Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn cynnwys car heddlu

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ystad Ddiwydiannol Glandwr yn Aberbîg

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd, oedd yn cynnwys car heddlu.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ystad Ddiwydiannol Glandwr yn Aberbîg - ar y ffin rhwng siroedd Caerffili a Blaenau Gwent - am 10:35 fore Gwener.

Dywedodd Heddlu Gwent fod pedwar cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a bod y car heddlu oedd yn rhan ohono yn ymateb i alwad frys ar y pryd.

Ychwanegodd y llu bod pedwar dyn wedi cael eu cymryd i'r ysbyty.