Pryder am gynllun i godi tyrbinau gwynt ger Y Bala

Ffynhonnell y llun, RWE

Disgrifiad o'r llun, Dyma awgrym gan RWE o sut y byddai'r tyrbinau gwynt yn edrych ar Fynydd Mynyllod
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae cynllun newydd i godi naw o dyrbinau gwynt ar safle rhwng Corwen a鈥檙 Bala wedi arwain at bryderon yn lleol.

Yn 么l cwmni RWE, mi fyddai鈥檙 cynllun - sy鈥檔 destun ymgynghoriad cyhoeddus - yn cynhyrchu digon o ynni i bweru 48,000 o gartrefi.

Ond mae rhai trigolion yn poeni y gallai鈥檙 safle amharu ar yr olygfa a bioamrywiaeth yr ardal.

Dywedodd RWE eu bod nhw鈥檔 gwrando ar bryderon trigolion ond yn pwysleisio bod angen cynlluniau fel hyn i gyrraedd targedau sero net.

Fel rhan o'r cynllun presennol mi fyddai naw o dyrbinau yn gorwedd ar Fynydd Mynyllod sydd i鈥檙 de-orllewin o Gorwen ac i鈥檙 gogledd ddwyrain o鈥檙 Bala.

Mi fyddai dau o鈥檙 tyrbinau yn 200m o uchder gyda鈥檙 saith arall ychydig yn llai yn 180m.

Pwysleisio mae鈥檙 cwmni bod y safle鈥檔 ddeniadol oherwydd cyflymder y gwynt ac y byddai鈥檔 arwain at fudd i鈥檙 ardal leol.

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl yn teimlo fod y cynllun yma "yn ormod" meddwi Gwyneth Ellis

Ond gyda chyfarfod cyhoeddus eisoes wedi ei gynnal gan drigolion lleol gyda dros 100 yn bresennol, mae鈥檙 cynlluniau yn achosi "poen meddwl" yn 么l y cynghorydd sir leol, Gwyneth Ellis.

鈥淢ae pobl yn cydnabod bod angen ynni o ffynonellau adnewyddadwy, ond ar y llaw arall mi yda' ni angen amddiffyn ein bioamrywiaeth a鈥檔 byd natur," meddai.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod pobl yn teimlo bod hwn yn ormod i鈥檙 safle yma, mae鈥檔 safle i'r gylfinir, mawn, mae鈥檔聽un hanesyddol, felly dwi鈥檔 meddwl bod pobl yn teimlo ei fod o鈥檔 ormod a dwi鈥檔 dueddol o gytuno鈥.

Ychwanegodd y cynghorydd fod dod i gasgliad yn anodd gan ei bod hi鈥檔 deall yr angen am ynni glan, ond mynnodd bod angen prosiectau mwy 鈥渓leol sy鈥檔 rhoi budd i gymunedau鈥.

Yn 么l cwmni RWE, mi fyddai'r cynllun yn helpu busnesau lleol ac yn creu swyddi cynhyrchu.

Ger Mynydd Mynyllod, mae cartref Gwenllian Williams, sy鈥檔 dod o鈥檙 ardal, yn edrych allan dros y safle sy'n cael ei ystyried.

Mae hi'n anghytuno yn chwyrn gyda'r cynlluniau: 鈥'Da ni jest ddim isho gweld o, a 'da ni wedi arfer efo prydferthwch yr ardal a mynyddoedd o flaen y t欧 a r诺an bosib da ni am weld naw ohonyn nhw.

鈥淓fo鈥檙 haul yn mynd lawr bob nos tu 么l iddyn nhw, mi gawni鈥檙 flicker o鈥檙 haul mewn i鈥檙 gegin a lownj a bydd rhaid i ni gau ffenestri ni jest bob nos.

鈥淢a鈥檔 mynd i effeithio mental health ni, pam ddyle ni fyw fela, mewn bocs mewn ffordd, pam? Mae jest yn annheg."

Ychwanegodd Ms Williams eu bod nhw wedi buddsoddi mewn paneli solar, gan godi鈥檙 cwestiwn pam na all mwy o bobl wneud hynny.

Disgrifiad o'r llun, Mae'n rhaid cael prosiectau fel hyn os am gyrraedd targedau amgylcheddol, meddai Eleri Davies

Mae cwmni RWE yn cynnal sesiynau ymgynghori cyhoeddus er mwyn dod i ddeall pryderon a barn trigolion, ac yn 么l Eleri Davies, pennaeth ynni gwynt ar y tir i RWE,聽 maen nhw鈥檔 gwrando ar bryderon pobl leol.

鈥淒a ni鈥檔 mynd trwy broses o asesu鈥, meddai.

鈥淚 gyrraedd net sero mae targedau heriol iawn 鈥榙a鈥檙 llywodraeth yng Nghymru ac yn San Steffan hefyd, felly i gyrraedd bydd angen llawer o brosiectau fel hyn ar y tir ac ar y m么r... mae angen popeth arnom ni."

Ychwanegodd Ms Davies fod yr ardal 鈥榙an sylw wedi ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel un addas i godi trybini tebyg, ac mai'r llywodraeth fydd 芒'r gair olaf o ran caniat芒d cynllunio.

Mae RWE eisoes yn gyfrifol am sawl prosiect tebyg gan gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i bweru dros 500,000 o gartrefi.

Mi fydd yr ymatebion oll yn cael eu hystyried cyn y bydd disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad ar ddyfodol y safle yn y flwyddyn 2025.