Rhybudd bydd 'pobl yn marw' heb uned ysbyty dros nos

Disgrifiad o'r llun, Mae protestwyr wedi ymgasglu tu allan i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli
  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae trigolion Llanelli yn ofni y bydd pobl yn "colli eu bywydau" pan fydd uned mân anafiadau Ysbyty'r Tywysog Philip yn cau dros nos.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd yr uned yn Llanelli ar gau dros nos am chwe mis o fis nesaf "o ganlyniad i bryderon ynghylch diogelwch cleifion" yn sgil heriau staffio.

Ond mae trigolion yn poeni na fydd yr uned yn ailagor dros nos unwaith iddi gau.

Cafodd Cynthia Gilasbey, 72, ei chymryd i'r ysbyty ym mis Chwefror eleni gyda sepsis.

Yn ôl ei gŵr, Neville, pe bai'r uned ar gau dros nos, mae'n bosib na fydd ei wraig wedi goroesi'r salwch.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Neville Gilasbey yn credu y byddai ei wraig Cynthia wedi marw pe bai'r uned ar gau pan roedd hi angen cymorth

Bydd yr uned mân anafiadau ar gau rhwng 20:00 ac 08:00 am chwe mis o 1 Tachwedd, yn ôl y bwrdd iechyd.

Clywodd y bwrdd taw "diffyg sylweddol a pharhaus o ofal meddygol" oedd y rheswm dros gwtogi ar oriau'r uned am gyfnod, a hynny yn dilyn pryderon am ddiogelwch cleifion a lles staff.

Mae protestwyr bellach wedi sefydlu gwersyll 24-awr y tu allan i'r ysbyty yn galw ar y bwrdd iechyd i ailfeddwl eu penderfyniad.

'Bydden ni wedi colli hi'

Ymhlith y protestwyr mae Neville Gilasbey, sy'n byw llai na milltir o'r ysbyty.

Fe ddywedodd: "Chwefror eleni des i mewn a' ngwraig i'r minor injury unit am naw o'r gloch y nos.

"Oedd sepsis gyda hi ond ar y pryd, o'n ni ddim yn gwybod beth oedd yn bod.

"Heb fod hi wedi cyrraedd yr ysbyty yn gyflym ac os o'n nhw heb weld taw sepsis oedd ganddi, bydden ni wedi colli hi, a fydd hi ddim yma nawr."

Disgrifiad o'r llun, Mae Neville yn poeni y gallai pobl golli eu bywydau o ganlyniad i gau yr uned dros nos

Yn ôl Neville, nid yw teithio i Ysbyty Treforys yn Abertawe neu Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn opsiwn i nifer o bobl.

"Hyd yn oed os ydy pobl gyda char i yrru 30 neu 40 munud, unwaith chi'n cyrraedd yr ysbytai 'na bydd rhaid i chi aros am 10-11 awr i gael unrhyw fath o driniaeth oherwydd maen nhw dan straen hefyd.

"Gallai arwain at bobl yn colli eu bywydau."

'Penderfyniad peryglus iawn'

Yn gynharach fis yma clywodd y Senedd fod yr uned yn cael ei harwain gan nyrsys yn rheolaidd o ganlyniad i'r ffaith nad oedd digon o feddygon teulu ar gael i weithio yno.

Yn ôl adroddiad ar wasanaethau’r bwrdd iechyd roedd 42 enghraifft o'r gwasanaeth dros nos yn cael ei gynnig heb feddyg rhwng Chwefror a Gorffennaf eleni, gyda'r gwasanaeth yn cael ei arwain gan staff nyrsio ar yr adegau hynny.

Yn ôl y Cynghorydd Alex Evans, dyw'r bwrdd iechyd heb drafod y penderfyniad gyda'r cyngor sir na thrigolion lleol.

"Mae'n benderfyniad peryglus iawn," meddai.

"Dylai'r bwrdd iechyd [fod] wedi cynnal ymgynghoriad gyda phobl leol. Mae pobl eisiau atebion ynglŷn â beth fydd angen iddyn nhw wneud nawr os yw nhw'n sâl yn y nos, ond dyw hynny heb ddigwydd.

"Mae'n teimlo fel bod Hywel Dda wedi rhoi lan. Oes digon wedi cael ei wneud i roi cymorth i'r staff a dod o hyd i ddoctoriaid?"

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Alex Evans yn dweud fod cwtogi oriau'r uned yn "benderfyniad peryglus iawn"

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan - yn ei rôl flaenorol fel gweinidog iechyd - osod y bwrdd iechyd i statws "ymyrraeth wedi'i thargedu" oherwydd bod heriau ariannol a chynllunio yn effeithio ar ei berfformiad.

Mae'r Cynghorydd Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ymhellach a gosod y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig - cynnydd i’r lefel uchaf.

"Mae'r llywodraeth wedi methu i recriwtio doctoriaid ar draws Cymru gyfan," meddai.

"Ni fel cyngor sir a'r cyngor gwledig nawr yn galw ar Jeremy Miles i gamu mewn ac i wneud rhywbeth i ddatrys y broblem yma."

'Wedi ceisio recriwtio mwy o feddygon'

Dywedodd arweinydd clinigol uned mân anafiadau Ysbyty'r Tywysog Philip fod y bwrdd yn deall pryder y cyhoedd am y penderfyniad.

Yn ôl Jon Morris mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud y penderfyniad i sicrhau "diogelwch a hyder" y bobl sy'n mynychu'r uned.

Ychwanegodd: “Ar hyn o bryd, mae’r diffyg i gyflenwi’r rota yn gyson gyda meddygon â’r cymwysterau addas, yn enwedig gyda’r nos a thros nos, yn peri risg i’n cleifion a’n staff.

“Rydym wedi ceisio recriwtio mwy o feddygon teulu i weithio dros nos yn yr uned mân anafiadau, ond hyd yma mae wedi bod yn aflwyddiannus."

Ychwanegodd y bydd yr ysbyty yn parhau i ddarparu gofal i drigolion, a bydd y "gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn parhau mewn lle".

“Mae’r uned asesu meddygol acíwt yn darparu ymchwiliadau a thriniaethau cyflym 24 awr pob dydd i gleifion sâl sydd â chyflwr meddygol brys, fel y rhai a allai fod wedi cael strôc, neu â chlefydau cronig, neu heintiau.

“Mae’r achosion hyn fel arfer yn dod i mewn i’r uned drwy ambiwlans neu drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu.

"Byddwn yn gweithio’n agos gyda meddygon teulu a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau bod y cleifion hyn yn parhau i gael eu gweld yn Ysbyty'r Tywysog Philip, fel eu hysbyty agosaf, yn ystod y newid dros dro hwn i’r uned mân anafiadau.â€