Cynllun i ofalu am anifeiliaid anwes dioddefwyr trais

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae elusennau anifeiliaid bellach yn cynnig cynllun maethu i anifeiliaid sydd angen gofal dros dro wrth i'w perchnogion ffoi o drais
  • Awdur, Caitlin Parr
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl sy'n ceisio ffoi rhag trais yn y cartref wrth ofalu am anifeiliaid anwes.

Mae 麻豆约拍 Cymru wedi siarad 芒 goroeswyr sy'n dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau fod pobl yn gallu dianc heb orfod gadael eu hanifeiliaid.

Yn 么l ymchwil gan elusen anifeiliaid, doedd dim un o鈥檙 31 o lochesi menywod a sefydliadau cam-drin domestig yng Nghymru a gafodd eu holi yn fodlon derbyn anifeiliaid anwes gyda鈥檜 perchnogion.

Dywedodd Cymorth i Ferched Cymru fod hyn yn amlygu鈥檙 angen am 鈥渟ystemau cymorth cynhwysfawr鈥 yng Nghymru, a fydd yn mynd i鈥檙 afael 芒 phob agwedd ar fywydau goroeswyr.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae elusen Dogs Trust ymhlith yr elusennau sydd yn ymateb i'r galw am gymorth

Allan o'r 31 o sefydliadau lloches oedd wedi ateb holiadur Cats Protection fe wnaeth 27% ddweud y bydden nhw yn ystyried caniat谩u anifeiliaid anwes o dan "amgylchiadau cyfyngedig".

Tra bod anifeiliaid anwes yn aml yn gysur i bobl sy鈥檔 profi cam-drin domestig, maen nhw hefyd yn gallu bod yn rhwystr i gael mynediad at ddiogelwch.

Roedd gan Claudia, nid ei henw iawn, nifer o anifeiliaid gyda'i chyn-bartner yn ne Cymru, nes iddo ddechrau eu defnyddio fel ffordd o reoli ei harian hi - ffurf gyffredin o reoli drwy orfodaeth.

鈥淏yddwn i鈥檔 cael fy ngherdyn banc wedi鈥檌 dynnu oddi arnaf pe bai un o鈥檙 anifeiliaid yn s芒l fel na allwn fynd 芒 nhw at y milfeddyg,鈥 meddai.

鈥淒oedd e ddim eisiau i arian gael ei wastraffu arnyn nhw.鈥

'Fe wnes i aros ar gyfer yr anifeiliaid'

Yn 么l Claudi,a hi yn unig oedd yn gyfrifol am ofalu am eu hanifeiliaid.

Ar un achlysur, roedd ei chyn-bartner yn bygwth lladd anifail, yn hytrach na chaniat谩u iddi fynd ag ef at filfeddyg.

鈥淔e wnaeth e fygwth mynd 芒鈥檙 anifail at ei ffrind oedd 芒 gwn er mwyn saethu鈥檙 anifail.

鈥淩oedd y bygythiadau i fywydau鈥檙 anifeiliaid yn gyson,鈥 a hynny i'w chadw yn y berthynas, meddai.

鈥淔e wnes i aros a gwarchod yr anifeiliaid am flynyddoedd,鈥 ychwanegodd.

鈥淩oeddwn i鈥檔 sownd, ac roedd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth y gallwn i鈥檞 cadw鈥檔 ddiogel.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Jules ymhlith y gwirfoddolwyr sy'n gofalu am yr anifeiliaid dros dro

Eleni fe ddywedodd mwy na 150 o oroeswyr wrth Cymorth i Ferched Cymru y byddai eu hanifeiliaid anwes mewn perygl pe byddent yn gadael eu perthynas dreisgar.

Mae elusennau anifeiliaid blaenllaw wedi cyflwyno gwasanaethau maethu yng Nghymru yn benodol ar gyfer pobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, er mwyn sicrhau cartref dros dro diogel i'w hanifeiliaid wrth iddynt geisio diogelwch.

鈥淩wy鈥檔 meddwl am y sefyllfa y byddai鈥檙 anifail ynddi,鈥 meddai Jules, un o鈥檙 rhai sy鈥檔 cymryd yr anifeiliaid anwes dros dro trwy Cats Protection.

"Gallai teulu fod yn ddigartref yn sydyn a does dim modd iddyn nhw feddwl am anifeiliaid anwes. Ni allant fynd 芒'r gath honno gyda nhw."

Agorodd elusen Cats Protection eu canolfan gyntaf yng Nghymru ym mis Mawrth, ar 么l derbyn nifer cynyddol o achosion o Gymru.

鈥淗yd yn hyn, rydyn ni wedi helpu mwy 'na 30 o gathod, sy鈥檔 golygu bod 16 o'u perchnogion wedi cyrraedd diogelwch,鈥 meddai Charlie Munden, o鈥檙 elusen.

Mae gwasanaethau Cats Protection a Dogs Trust yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig 芒 gofalu am anifail.

Maen nhw'n gyson yn chwilio am faethwyr newydd i ofalu am anifeiliaid anwes dros dro, tra bod eu perchnogion yn chwilio am lety diogel.

鈥淢ae goroeswyr yn bobl gyflawn,鈥 meddai Stephanie Grimshaw, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Cymorth i Ferched Cymru.

鈥淣id dim ond rhywun sydd wedi mynd trwy drais yn erbyn menywod a merched ydyn nhw.

"Maen nhw'n rhywun sydd 芒 chi, cath, neu fochdew... mae ystyried rhoi nhw i ffwrdd am byth yn ormod.

鈥淢ae angen i ni wneud yn si诺r wrth gefnogi goroeswyr eu bod nhw'n cael eu gweld fel person cyfan gyda phob agwedd o'u bywyd, ac nid dim ond yr hyn maen nhw'n mynd drwyddo ar hyn o bryd,鈥 ychwanegodd Ms Grimshaw.

'Wnaethon nhw gadw fi'n fyw'

Wedi cyfnod ar wah芒n, mae Claudia a'i hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd unwaith yn rhagor.

鈥淔e allwn ni fynd am dro nawr a pheidio 芒 gorfod poeni bod rhywun yn ein dilyn ni, neu fod rhywun yn mynd i geisio eu dwyn oddi arnaf.

鈥淩oedd yna adegau pan o'n i'n meddwl 'alla i ddim byw fel hyn bellach' ond maen nhw eich angen chi - felly mae'n rhaid i chi.

"Dwi'n gorfod cadw nhw'n ddiogel oherwydd wnaethon nhw gadw fi'n fyw."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆约拍.