllheli, rhannau o ganol tref Caernarfon a rhannau o dref Cricieth ger yr arfordir.

Dywedodd Daron Owens, Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, mai ond awdurdodau lleol sydd â’r hawl i gyflwyno GDMC.

“Gallant anfon neges clir na fydd rhai mathau o ymddygiad yn cael eu goddef a helpu i roi sicrwydd i drigolion ein bod yn ymateb i ymddygiad afresymol.

“’Da ni wedi derbyn tystiolaeth sylweddol yn dangos graddfa ac effaith ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn yr ardaloedd yma ac o’r dystiolaeth rydym yn fodlon fod yr ymddygiad yn cyrraedd y meini prawf i gyfiawnhau gorchymyn.

“Sef ei fod yn cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn y cyffiniau yn barhaus ac afresymol ei natur.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pwllheli yn un o dair tref fydd wedi ei heffeithio gan y mesurau

Ychwanegodd: “Dim ond pan fydd pobl sy’n yfed alcohol yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n debygol o wneud hynny y bydd swyddogion yn gorfodi’r gwaharddiad hwn.

“Nid yw’n drosedd yfed alcohol mewn ardal GDMC, yn hytrach mae’n drosedd i beidio cydymffurfio â chais i roi’r gorau i yfed neu ildio’r alcohol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan fod “gwaith sylweddol” yn digwydd yn yr ardaloedd dan sylw, ond mai “rhan o’r datrysiad” oedd gorchmynion o’r fath.

Ychwanegodd: “Un arf yn y bocs tools ydy hyn i edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut ‘da ni’n delio hefo fo.”

Pynciau cysylltiedig