Cyhuddo dynes o lofruddio dyn 40 oed yn Wrecsam

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Pentre Gwyn ar 23 Hydref y llynedd

Mae dynes 50 oed o Wrecsam wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn 40 oed yn y dref.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn ardal Pentre Gwyn ar 23 Hydref y llynedd.

Fe gafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a’r lle.

Mae Joanna Wronska yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau.